Am Ynni Lleol CIC

Y broblem

Rŵan hyn, mae cynyrchyddion ynni adnewyddadwy yn gwerthu eu pŵer fesul uned (KWh) i gyflenwyr, ac mae pobl sy’n byw wrth ymyl yn prynu’r trydan yna’n ôl am ddwywaith neu deirgwaith y pris. Pam? Oherwydd does dim ffordd o ddangos bod pobl yn defnyddio pŵer pan fydd cynyrchyddion ynni adnewyddadwy lleol yn cynhyrchu a dim ffordd o wobrwyo paru defnydd pŵer gyda chynhyrchiad lleol. Mae hyn yn golygu nad ydy cynyrchyddion pŵer lleol a glân yn gallu derbyn pris teg am y pŵer maent yn ei gynhyrchu sy’n adlewyrchu ei wir werth. 

Yr ateb

Mae Ynni Lleol wedi dylunio marchnad bŵer leol drwy Glybiau Ynni Lleol. Mae hyn yn galluogi cartrefi i gasglu arian ynghyd i ddangos pryd maent yn defnyddio pŵer lleol a glân pan gaiff ei gynhyrchu. Mae’r cynllun yn rhoi pris i gynyrchyddion am y pŵer maent yn ei gynhyrchu, sy’n adlewyrchu ei wir werth, yn cadw mwy o bres yn lleol ac yn lleihau biliau’r cartref.

Dechreuodd ein Clwb Ynni Lleol cyntaf mewn tref fach o’r enw Bethesda yng ngogledd Cymru yn ôl yn 2016. Rydym ni’n defnyddio’r offer, systemau a’r gallu sydd wedi’i ddatblygu i greu dwsinau yn fwy o gynlluniau ar draws y DU. Rydym ni’n gweithio gyda chefnogaeth nifer o bartneriaid a noddwyr allweddol

Os ydych chi’n gartref neu yn gynhyrchydd posibl a chyda diddordeb mewn bod yn rhan o Ynni Lleol, cofrestrwch yma a byddwn ni mewn cysylltiad â chi.

Sut mae Ynni Lleol yn gweithio?

  1. Mae cartrefi a chynyrchyddion ynni adnewyddadwy ar raddfa fach fel aelodau yn ffurfio Clwb Ynni Lleol (CYLl) – sef cydweithrediad yn ôl y gyfraith.
  2. Mae mesuryddion ynni clyfar wedi’u gosod yn y cartrefi i ddangos pryd a faint o bŵer maent yn ei ddefnyddio.
  3. Mae’r aelodau (cartrefi a chynyrchyddion) yn cytuno ar bris (“tariff cyfatebol”) gaiff ei dalu i’r cynhyrchydd pan gaiff eu defnydd trydan ei baru gyda phan gaiff trydan ei gynhyrchu’n lleol, er enghraifft, rhoi eu peiriant golchi ymlaen pan fyddant yn gwybod bod y cynllun Hydro lleol yn gweithio nerth ei draed. 
  4. Bydd y Clwb yn dewis partner cyflenwr ynni (fel Octopus Energy) sy’n gwerthu’r pŵer ychwanegol sydd ei angen pan na fydd digon o drydan lleol yn cael ei gynhyrchu. Bydd y cyflenwr yn anfon anfoneb at bob cartref am y pŵer byddant yn ei ddefnyddio.

 

Aelodau’r Tîm Ynni Lleol