Cwestiynau Am Gofrestru

Gwybodaeth Gyffredinol

Ynglŷn â’r Porth

 

1. Pam ddylwn i gofrestru fy niddordeb?

Dylech gofrestru eich diddordeb os hoffech wybod mwy ynglŷn â bod yn aelod o Glwb Ynni Lleol. Drwy fod yn aelod o glwb, byddwch yn gallu defnyddio ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol (mae’n rhaid i chi fod yn aelod o Glwb cyn y gallwch wneud hynny).

Os oes Clwb Ynni Lleol yn eich ardal chi (neu os oes un yn cael ei ffurfio), fe anfonwn wybodaeth bellach am y cynllun atoch a chyfarwyddiadau beth i’w wneud nesaf. Os nad oes Clwb Ynni Lleol yn eich ardal chi, byddwn yn rhoi gwybod i chi pan neu os bwriedir ffurfio un.

 

2. Pwy fydd yn gweld fy manylion cyswllt?

I ddechrau, ni fydd eich manylion ar gael i neb heblaw Ynni Lleol CBC a’r rhai sy’n helpu i sefydlu Clwb Ynni Lleol yn eich ardal chi.

Yn ddiweddarach, os dewiswch ymuno â chlwb, bydd eich manylion yn cael eu hanfon at y cyflenwr trydan perthnasol, a fydd yn eu defnyddio er mwyn eich helpu i newid cyflenwr. Bydd eich manylion hefyd yn cael eu rhannu â’r cwmni sy’n gosod mesuryddion deallus, er mwyn iddynt drefnu gosod un i chi, a rhai partïon eraill y mae a wnelont â threfnu eich cyflenwad trydan a rheoli’r Clwb.

Ni fyddwn yn caniatáu i drydydd partïon eraill weld eich manylion cyswllt nac unrhyw fanylion personol amdanoch. Byddwn yn cadw ac yn defnyddio eich gwybodaeth yn unol â Deddf Diogelu Data 1998 a’n rhif cofrestru diogelu data yw ZA080052.

3. Beth ydych chi’n ei olygu wrth safle?

Rydym yn golygu unrhyw adeilad neu ran o adeilad sydd yn cael trydan drwy fesurydd trydan sydd â Rhif Gweinyddu Pwynt Mesurydd. Efallai y byddwch yn dymuno cynnwys mwy nag un safle mewn Clwb Ynni Lleol. Pan fyddwch yn cofrestru diddordeb, UN safle yn unig y cewch ei gofrestru. OND, unwaith y byddwch wedi cofrestru, cewch ychwanegu mwy o safleoedd o fewn yr un cyfrif.

 

4. Beth yw fy Rhif Gweinyddu Pwynt Mesurydd?

Os edrychwch ar eich bil trydan (mae’r un peth yn wir am filiau ar-lein), fe welwch grid sy’n edrych fel hyn:

MPAN

Eich Rhif Gweinyddu Pwynt Mesurydd yw’r gyfres o rifau a welwch wedi’u hamlygu ar linell isaf y diagram. Mae tri digid ar ddeg ynddo. Yn yr achos hwn, y rhif yw 8901234567890

 

5. Beth os wyf yn fusnesau bach neu adeiladau annomestig?

Gallwn hefyd gynnwys busnesau bach a safleoedd annomestig. Os gwelwch yn dda, nodwch nad yw eich safle yn ddomestig. Bydd ymgynghorydd eich Clwb lleol yn gweld os gall eich defnydd trydan ffitio i’r Clwb.

Os ydych yn fusnes bach, cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth.

 

6. Beth ydych chi’n ei olygu wrth gyfeiriad gohebu?

Mae’n bosib y byddwch yn dymuno i ohebiaeth gael ei hanfon i gyfeiriad heblaw cyfeiriad y safle sydd wedi’i gofrestru gyda’ch Clwb Ynni Lleol. Os felly, cewch ychwanegu cyfeiriad gohebu gwahanol ar ôl cofrestru eich diddordeb.
 

7.  Sut y bydda i’n gwybod ydw i o fewn ardal un o’r Clybiau? Beth os nad wyf yn gwybod ydw i ai peidio?

Mae gan bob Clwb Ynni Lleol ei dudalen gwe ei hun, sy’n disgrifio ymhle y mae’n gweithio ac yn rhoi map.

Os nad ydych yn siŵr, ticiwch y blwch ‘Dwi ddim yn siŵr’ yn lle dewis Clwb a byddwn ni’n gallu dweud wrthych.

Os ydych y tu allan i ardaloedd y clybiau presennol, cofrestrwch eich diddordeb a gallwn roi gwybod i chi pan fydd posibilrwydd o ffurfio Clwb yn eich ardal chi.

Os hoffech ystyried cychwyn Clwb yn eich ardal, nodwch eich diddordeb ar y Porth.

 

8. Ydi pob Clwb yn recriwtio?

Mae gwahanol glybiau:

  • wedi dechrau arni ond yn chwilio am fwy o aelodau, neu
  • wrthi’n cael eu ffurfio – hoffent i chi gofrestru eich diddordeb, neu
  • yn llawn – mae ganddynt ddigon o aelodau

Mae sefyllfa pob Clwb Ynni Lleol unigol yn cael ei nodi ar ei dudalen ar y we.

 

9. Beth fydd yn digwydd wedi i mi gofrestru fy niddordeb?

Byddwn yn edrych ar yr wybodaeth yr ydych wedi’i rhoi ac yn cadarnhau a ydych yn nalgylch Clwb Ynni Lleol ai peidio. Os nad ydych, fe rown wybod i chi a yw’n debygol y bydd Clwb yn cael ei ffurfio yn eich ardal chi yn y dyfodol.

Os ydych yn nalgylch Clwb, byddwn yn cadarnhau hynny ac yn anfon gwybodaeth bellach atoch am Ynni Lleol a’ch gwahodd i ddigwyddiadau. Os bydd digon o bobl yn cofrestru diddordeb, byddwn yn eich gwahodd i gymryd y cam nesaf. I ymuno â’ch Clwb lleol, byddai angen i chi dderbyn ei delerau aelodaeth, newid cyflenwr a chael gosod mesurydd.

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth

10. Sut ydym yn amcangyfrif eich cost flynyddol?

Sut ydym yn amcangyfrif eich cost flynyddol?

Pan ydych yn dechrau gydag Ynni Lleol, gwyddom ddim ond yn fras faint o drydan rydych yn ei ddefnyddio mewn blwyddyn, ond dim pa bryd. Ni wyddom chwaith os bydd hi’n flwyddyn heulog, wyntog neu wlyb, a bydd hyn yn dylanwadu ar faint o drydan a gynhyrchir. Felly, mae’n rhaid inni gymryd rhai pethau yn ganiataol i amcangyfrif eich cost gydag Ynni Lleol:

  • Os dywedwch wrthym faint o drydan rydych yn ei ddefnyddio, gallwn ddefnyddio hyn. Os dim, rhaid i ni seilio ein hamcangyfrif ar wybodaeth megis maint y tŷ etc.
  • Rydym yn cymryd yn ganiataol eich bod yn defnyddio ynni ar batrwm tebyg i batrwm defnydd cenedlaethol yn ystod y dydd – a bydd hyn yr un fath i bob cartref yn y Clwb.
  • Rydym yn cymryd bod canran o’r trydan rydych yn ei ddefnyddio yn cael ei gynhyrchu’n lleol. Bydd hyn yn amrywio’n ôl amser y dydd ac yn dibynnu ar fath y cynhyrchiad.

Er enghraifft, os yw’n solar, defnyddir ef yn ystod y dydd, ond os yw yn hydro, gallai gael ei ddefnyddio unrhyw amser y dydd.

Byddwn yn rhoi dau amcangyfrif i chi:

  1. O gyfanswm eich defnydd blynyddol, byddwn yn amcangyfrif faint y byddai’n ei gostio i chi bob mis (a’r swm blynyddol cyfatebol), gan gynnwys y ffi sefydlog, tra byddwch ar bris safonol cyn i’ch mesurydd gael ei osod a cyn i chi ymuno â thariff Ynni Lleol.
  2. Wedyn, gallwn amcangyfrif faint o ynni rydych yn ei ddefnyddio ar adegau gwahanol o’r dydd, a faint byddai cyfanswm y gost (fel amcangyfrif) am eich trydan am flwyddyn ar dariff Ynni Lleol. Byddwn hefyd yn ychwanegu’r ffi sefydlog a ffi i’r Clwb.

Os ydych hefyd yn cael eich nwy o’r cyflenwr, yna byddwn yn amcangyfrif cost eich nwy am y flwyddyn un ai o’ch defnydd blaenorol, neu byddwn yn amcangyfrif hwnnw.

Nid yw costau amcangyfrif yn cynnwys TAW.

Cofiwch mai amcangyfrif yn unig yw hyn.

Gallwch weld y tariff amser defnyddio a’r tariff cyfatebol ar dudalen eich Clwb. Pwyswch yma i weld rhestr o’r Clybiau Ynni Lleol.

11. Talu drwy ddebyd uniongyrchol??

Os ydyh yn aelod o Glwb gweithredol, gallwch gynnig eich trydan sbâr i’ch Clwb Ynni Lleol.

Pan rydych yn ymuno ag Octopus Energy, byddan nhw’n eich rhoi ar ddebyd uniongyrchol safonol yn awtomatig. Golyga hyn eich bod yn talu’r un swm ar yr un diwrnod bob mis, yn seiliedig ar amcangyfrif o’ch defnydd. Unwaith y bydd ganddoch eich cyfrif gydag Octopus, gallwch fewnlogio i newid y swm sefydlog rydych yn ei dalu. Os hoffech chi newid i ddebyd uniongyrchol newidiol, golyga hyn y byddwch yn cael nodyn yn eich hysbysu faint sydd arnoch chi y mis hwn, a bydd y swm yn cael ei dynnu o’ch cyfrif banc ychydig o ddyddiau yn ddiweddarach.

12. Rydwi’n cynhyrchu trydan. Beth sydd angen i mi wybod?

Cliciwch yma i weld rhestr o gwestiynau cyffredin ynghylch cynhyrchu trydan.

13. Sut gallaf siarad â chyflenwr y Clwb?

Ar gyfer ymholiadau gydag Octopus, energylocal@octopus.energy Ar gyfer ymholiadau gyda 100Green, defnyddiwch hello@100green.co.uk

14. Beth yw Hwb Cartref Ynni Lleol?

Gall defnyddio Hwb Cartref Ynni Lleol eich helpu i symud eich defnydd ynni lefel uchel i amser gwahanol o'r dydd trwy amserlennu offer yn eich cartref.

Darllenwch fwy ar yr Hwb Cartref yma

15. Beth yw CAD ac ydw i angen un?

Mae CAD yn fyr ar gyfer Consumer Access Device (Offer Mynediad i’r Cwsmer). Mae'r CAD yn cysylltu'ch mesurydd craff â gwasanaeth ynni eich cyflenwr trwy eich rhwydwaith WiFi cartref.

Bydd angen mesurydd deallus a CAD arnoch i ffitio o'r Tariff Amser Defnydd Lleol Ynni

Darllenwch fwy ar yr CAD yma

16. Sut y galla i ofyn rhagor o gwestiynau?

Gallwch weld y prif berson cyswllt ar gyfer pob Clwb ar y tab ‘Swyddogion’ ar dudalen gwe y Clwb. Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, anfonwch e-bost at y person cyswllt.

Os oes gwybodaeth bellach ar gael, bydd dolen yn dangos hynny ar y wefan.

Mwy o Wybodaeth

www.energylocal.co.uk/