Gall aelod o Ynni Lleol ddefnyddio’r plwg clyfar gyda’u Dangosfwrdd Ynni i reoli amser defnyddio peiriannau. Mae’r trefnydd yn darganfod yr amser gorau o’r dydd i gael y pŵer rhataf, yn ogystal â gwneud yn siŵr fod y peiriant wedi gorffen ar amser sy’n eich siwtio chi.
Cefndir
Mae’r Dashfwrdd Ynni yn eich galluogi i ddewis yr amser gorau i ddefnyddio trydan yn ôl faint o ynni lleol sydd ar gael a’r tariff amser defnyddio. Gallwch nawr ei ddefnyddio gyda phlwg clyfar.
Trefnydd Clyfar
Mae’r ‘lluniwr galw’ ar y Dangosfwrdd Ynni yn rhagweld y defnydd o drydan gan Glwb, rhagweld y cynhyrchiant, a’r Tariff Amser Defnyddio i amcangyfrif pa mor dda yw hi, fesul hanner awr, i ddefnyddio pŵer yn ystod y 24 awr nesaf.
- Ewch i 'dyfeisiau', dewiswch eich plwg clyfar a defnyddiwch y swyddogaeth Trefnydd Clyfar.
- Gosod pryd mae’n rhaid i’r peiriant orffen ac am ba hyd y mae’r rhaglen yn rhedeg.
- Ewch i opsiwn 'OK to Interrupt' (Iawn i Ymyrryd) a dewiswch os yw yn iawn neu ddim yn iawn i ymyrryd ar rediad y peiriant unwaith y bydd wedi dechrau.
- Bydd y Trefnydd Clyfar yn adnabod y cyfnod gorau posib i redeg y llwyth yn yr amser sydd ar gael.

Enghraifft o sgrinlun yn dangos swyddogaeth y Trefnydd Clyfar
I gael rhagor o wybodaeth, neu os hoffech wneud cais am blwg clyfar i roi cynnig arno, e-bostiwch robbie@energylocal.co.uk