Hoffai Ynni Lleol ei wneud yn haws a rhatach i ddefnyddio trydan lleol.
Rydym wedi derbyn grant i dreialu ‘Hwb Cartref’ Ynni Lleol i’ch helpu i amseru eich defnydd o offer trydanol i adegau gorau’r dydd, ond gan gadw at eich anghenion. Bydd hyn yn eich helpu i gael y gorau o Ynni Lleol a gwneud eich bywyd yn haws.
Byddwch yn gallu defnyddio eich dangosfwrdd Ynni Lleol i reoli’r 'Hwb Cartref! (plwg clyfar a ati) i’ch helpu amseru ymlaen llaw eich offer ac felly cymryd mantais o drydan lleol, rhad.
Hoffem ddeall sut mae aelwydydd yn defnyddio ynni trydanol ac archwilio a yw'n bosibl i aelwydydd addasu eu galw am ynni i ddefnyddio ynni sydd wedi ei gynhyrchu’n lleol ac o bosibl leihau biliau trwy ddefnyddio Tariff Amser Defnyddio is.
Hoffem wybod pwy sy’n defnyddio cerbydau trydan, gwres trydan neu offer arall sy’n defnyddio llawer o drydan, ond nid oes rhaid i chi fod gyda’r rhain i gymryd rhan.
Byddwn yn gwahodd y sawl sy’n cymryd rhan i drafod y prosiect a sut mae’n effeithio arnynt. Bydd y drafodaeth yn digwydd yn bersonol, mewn sesiynau galw-i-mewn, neu mewn gweithdai.
Byddwn yn gofyn i bobl dreialu ‘Hwb Cartref’ Ynni Lleol. Os oes gennych wres trydan, efallai byddwn yn gofyn i chi a gawn osod relái fel y gallwch reoli eich gwres hefyd.
Rydym eisiau deall pa mor hawdd ydi defnyddio Hwb Cartref Ynni Lleol i amseru offer, a beth ellir ei newid i wahanol adegau’r dydd.
Pwy all gymryd rhan?
Bydd rhaid i chi fod yn aelod o glwb Ynni Lleol, gyda band eang gartref, ac yn barod i lenwi holiaduron pan ofynnir.
Ydi’r prosiect yn dda i glybiau Ynni Lleol yn unig?
Nac ydi, mae’r prosiect yn eich helpu i elwa drwy ddefnyddio trydan ar brisiau rhatach, ac felly mae’n golygu biliau rhatach. Bydd yn dangos sut y gallwn reoli ein defnydd o ynni yn well, defnyddio mwy o ynni adnewyddol a gwneud ein system trydan yn saffach.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i'n CAD a plwg cylfar.