Mae Ynni Lleol yn trawsffurfio’r farchnad ynni ar gyfer cymunedau a chynhyrchwyr ynni adnewyddol bach. Ein cenhadaeth yw helpu cymunedau i gael mwy o werth o ynni adnewyddol a gynhyrchir yn lleol gan gynhyrchwyr bach, gan ddefnyddio’r ynni yn lleol.
Sut? Mae Ynni Lleol wedi ffeindio ffordd i bobl leol elwa o ynni lleol drwy gael pŵer drwy Glybiau Ynni Lleol. Bydd hyn yn galluogi cartrefi i ddod at ei gilydd a dangos eu bod yn defnyddio ynni lleol glân pan mae’n cael ei gynhyrchu. Maen nhw’n cytuno ar bris gwell i’r cynhyrchwyr lleol ac yn lleihau eu biliau. Mae hyn yn adlewyrchu gwir gwerth ynni lleol glân ac yn cadw’r arian yn lleol.
Os hoffech chi ddarganfod os a sut y gallech chi ddechrau Clwb yn eich cymuned eich hun, ymunwch ag un o'n Cyfarfodydd Rhagarweiniol.
Rydym am ymestyn y Clybau Ynni Lleol ar draws y DU – gallai hyn ei gwneud hi’n bosibl i greu miloedd rhagor o gynlluniau ynni glân, creu swyddi gwyrdd, taclo tlodi tanwydd a lleihau allyriadau carbon.
Mae’r porth hwn yn dweud mwy wrthych am y clybiau Ynni Lleol sy’n weithredol neu sy’n cael eu sefydlu. Cewch gofrestru eich diddordeb yma a chael gwybod am y datblygiadau diweddaraf. Edrychwch i weld a oes Clwb wedi’i sefydlu yn eich ardal drwy glicio yma.

I gael gwybodaeth am sut y gall Hwb Cartref Ynni Lleol eich helpu i amseru ymlaen llaw eich offer trydanol a chymryd mantais o drydan lleol, rhad, cliciwch y botwm isod.
Hwb Cartref – Cymorth llaw o gwmas y tŷ
Cliciwch y botwm am dangosfwrdd ynni
Cliciwch y botwm isod i gael gwybodaeth am eich Consumer Access Device (CAD) neu Offer Mynediad i’r Cwsmer yn Gymraeg a sut i'w sefydlu.
Y llawlyfr Ynni Lleol – pwyswch yma i ddarllen mwy am sut mae’r ynni gwyrdd lleol yn cael ei ddefnyddio, i weld eglurhad o dariffau ynni a phrisiau cyfatebol, ac ar gyfer argymhellion sut i leihau eich biliau trydan.
I gael gwybodaeth fanylach, ewch i Cwestiynau Cyffredin.