Gosod offer mynediad i’r cwsmer (CAD)

 

Y CAD yw'r bocs bach llwyd sy'n cysylltu â'ch mesurydd clyfar i ddarllen data mewn amser real trwy eich rhwydwaith WiFi cartref fel y gallwch weld data pryd yr ydych chi'n defnyddio a’i rannu gyda’ch clwb. Mae’r CAD yn rhedeg ar ynni isel ac yn defnyddio tonnau radio tonfedd byr i gyfathrebu â rhwydwaith y mesurydd clyfar ac â’r rhwydwaith diwifr. Mae'r dudalen hon yn dangos i chi sut i'w sefydlu.

Cliciwch yma am fideo ar Sut i Gosod eich CAD

Gosod

Dylid gosod y CAD yn barhaol mewn lle sydd o fewn cyrraedd radio i’ch mesurydd clyfar a’ch router diwifr. Does dim rhaid iddo fod union drws nesaf i’r mesurydd clyfar neu’r router. Mae cyrrhaeddiad fwyaf tonnau radio yn dibynnu’n bennaf ar faint o garreg/bric/concrid sydd ar linell syth rhwng y CAD a’r mesurydd, neu rhwng y CAD a’r router diwifr. Fel arfer, mae’r tonnau yn cyrraedd hyd at rhwng 6 a 8 medr.

Gosod y rhwydwaith diwifr

Bydd rhaid i chi roi enw eich rhwydwaith diwifr (SSID) a’ch cyfrinair yn y CAD fel y gall gysylltu â’ch rhwydwaith diwifr. Gallwch ddod o hyd i’r manylion hyn ar eich router diwifr, neu weithiau mae’ch cyflenwr diwifr yn darparu cerdyn Keep Me efo’r manylion arnynt.

  1. Wrth gael ei osod, bydd y CAD yn creu ei rwydwaith diwifr ei hun o’r enw ‘meterreader’. Defnyddiwch ffôn clyfar, llechen neu liniadur i chwilio am y rhwydwaith diwifr hwn a chysylltwch â fo. where to find meter readerconnect to meter reader

     

  2. Nid oes angen cyfrinair ar gyfer y rhwydwaith ‘meterreader’. Os bydd y rhwydwaith ‘meterreader’ yn gofyn am gyfrinair, cysylltwch ag Octopus i gael help.
  3. Unwaith  y byddwch wedi cysylltu â’r rhwydwaith diwifr ‘meterreader’, ewch i’r dudalen http://169.254.1.1/wifisetup - bydd rhaid i chi deipio hyn i borwr gwe ar eich ffôn, llechen neu liniadur.
  4. Bydd y dudalen hon yn llwytho ‘Gosodiadu diwifr’. Dewiswch enw eich rhwydwaith diwifr (SSID) o’r gwymplen, mewndeipiwch eich cyfrinair a phwyswch ‘Submit’. wifi settings
  5. Caewch dudalen y porwr gwe, a dadgysylltwch o’r rhwydwaith diwifr ‘meterreader’.
  6. Bydd y CAD yn cysylltu â’ch rhwydwaith diwifr mewn ychydig o funudau. Mi welwch hyn wrth i’r golau LED fflachio’n hir.
  7. Os nad oedd hyn yn gweithio, triwch eto gan ddilyn y camau uchod.

Gosod y mesurydd clyfar - Gallai hyn gymryd ychydig o wythnosau i'w gwblhau

Unwaith y byddwch wedi llwyddo cysylltu’r CAD â’ch WiFi, bydd Octopus yn cael nodyn yn cadarnhau hyn. Bydd Octopus wedyn yn gallu cysylltu’ch CAD â’ch mesurydd clyfar. Peidiwch â thynnu’r sticer oddi ar eich CAD: os bydd unrhyw broblemau wrth gysylltu’r offer â’ch mesurydd clyfar, maen’n bosib y bydd rhaid i Octopus ofyn i chi am y codau sydd ar y sticer hwn.

Dangosydd LED

Unwaith y bydd y CAD wedi ei osod a’i gysylltu, bydd y golau LED ar y blaen yn fflachio mewn parau. Bydd y fflach cyntaf mewn pâr yn dangos statws y cysylltiad rhwng y CAD a’r router diwifr, a bydd yr ail fflach yn dangos statws y cysylltiad rhwng y CAD a’r mesurydd clyfar.

Mae’r fflach cyntaf yn dangos statws y cysylltiad diwifri:

   Fflach byr (<0.25 eiliad): WiFi – dim cysylltiad

   Fflach canolig (1 eiliad): cysylltiad â’r WiFi ond nid â’r server ynni

   Fflach hir (2 eiliad): cysylltiad llawn

Mae’r ail fflach/golau yn dangos statws y cysylltiad a’r mesurydd clyfar:

   Fflach byr (<0.25 eiliad): dim cysylltiad â’r rhwydwaith mesurydd clyfar

   Fflach canolig (1 eiliad): wdi ei gysylltu â’r rhwydwaith mesuryddion clyfar, ond dim wedi darganfod eich mesurydd clyfar chi eto

  Fflach hir (2 eiliad): wedi ei gysylltu â’r mesurydd clyfar

Cymorth

Os ydych chi angen unrhyw gymorth, cysylltwch Robbie. 

Ebost robbie@energylocal.co.uk