Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 1: Sut mae’n gweithio

i Rhan 2: Enghreifftiau hydro

i Rhan 2: Enghreifftiau solar

Sut mae’n gweithio: defnyddio ein trydan adnewyddol lleol

Fel aelod o Glwb Ynni Lleol bydd eich defnydd o drydan yn cael ei fesur mewn blociau o hanner awr. Bydd y cyfanswm rydych yn ei ddefnyddio bob hanner awr yn cael ei gymharu â faint o bŵer y bydd y cynhyrchydd lleol yn ei gynhyrchu yn yr un cyfnod.

Er enghraifft, rhwng 2:30pm a 3pm gallai’r sychwr dillad fod yn rhedeg a chithau’n gwrando ar y radio gan ddefnyddio 1 cilowat awr (kWh) o drydan. Yn ystod yr amser yma, bydd y trydan a gynhyrchir gan y cynhyrchydd lleol yn cael ei rannu rhwng pawb sy’n defnyddio pŵer.

Os yw eich defnydd chi yn 1 kWh, yna bydd eich holl drydan yn dod o’r cynhyrchydd lleol. Nodwch: Bydd eich ‘cyfran’ o’r cynhyrchiad lleol yn wahanol ar wahanol adegau, yn dibynnu ar faint a gynhyrchir a nifer y defnyddwyr. Golyga hyn fod eich defnydd chi yn “cyfateb” i gynhyrchiad lleol, er enghraifft hydro neu solar, ac felly rydych yn talu (er enghraifft) 18c y kWh am y trydan hwnnw.

Pryd bynnag rydych chi’n talu am drydan sy’n cyfateb i’r hydro neu’r solar cymunedol (er enghraifft), bydd y cynhyrchydd lleol yn cael yr arian hwn, felly bydd yr arian yn aros yn lleol ac yn cryfhau’r model busnes ar gyfer ynni adnewyddol lleol.

Fel arfer rhyw 10c gaiff hydro neu solar fach leol am bob kWh o drydan mae’n gynhyrchu, a byddwch chi’n talu 30c y kWh i’w ddefnyddio. Rydym wedi torri allan y gost yn y canol – rhatach i chi a mwy o elw i’r gymuned.

 

Sut mae’n gweithio: Bydd y trydan nad yw’n cyfateb i gynhyrchiad lleol yn cael ei werthu am brisiau gwahanol ar wahanol adegau o’r dydd

Os yw eich defnydd o drydan (sy’n cael ei fesur pob hanner awr) yn fwy na’ch siâr chi o drydan o’r cynhyrchiad lleol, yna byddwch yn prynu’r trydan ychwanegol hwnnw gan y cyflenwr.

Bydd y pris am y trydan hwn yn amrywio ar wahanol amseroedd o’r dydd.

Er enghraifft, rhwng 2:30pm a 3pm gallai’r sychwr dillad fod yn rhedeg a chithau’n gwrando ar y radio gan smwddio a gwneud pot o de, ac yn defnyddio 2 cilowat awr (kWh) o drydan. Yn ystod yr amser yma, bydd y trydan a gynhyrchir gan yr hydro neu solar (er enghraifft) yn cael ei rannu rhwng pawb sy’n defnyddio pŵer. Os yw eich siâr chi yn 1 kWh, yna fe fyddwch wedi defnyddio mwy na’ch siâr. Nodwch: Bydd eich ‘cyfran’ o’r cynhyrchiad lleol yn wahanol ar wahanol adegau, yn dibynnu ar faint a gynhyrchir a nifer y defnyddwyr.

Golyga hyn y gallwch gyfateb 1 kWh i’r hydro (er enghraifft am 18c y kWh), ond fe fydd rhaid i chi brynu 1 kWh arall. Y tariff am y trydan ychwanegol rhwng 2:30pm a 3pm yw’r ‘tariff canol dydd’ ac mae’n un o’r rhai rhataf.

​Bydd prisiau ac amseroedd y trydan sydd ddim yn dod o’r cynhyrchiad lleol yn cael eu cadarnhau pan ydych chi’n newid eich cyflenwr, a chewch weld y prisiau ar dudalen eich Clwb pan fyddant ar gael.  Mwy na thebyg fe fydd yna nifer o dariffau gwahanol. Bydd tariffau amser brecwast a phryd nos yn ddrutach, tra bydd canol dydd a dros nos yn rhatach. Unwaith y bydd cytundeb ar y tariffau hyn, fe gewch wybod ac fe fyddant yn aros yr un peth am flwyddyn.

 

Deall pryd rydych yn defnyddio pŵer ar adegau gwahanol

Mae’r cartref nodweddiadol yn defnyddio trydan drwy gydol y dydd. Mae amser brig bychan yn digwydd amser brecwast, pan fydd pobl yn cael cawod ac yn defnyddio’r tegell, ac yna amser brig mwy fin nos wrth i bobl gynnau’r goleuadau, gwneud swper yn y popty a gwylio’r teledu.

Dyma ddefnydd trydan cartref nodweddiadol yn y Deyrnas Unedig.

Example of Household Daily Use

 

Ond mae pawb fymryn yn wahanol – adar y nos, pobl sy’n gweithio gartref, bore godwyr, pobl sydd wedi ymddeol, gweithwyr shifft – mae gan bob un ohonom ein harferion a’n ffyrdd ein hunain o fyw.

I rai ohonom, bydd pawb allan o’r tŷ, yn y gwaith ac yn yr ysgol, yn ystod y dydd, a bydd rhuthr o goginio, glanhau a gwylio’r teledu pan rydym adref fin nos.

Yn achos pobl eraill, efallai y byddwn gartref, yn gweithio neu’n gofalu am blant, yn golchi dillad ac yn coginio yn ystod y dydd. Beth bynnag yw eich sefyllfa, ar ôl i chi gael y mesurydd clyfar wedi’i osod, bydd modd i chi weld faint o drydan rydych yn ei ddefnyddio bob hanner awr. Yna fe gewch syniad faint o drydan, fel rheol, yr ydych yn ei ddefnyddio bob dydd, bob wythnos a phob mis.

Ond does dim angen i chi aros nes bod y mesurydd clyfar wedi ei osod - gallwch ddechrau arni rŵan drwy gadw dyddiadur ynni.

 

I’ch atgoffa

Mae’r adeg o’r dydd pan ydych yn defnyddio trydan yn bwysig. Y rhataf fydd eich trydan pan gallwch ei gyfateb i’ch cyfran chi o’r ynni lleol, a bydd y gyfran honno’n fwy neu’n llai ar wahanol adegau o’r dydd.

Bydd cost unrhyw drydan ychwanegol yr ydych yn ei ddefnyddio, ar ben y swm sy’n cyfateb i’r ynni dŵr, yn amrywio yn dibynnu ar yr adeg o’r dydd. Felly bydd osgoi amseroedd brig amser brecwast ac amser swper yn arbed arian i chi.

 

Cadw dyddiadur ynni

Er mwyn cadw golwg ar faint o drydan yr ydych yn ei ddefnyddio, gallwch roi cynnig ar gadw “dyddiadur ynni”. Rydym wedi creu templed ar eich cyfer er mwyn i chi fedru nodi’r pethau yr ydych yn eu gwneud yn ystod y dydd sy’n defnyddio trydan. Gallwch lawrlwytho’r dyddiadur ynni yma.

Mae cadw dyddiadur yn ddefnyddiol iawn i ddangos i chi pryd yr ydych yn defnyddio mwy a llai o drydan. Bydd yn gwneud i chi feddwl am y ffyrdd gorau o fanteisio i’r eithaf ar y Clwb Ynni Lleol, megis defnyddio popty araf i baratoi swper yn ystod y dydd. 

 

Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 2: Eich siâr chi o’r trydan dŵr a gynhyrchir

Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 2: Eich siâr chi o’r trydan haul a gynhyrchir

Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 3: Amserlen y Prosiect

Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 4: Awgrymiadau ar gyfer eich peiriant golchi a sychwr dillad

Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 5: Uwchraddio i oleuadau Deuod Allyrru Golau (LED)

Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 6: Prisiau trydan

Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 7: Y Clwb cydweithredol

Y llawlyfr Ynni Lleol - Effeithlonrwydd ynni