Enghreifftiau hydro
Byddwn yn defnyddio hydro Dyfriog sy’n rhan o Glwb Ynni Lleol Pentredŵr fel enghraifft. Dychmygwch eich bod yn rhan o’r Clwb. Yn eich Clwb go iawn, efallai bod y trydan yn dod o ynni haul, gwynt neu dreulio anaerobig. Yr un ydi’r egwyddor, bydd rhaid i chi edrych os ydi hi’n heulog neu’r gwynt yn chwythu, neu ddefnyddio’r dangosfwrdd ynni ar-lein.
Saiff Hydro Dyfriog i’r de o Bentredŵr, hanner ffordd i fyny’r allt. Mae cored fach yn cael ei chodi’n uwch i fyny, a bydd rhywfaint o ddŵr yn cael ei sianelu i lawr drwy 500m o bibell at ystafell dyrbin fechan lle bydd y trydan yn cael ei gynhyrchu.
Mae llif cyson o ddŵr yn y nant, ddydd a nos drwy gydol y flwyddyn. Mae hyn yn golygu y dylai’r hydro fod yn cynhyrchu trydan, heblaw am ambell ddiwrnod o waith cynnal a chadw neu gyfnod sych yn ystod yr haf, mwy pan fydd hi wedi bod yn bwrw glaw a llai pan fydd hi’n sych. Pan fo’r hydro’n rhedeg ar ei orau, bydd yn cynhyrchu 100 kWh bob awr – sy’n ddigon í ferwi’r tegell ar gyfer 3600 o baneidiau.
Byddwch yn gallu cadw golwg ar gynhyrchiant yr hydro drwy edrych ar Ddangosfwrdd Ynni ar-lein . Ac os byddwch yn talu sylw ar faint o law sydd wedi bod, a gydag ychydig o ymarfer, mi fyddwch yn gallu dyfalu’n eitha’ da faint o drydan sy’n cael ei gynhyrchu.
Bydd swm y trydan a gynhyrchir gan yr hydro’n cael ei fesur fesul hanner awr, yn union fel mae eich mesurydd clyfar yn mesur faint o drydan rydych chi’n ei ddefnyddio bob hanner awr.
Dyma rai enghreifftiau (syml) i ddangos beth gallai eich siâr o gynhyrchiant yr hydro fod ar wahanol adegau.
Enghraifft 1 – Dim ond rhai o aelwydydd Clwb Ynni Lleol Pentredŵr sy’n defnyddio’u peiriannau trydan ac mae’r hydro’n cynhyrchu llawer o drydan, felly mae eich siâr chi ar ei fwyaf.
Rhwng 2am a 2:30am,
- rydych chi’n un o’r 50 o aelwydydd Clwb Ynni Lleol Pentredŵr sydd wedi gosod eu peiriannau golchi llestri i redeg yn ystod y nos.
- Mae’r 50 aelwyd arall yn cysgu ac mae eu goleuadau a’u peiriannau wedi diffodd.
- Mae’r hydro’n cynhyrchu 50 kWh yn ystod yr amser hwn.
- Mae’n cael ei rannu’n gyfartal rhwng y 50 tŷ sy’n rhedeg eu peiriannau golchi llestri a’ch siâr chi ydy 1 kWh.
Enghraifft 2 – Dim ond rhai o aelwydydd Clwb Ynni Lleol Pentredŵr sy’n defnyddio’u peiriannau, ond dydy’r hydro ddim yn cynhyrchu cymaint o drydan, felly mae eich siâr chi’n llai.
Rhwng 2am a 2:30am,
- rydych chi’n un o’r 50 aelwyd, allan o 100 yng Nghlwb Ynni Lleol Pentredŵr, sydd wedi gosod eu peiriannau golchi llestri i redeg yn ystod y nos.
- Mae’r 50 aelwyd arall yn cysgu ac mae eu goleuadau a’u peiriannau wedi diffodd.
- Dydy hi ddim wedi bwrw glaw gymaint, felly dim ond 25 kWh mae’r hydro’n ei gynhyrchu yn ystod yr amser yma.
- Mae hyn yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng y 50 tŷ sy’n rhedeg eu peiriannau golchi llestri. Nawr, eich siâr chi ydy 0.5 kWh.
Enghraifft 3 – Mae’r hydro’n cynhyrchu llawer o drydan ond mae’n cael ei rannu rhwng llawer o gartrefi Clwb Ynni Lleol Pentredŵr, felly mae eich siâr chi’n llai – dim yn amser da i redeg y peiriant golchi llestri.
Mae hi’n nos Wener rhwng 5:30pm a 6pm:
- rydych chi, a’r rhan fwyaf o aelwydydd eraill Clwb Ynni Lleol Pentredŵr, gartref yn defnyddio trydan i goginio swper a gwylio’r teledu.
- Mae’r hydro’n cynhyrchu 50 kWh yn ystod yr amser yma,
- sy’n cael ei rannu rhwng 100 o gartrefi sy’n coginio ac yn gwylio’r teledu. Eich siâr chi ydy 0.5 kWh.
- Felly, dydy hi ddim yn amser da i redeg y peiriant golchi llestri hefyd.
Mae faint o drydan a ddefnyddir gan aelwyd yn fwy cymhleth nag yn yr enghreifftiau uchod. Er enghraifft, bydd eich peiriant golchi llestri’n defnyddio mwy neu lai o ynni yn dibynnu ar y model a’r gosodiadau, a bydd cartrefi lle mae’r goleuadau a’r peiriannau wedi diffodd yn dal i ddefnyddio mymryn o drydan, e.e. i gadw’r oergell yn oer. Ond gall yr enghreifftiau yma roi syniad i chi sut y gallai eich siâr o’r trydan a gynhyrchir fod yn wahanol ar wahanol amserau.
Caiff yr holl gyfrifiadau eu gwneud yn awtomatig, a byddwch yn cael adroddiad misol am faint o’ch defnydd trydan sydd wedi cyfateb i siâr o’r hydro. Gallwch hefyd gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar wefan neu ‘ap’ unrhyw bryd.
Bydd yr holl drydan a ddefnyddiwch, ac sy’n cyfateb i’ch siâr o gynhyrchiant yr hydro, yn costio, er enghraifft, 8.5c am bob kWh, sef tua hanner y pris rydych yn debygol o dalu ar hyn o bryd.
Edrychwch ar ein hesboniad yma i weld sut bydd eich defnydd o drydan yn gymysgedd o’ch siâr o’r hydro ac o drydan ychwanegol a brynir gan y cyflenwr.
Pryd gallai eich siâr chi fod yn fwy – sef yn amser da i redeg peiriannau golchi llestri a dillad, ac ati?
1) Ar adegau llai prysur, fel yn ystod y nos ac amser cinio pan fydd llai o gartrefi yn defnyddio trydan.
2) Pan mae hi wedi bwrw glaw a’r hydro’n cynhyrchu llawer o drydan.
Pryd gallai eich siâr chi fod yn llai?
1) Ar adegau prysur pan fydd aelwydydd yn defnyddio mwy o drydan, fel amser te ac amser brecwast.
2) Pan nad ydy hi wedi bod yn bwrw glaw ers tro a’r hydro heb fod yn cynhyrchu cymaint o drydan.
Y llawlyfr Ynni Lleol - RHAN UN: Sut mae’n gweithio
Y llawlyfr Ynni Lleol - RHAN DAU: Eich siâr chi o’r trydan haul a gynhyrchir
Y llawlyfr Ynni Lleol - RHAN TRI: Amserlen y Prosiect
Y llawlyfr Ynni Lleol - RHAN PEDWAR: Awgrymiadau ar gyfer eich peiriant golchi a sychwr dillad
Y llawlyfr Ynni Lleol - RHAN PUMP: Uwchraddio i oleuadau Deuod Allyrru Golau (LED)