Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 7: Y Clwb cydweithredol

i Rhan 6

>Effeithlonrwydd ynni

Mae pob Clwb Ynni Lleol unigol yn sefydliad cydweithredol sy’n cael ei gofrestru gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Ar ôl cael eu sefydlu, mae’r Clybiau yn cael eu rhedeg gan eu haelodau yn ddi-dâl. Mae cyfranogiad yr aelodau yn grymuso’r gymuned ac mae’n allweddol ar gyfer sicrhau bod y Clwb yn dal i redeg.

Nodir y rheolau sy’n rheoli gweithrediad y clwb cydweithredol yng Nghyfansoddiad y Clwb.

Cyfranddaliadau

Mae gan bob aelod Ynni Lleol gyfranddaliad gwerth £1 yn ei Glwb cydweithredol. Cesglir y taliadau am y cyfranddaliadau trwy’r biliau trydan ac maent yn cael eu dal yng nghyfrif banc y Clwb.

Ni ellir ad-dalu’r arian na throsglwyddo’r cyfranddaliad ac felly bydd aelodau yn fforffedu eu cyfranddaliad wrth adael y Clwb.

Rhedeg y Clwb

Gwirfoddolwyr sy’n rhedeg y Clwb, dan arweiniad bwrdd etholedig o Gyfarwyddwyr gwirfoddol. Mae’r Cyfarwyddwyr yn cytuno ar bris cyfatebol y Clwb bob blwyddyn, yn cynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol ac yn cyflwyno cyfrifon y cwmni. Gall pob aelod o’r Clwb gymryd rhan trwy fynychu’r cyfarfod blynyddol a phleidleisio ynddo.

Gall aelodau hefyd ysgwyddo tasgau i helpu i redeg y Clwb, megis helpu gyda chyfathrebu, cefnogi aelodau eraill, trefnu digwyddiadau cymdeithasol ac annog pobl eraill yn y gymuned i fod yn ymwybodol o faterion ynni.

 

 

Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 1: Sut mae’n gweithio

Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 2: Eich siâr chi o’r trydan dŵr a gynhyrchir

Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 2: Eich siâr chi o’r trydan haul a gynhyrchir

Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 3: Amserlen y Prosiect

Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 5: Uwchraddio i oleuadau Deuod Allyrru Golau (LED)

Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 6: Prisiau trydan

Y llawlyfr Ynni Lleol - Effeithlonrwydd ynni