2025: Sut gallwch chi helpu
Mae ein Clybiau Ynni Lleol wedi bod ar flaen y gad o ran sefydlu math newydd o farchnad ynni leol, gan sicrhau manteision sylweddol fel gostwng biliau, hybu incwm cynhyrchwyr adnewyddadwy, lleihau tagfeydd rhwydwaith trydan, a grymuso cymunedau.
Ers peth amser, mae ein sylfaenydd, Dr. Mary Gillie, wedi bod yn gweithio i symleiddio rheolau masnachu trydan y DU, gan ei gwneud yn haws sefydlu marchnadoedd ynni lleol. Rhan allweddol o'r gwaith hwn fu arwain y diwygiad P441 arfaethedig i'r Cod Cydbwyso a Setlo (darllenwch fwy yma).
Nawr mae angen eich help arnom i wneud hyn yn flaenoriaeth i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau!
Os hoffech gefnogi'r newid pwysig hwn, ysgrifennwch at eich AS gan ddefnyddio'r llythyr drafft a ddarparwyd gennym isod. Peidiwch ag anghofio cynnwys y papur briffio dwy dudalen, sy’n cynnig esboniad pellach a chyd-destun.
I’r rheini yng Nghymru, lle mae llawer o’n clybiau wedi’u lleoli, mae fersiynau Cymraeg o’r llythyr a’r papur briffio hefyd ar gael i chi eu defnyddio.
I ddod
Rydym hefyd wedi bod yn cydweithio ag Ynni Cymunedol Cymru i ddatblygu ymgyrch fwy, a gobeithiwn y bydd hefyd yn cynnwys Community Energy Scotland a Community Energy England. Cadwch lygad am eu hymgyrchoedd dros yr wythnosau nesaf, a dangoswch eich cefnogaeth mewn unrhyw ffordd y gallwch.
Yn ogystal, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch addasiad P441, a fydd yn gyfle gwych i leisio'ch cefnogaeth i'r newidiadau hyn.
Rydym yn hynod ddiolchgar am eich cefnogaeth!