Cylchlythyr Ynni Lleol - Mehefin 2021

Energy Local Newsletter

Mehefin 2021

Gyda'r haf ar y trothwy, mae yna lawer iawn i gyffroi yn ei gylch.

 

Cynnydd Clybiau

Rydym yn gwneud cynnydd gwych yn gosod mesuryddion newydd yn y Clybiau sy'n dod i'r amlwg. Mae hyn yn golygu y bydd mwy o gyfranogwyr yn gallu mwynhau manteision ynni adnewyddadwy o ffynonellau lleol.

Mae ein dau Glwb cyntaf yn gweld aelodau'n elwa o ddefnyddio trydan wedi ei gynhyrchu â dŵr yn lleol. O leiaf mae’r glaw yn ddiweddar wedi bod o fudd i rai pobl!

Rydym yn parhau i weithio gyda grwpiau i ddatblygu Clybiau newydd a gweithio ar y rhai sydd gennym yn aros i ddechrau.

Yn Cumbria, rydym wedi dechrau gweithio ar ddatblygu Clwb gyda Cumbria Action for Sustainability a chynllun trydan dŵr arall. Yn yr un modd, rydym ni'n gweithio i sefydlu ein Clwb cyntaf gyda threuliad anaerobig fel y generadur - mwy ar hyn yn fuan!

 

Helpu Rhwydweithiau i Ddod yn Fwy Hyblyg

Rydym yn parhau â'n gwaith gyda SPEN er mwyn helpu cymunedau i gymryd rhan mewn contractau hyblygrwydd. Mae hwn yn gytundeb i leihau'r galw ar adegau penodol o'r dydd i reoli'r rhwydwaith yn well yn effeithlon ac osgoi gwaith costus i uwchraddio'r rhwydwaith.

Gydag Ynni Lleol a'r System Hwb Cartref, credwn fod gennym y data a'r gallu i rymuso cymunedau lleol i gymryd rhan ac elwa o atebion ynni deallus. Y cyfan sydd ar ôl i'w wneud yw cysylltu hyn i gyd, ac ar hyn o bryd rydym yn gweithio'n galed i ddangos yr egwyddor hon mewn ychydig o gartrefi.

Diolch yn arbennig i TBarton am ei waith! https://www.facebook.com/TBartonElectrical/

The Home Hub System being installed

 

Croeso i Robbie a Luke

Bellach mae gennym ddau aelod newydd o'n tîm.

Mae Luke yn byw ym Methesda ac wedi bod yn rhan o'r Clwb yno o'r dechrau.  Mae'n gweithio ar ein System Hwb Cartref gyda Megni i roi help llaw i bobl drefnu offer ar gyfer yr amseroedd gorau o'r dydd.

Mae Robbie ym Mangor ac mae'n ymuno â ni i helpu gyda chyfathrebu a gweinyddu.  Mae ganddo ddiddordeb yn athroniaeth sut i berswadio pobl i newid eu hymddygiad ac mae'n ffotograffydd brwd.

 

Climate.Cymru

Mae Climate.Cymru yn ymgyrch i gasglu cymaint o leisiau o Gymru â phosibl i ddangos ein bod ni'n malio a’n bod ni eisiau i’n llywodraeth weithredu.

Helpwch i anfon neges i'n harweinwyr - rydym ni eisiau ymrwymiadau cryf ac ystyrlon i amddiffyn y pethau rydym ni'n eu caru, ac i sicrhau dyfodol gwell i ni i gyd.

 

Mae Energy Local wedi ymuno fel partner ac mae Mary wedi dod yn hwylusydd ar gyfer yr ymgyrch.

Cefnogwch Climate.Cymru os gwelwch yn dda.

Cofrestrwch fel unigolyn ac ychwanegwch eich llais: https://climate.cymru/cy/ychwanegu-eich-llais/

 

Proud Partners of Climate.Cymru