Mae Octopus yn parhau i ddatblygu’r modd y cyflwynir y biliau ar gyfer cwsmeriaid Ynni Lleol. Yn y cyfamser, dyma eglurhad er mwyn i’r biliau fod yn glir.
Dylai eich bil edrych fel yr un isod. Dyma rai pethau i’w nodi:
- Y tâl am y trydan yw’r swm y buasech wedi ei dalu ar dariff un gyfradd heb Ynni Lleol (gweler tudalen 4 am fwy o fanylion)
- Yr Addasiad Ynni Lleol yw’r gwahaniaeth am fod gennych dariff Ynni Lleol. Mae hwn yn cael ei roi fel credyd.
- Bydd Ffi y Clwb yn ymddangos yn eich cyfriflen gyntaf. Mae’r arian yn mynd i Ynni Lleol CBC a’r Clwb rydych yn aelod ohono. Codir y ffi unwaith y flwyddyn.
- 4. Y dyddiadau yw’r cyfnod y codwyd y taliadau ar eu cyfer ac mae’n bosibl na fyddant yn cyfateb i’r dyddiadau a welwch yn nhop eich bil.

Talu’n ôl i’r cyfrif
Yn anffodus, bydd bil awtomatig yn cael ei anfon ambell dro cyn i Alanah yn Octopus allu anfon bil gyda’r Addasiad Ynni Lleol. Bydd yn edrych fel bil safonol, fel yr un isod. Sylwer bod y llinell Addasiad Ynni Lleol ar goll:

Os bydd hyn wedi digwydd, fe wnaiff Alanah yn Octopus dalu’r arian yn ôl i’r cyfrif ac anfon bil arall a fydd yn cynnwys yr Addasiad Ynni Lleol, fel y bydd ich cyfrif yn gywir. Bydd y ddau beth yn ymddangos fel credydau. Dyma sut y bydd yn edrych:

Gweld hanes fy nghyfrif
Pan fyddwch yn edrych ar eich cyfrif Octopus ar-lein, mae’r taliadau am drydan yn cael eu rhestru fel hyn, fel petaent ar y tariff un gyfradd:

Mae’r Addasiadau Ynni Lleol yn cael eu rhestru fel hyn:

Mae credydau ar gyfer bil safonol yn cael eu rhestru fel hyn:

Sylweddolwn y gall hyn olygu y bydd eich balans yn amrywio.