Blog Iechyd Meddwl

Submitted by Tor Cavanagh on

Rhywbeth na fuaswn yn ei ddymuno ar neb. Ond rhywbeth rwyf wedi dysgu llawer trwyddo. Teimladau llethol o anobaith a methiant, dyna’r boen waethaf rwyf erioed wedi’i phrofi. Gan fy mod yn ffit iawn, mae’r teimlad sy’n dod yn sydyn yn ystod pwl o banig o fethu anadlu yn iawn, yn frawychus tu hwnt. Er hynny, ar ôl dod trwyddo, rwyf hefyd yn fy adnabod fy hun a phobl eraill yn llawnach. 

Rwyf wedi dioddef cyfnodau o iselder ers fy ugeiniau cynnar – efallai hefyd yn ystod fy arddegau, er na chefais ddiagnosis. Rwy’n ei ddisgrifio fel system rhybuddio braidd yn eithafol. Nid yw’n dod o nunlle, mae yna resymau. Yn aml, rwy’n teimlo fel petawn i mewn magl ac yn methu cael hyd i ateb i’r sefyllfa. ‘Methu cael hyd i ateb’ yn aml sy’n dechrau’r pwl. Rwyf wedi bod trwy sefyllfaoedd anodd lle mae’n bosibl gweld ffordd o ddatrys y broblem neu sefyllfaoedd argyfyngus lle mae’n rhaid i mi weithredu, a dydw i ddim yn cael pwl o iselder bryd hynny. Pan na allaf weld unrhyw ffordd allan – waeth pa mor annhebygol – dyna pryd rwy’n tueddu i droi i mewn arna’i fy hun a theimlo’n annigonol. Am hir iawn, roedd methu deall sut rwy’n gweld y byd yn wahanol oherwydd fy nyslecsia yn helpu i greu sefyllfaoedd o’r fath. Mae deall fy nghryfderau i a’r ffordd wahanol rwy’n edrych ar y byd trwy ddyslecsia wedi fy ngwneud yn llai tebygol o ddioddef iselder.

Mae’n allweddol bwysig bod pobl eraill yn sylwi ar beth sy’n achosi fy mhyliau o iselder. Efallai y byddant yn teimlo fy mod yn gorymateb ond mae’n dal yn werth cymryd sylw. Er enghraifft, os bydd un o’n cleientiaid yn y gwaith yn ymddwyn mewn ffordd anfoesol a allai niweidio ein cwmni a finnau’n methu gweld sut i reoli’r sefyllfa, efallai y byddaf yn ymateb yn wael a theimlo’n annigonol. Rwy’n gweld mwy o fai arnaf fy hun nag sy’n rhesymol. Efallai na fyddent yn gallu niweidio’r cwmni i’r graddau rwy’n ei ofni, ond mae’r perygl yn dal i fodoli. Os bydd pobl eraill yn cydnabod fy mod wedi gweld rhywbeth difrifol, mae hynny yn fy helpu i deimlo eu bod yn gwrando arnaf ac mae hynny yn bwysig iawn. Mae’n llawer haws os byddant yn trafod â mi y pethau allai ddigwydd, er mwyn fy helpu i ddeall gwir faint y broblem.

Pwynt allweddol arall yw nad yw dweud wrthyf am ymlacio yn datrys y broblem ac felly nid yw’n helpu. Mae meddwl am sefyll yn ôl ac yna ddod yn ôl i’r un sefyllfa hyd yn oed yn fwy brawychus. Methu cael hyd i ffordd o ddatrys problem sy’n achosi pwl o iselder, felly bydd fy helpu i’w datrys yn fy helpu i deimlo yn well ac yn llai annigonol.

Weithiau bydd gan bobl sydd wedi dioddef iselder ryw ‘synnwyr digrifwch crocbren’ y mae’n anodd i rywun nad yw wedi cael problemau iechyd meddwl ei ddeall. Fel rheol, byddwn ni’n cadw’n ddistaw am hyn ond efallai y dylem ei rannu er mwyn lleihau ofn pobl am iechyd meddwl. Er enghraifft, rwyf wedi ystyried pa ran o glogwyn yn y mynyddoedd lleol fyddai’r lle gorau i neidio drosto! Dywedodd un o’m ffrindiau na allai benderfynu p’run fyddai’r bont orau i neidio oddi arni a gwnaeth ffrind arall gyfrifiadau yn ei phen pa gerbyd fyddai’r gorau i’w lladd, ai tacsi sy’n teithio’n gyflym ynte bws sy’n drwm. Mae’n rhaid i ni chwerthin ar ôl meddwl fel hyn.

Mae’r ffaith fy mod wedi cael problemau iechyd meddwl yn fy helpu fel cyflogwr. Er nad wyf wedi bod trwy’r un profiadau yn union â phobl eraill, o leiaf rwy’n gwybod sut beth yw gweld y byd mewn ffordd wahanol i rywun ‘normal’. Gall iselder a gorbryder fynd law yn llaw â hunanamheuaeth iach a phwyll, sy’n ddefnyddiol yn y gwaith. Mae’n dda bod yn ostyngedig a chyfrifo’r risgiau. Os bydd cwmnïau yn cymryd amser i gefnogi pobl, rhoi gofod iddynt a gweithio allan beth sy’n gweithio iddynt pan fydd staff yn sâl, byddant yn elwa trwy gadw staff, cael perthynasau iach rhwng staff a chynhyrchiant gwell.

Teimlaf yn rhwystredig o weld cyn lleied o gefnogaeth y mae cwmnïau yn ei chael, yn enwedig y rhai bach, hyd yn oed pan fyddant yn awyddus i wneud y peth iawn (yn anffodus nid yw llawer yn trafferthu). Nid yw derbyn papur doctor sydd ag un gair fel ‘gorbryder’ neu ‘iselder’ yn egluro dim sut mae cefnogi rhywun. Gallaf ddefnyddio Google i geisio cael hyd i gyngor ond cyngor cyffredinol fydd hwnnw. Mae yna adegau pan fydd arna i wir angen cyngor arbenigol lle galla i ddweud ‘dyma’r sefyllfa, be wna’i nawr?’ Mae’n ddealladwy bod cwmnïau yn nerfus mewn sefyllfa o’r fath. Mae’n ymddangos yn anghywir bod llawer o wasanaethau ar gael o ran cynlluniau cyflogaeth i ddysgu sgiliau gwaith, e.e. ysgrifennnu CV etc., ond fawr ddim byd o gwbl i ystyried a yw eu problemau iechyd meddwl yn rhwystro pobl rhag cael hyd i gyflogaeth hirdymor.

Nid arbenigwr meddygol mohonof, ond ar sail fy mhrofiad i, dyma fy mhwyntiau allweddol –

  • Ceisiwch ddeall beth sy’n dechrau pyliau a chydnabod eu bodolaeth.
  • Cydweithiwch gyda phobl i ddeall gwir faint y broblem a chael hyd i atebion.
  • Cymerwch amser.
  • Peidiwch ofni problemau iechyd meddwl, derbyniwch synnwyr digrifwch y grocbren.

Hoffwn ofyn i’r llywodraeth helpu i ddarparu cefnogaeth un wrth un ar gyfer cyflogwyr a meddwl mewn ffordd gydgysylltiedig i gael pobl i mewn i gyflogaeth.