Diolch yn fawr i bawb a gymerodd ran yn yr arbrawf Troi i Lawr yn gynharach y mis hwn.
Beth ydyw?
Mae Ymateb Ochr y Galw (DSR) yn fodd o annog defnydd effeithlon o'r rhwydwaith trydan. Fel arfer yn DSR, mae defnyddwyr trydan mawr yn cael eu cymell i 'Droi i lawr' ar adegau pan fo'r galw am drydan yn uchel, er mwyn lleihau tagfeydd yn y rhwydwaith drydan. Y nod yw llyfnhau’r cyfnodau brig mewn galw a defnyddio cynhyrchiant yn lleol er mwyn lleihau’r llifoedd pŵer ar draws y rhwydwaith.
Fel aelodau Ynni Lleol, rydych chi wedi arfer newid eich galw eich hun i gyd-fynd â phan fydd yr ynni dŵr yn cynhyrchu, felly mae gennych chi afael ar y cysyniad hwn yn barod!
Dyma beth welson ni:
- Ar y diwrnodau Troi i Lawr, cafodd cryn dipyn yn llai o drydan ei ddefnyd
dio rhwng4pm ac8pm
- Ar y dydd Mawrth a’r dydd Sul pan wnaethon ni Droi i Lawr, cafodd dros 10% yn llai o drydan ei ddefnyddio ar yr adegau brig.
- Hyd yn oed cyn Troi i Lawr, mae’r Clwb wedi llwyddo i ddefnyddio llai ar yr adegau brig, ac wedi llwyddo i ddefnyddio’r cyfraddau rhatach gyda’r Tariff Amser Defnyddio.
Diolch i’ch ymdrechion chi, mae ein rhodd i’r banc bwyd ac Elusen Ogwen yn £100.
Darllenwch yr adroddiad llawn yma
Beth yw'r manteision?
Fel Ynni Lleol, mae DSR yn annog defnyddwyr i wneud gwell defnydd o ffynonellau ynni amgen. Mae'r dull penodol hwn gyda SPEN yn helpu i leihau straen ar y rhwydwaith sydd yn ei dro yn lleihau uwchraddiadau costus ac yn caniatáu inni gysylltu mwy o ynni adnewyddadwy a thechnolegau carbon isel fel cerbydau trydan a phympiau gwres.