Cylchlythyr - Mehefin 2026

Beth yw’r diweddaraf ym maes ynni cymunedol?

Mae’n dymor cynadleddau ynni cymunedol, ac mae ein tîm wedi bod yn brysur yn teithio ledled y wlad!

Aeth ein rheolwr datblygu clybiau, Temi Omojola, i Gynhadledd y Co-op 2026, lle cafodd gyfle i sgwrsio ag arweinwyr cydweithredol, sefydliadau cymunedol a phartneriaid yn y sector.

Yna, ychydig ddyddiau’n ddiweddarach, roedd hi yn Birmingham ar gyfer cynhadledd Community Energy England, a roddodd ddigon o gnoi cil iddi, fel y gallwch ddarllen yma.

Yn y cyfamser, aeth ein sylfaenydd, Dr Mary Gillie, i Wrecsam yng ngogledd Cymru ar gyfer cynhadledd Ynni Cymunedol Cymru. Roedd y gynhadledd yn cynnwys trafodaethau am bwysigrwydd amodau marchnad ffafriol — pwnc sy’n agos at ein calonnau — ac am brosiect gwres ardal Energy Local yn Nhanygrisiau.

Clywodd y gynhadledd hefyd gan Weinidog Busnes, Cysylltedd ac Ynni newydd Llywodraeth Cymru, Adam Price, a ailbwysleisiodd ymrwymiad Plaid Cymru i ynni cymunedol ac i gronfa gyfoeth. Mae pob un ohonom yng Nghymru yn edrych ymlaen at glywed rhagor am hynny, a byddwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi.

Croeso i’n Rheolwr Rheoleiddio, Marchnadoedd a Gweithrediadau newydd

Mae Paula Woodman wedi ymuno â ni i oruchwylio twf ein clybiau ynni lleol, yn ogystal â’n gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol yn y sector a rheoleiddwyr.

Mae Paula, sydd wedi’i lleoli yng Nghaerfaddon, yn weithiwr proffesiynol profiadol sydd â hanes o greu polisïau, rhwydweithiau a systemau cymorth newydd i alluogi mentrau cymdeithasol a chymunedol i ffynnu, yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi canolbwyntio ar gynaliadwyedd, drwy ei gwaith ar arloesi ym maes tai i bobl ar incwm isel yng Nghanolfan Arloesi Habitat for Humanity, a thrwy ei gradd MSc mewn Pontio at Ynni Adnewyddadwy a Chynaliadwy ym Mhrifysgol Heriot-Watt, yr Alban. Enillodd ei gwaith wobr WISE100 iddi, sy’n cydnabod y menywod mwyaf ysbrydoledig a dylanwadol ym maes mentrau cymdeithasol, buddsoddi effaith a busnesau sy’n cael eu harwain gan genhadaeth.

Mae ganddi hefyd dystysgrif Uwch Arweinyddiaeth Weithredol o Ysgol Fusnes Saïd, Prifysgol Rhydychen.

Hwyl fawr, Ros!

Yn anffodus, mae’n bryd ffarwelio â’n Swyddog Gweithredol Datblygu a Gweithrediadau Dros Dro, Ros Allcott, a ymunodd â ni yr hydref diwethaf i gyflenwi dros gyfnod o absenoldeb hirdymor yn y tîm, er nad yw hi wedi diystyru ymddangos eto o bryd i’w gilydd! Diolch, Ros, am dy holl egni a’th sgiliau trefnu, a phob lwc wrth i’th waith ymgynghori barhau i dyfu.