
Blwyddyn Newydd Dda! Rydyn ni’n barod i fynd ati i gefnogi rhagor o gymunedau i fwynhau manteision ynni glân lleol a thrawsnewid y DU i sero net.

Tîm Ynni Lleol yn ehangu i’r Alban
Croeso i Mhairi Tordoff, ein swyddog datblygu clybiau newydd!
Mae Mhairi yn byw yn Kinlochleven yn Ucheldiroedd yr Alban – pentref arloesol ble cafodd pob tŷ drydan diolch i gynllun hydro cynnar o’r 1900au.
Yn ddiweddar, bu’n gweithio fel swyddog datblygu i Highlands & Islands Climate Hub, ac mae ganddi brofiad gwych o gydweithio â chymunedau ar brosiectau gweithredu hinsawdd.
Bydd hi’n helpu pobl ledled y DU, yn enwedig yn yr Alban a gogledd Lloegr, i sefydlu clybiau a rhannu manteision ynni adnewyddadwy lleol.
Mwy o gyllid ar gyfer prosiect gwres a phŵer Eryri
Mae ein prosiect gwres a phŵer cymunedol gydag Eryri yn dod yn ei flaen yn dda, gyda dau aelod staff wedi eu penodi i roi hwb i’r gwaith.

Yn ogystal â chyllid gan Energy Industry Voluntary Redress Scheme, mae ein partneriaeth ym mhentref Tanygrisiau gyda Chwmni Bro Ffestiniog a Chyngor Gwynedd wedi sicrhau cyllid pellach gan Heat Network Delivery Unit (HNDU). Mae’r gronfa hon gan lywodraeth y DU yn darparu grantiau ac arweiniad i awdurdodau lleol ac eraill ar ddatblygu rhwydweithiau gwres.
Bydd y cyllid yn cefnogi’r prosiect arloesol hwn, gyda chynlluniau i ddatgarboneiddio gwres a phŵer yn y pentref mynyddig Cymreig hwn, yn ogystal â gosod mesurau effeithlonrwydd ynni mewn hen dai.
Blwyddyn newydd – amser i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy?
Os mai eich adduned blwyddyn newydd yw ehangu cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn eich ardal, mae digon o gyngor a chefnogaeth ar gael i chi. Mae Ynni Cymunedol Cymru, Ynni Cymunedol yr Alban ac Ynni Cymunedol Lloegr yn cynnig cymorth i bobl sy’n awyddus i ddechrau arni.
Os ydych chi’n elusen gofrestredig, cwmni buddiant cymunedol, cymdeithas gydweithredol neu gymdeithas budd cymunedol, mae’n werth cofrestru gyda Chynllun Iawndal Gwirfoddol y Diwydiant Ynni, er mwyn derbyn hysbysiadau pan fydd rowndiau ariannu newydd yn agor.
Mae’r cronfeydd hyn i gyd ar gyfer prosiectau sy’n gysylltiedig ag ynni ac sy’n bodloni meini prawf y cynllun – gan gynnwys gwneud cartrefi’n fwy effeithlon o ran ynni.
Yn 2025, byddwn hefyd yn cadw golwg ar ddatblygiad GB Energy, yn enwedig y ffordd y bydd cyllid ar gyfer y Cynllun Pŵer Lleol yn cael ei ddyrannu. Byddwn yn eich diweddaru!
Lefelau isel o storio nwy yn tanlinellu’r angen am fwy o ynni adnewyddadwy yn y DU
Mae’r oerfel ym mis Ionawr a’r tywydd llonydd wedi codi pryderon ynghylch lefelau storio nwy yn y DU a chynhyrchu trydan, oherwydd dibyniaeth y wlad ar wresogi nwy a llai o ynni gwynt.
Yn ein barn ni yn Ynni Lleol, mae hyn yn tanlinellu’r angen i ddatblygu gwahanol fathau o ynni adnewyddadwy sy’n cynhyrchu pŵer dan amrywiaeth o amodau – fel solar, hydro, yn ogystal â gwynt a storio – a rhwydweithiau gwres adnewyddadwy lleol.
Mae hyn nid yn unig yn cyflymu datgarboneiddio, ond hefyd yn ffordd hanfodol o sicrhau annibyniaeth ynni i’r DU ac amddiffyn y gallu i gadw ein cartrefi’n gynnes ac wedi’u pweru.
Mae hefyd yn dangos pa mor bwysig yw rheoli’r galw am drydan – gan annog pobl i ddefnyddio trydan ar wahanol adegau o’r dydd – a chynhyrchu ynni’n lleol ar raddfa eang er mwyn cynnal gwydnwch.
Fel cenedl, dydi hi ddim yn bosib i ni reoli effeithiau newid hinsawdd na phroblemau geopolitig, ond gallwn ollwng gafael ar danwydd ffosil a mewnforion ynni o wledydd eraill.
Bob ail ddydd Llun o'r mis rydym yn cynnal sesiwn galw heibio am 2pm ar gyfer swyddogion, cynghorwyr, ac unrhyw aelodau clwb sydd â diddordeb neu drefnwyr clwb sydd ar ddod. Anfonwch e-bost atom os hoffech ymuno â'r alwad!
Rydym hefyd yn cynnal galwadau rhagarweiniol rheolaidd i unrhyw un sydd â diddordeb i sefydlu clwb - mae'r manylion ar gyfer y rhain i'w cael ar wefan Ynni Lleol.