Ynni Lleol Isles of Scilly Pecyn Gwybodaeth i Aelodau
Popeth sydd angen i chi ei wybod am fod yn aelod o Ynni Lleol Isles of Scilly

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch gyda info@ioscv.co.uk.
Cynnwys
- Cyflwyniad
- Y Clwb Ynni Lleol: Beth ydy’r clwb?
- Mesuryddion Clyfar
- Prisiau Trydan
- Sut i fanteisio i’r eithaf ar Ynni Lleol Isles of Scilly
- Eich defnydd o drydan
- Dangosfwrdd y Clwb
- Sut caiff eich bil ei gyfrifo
- Arbed y mwyaf â phosibl
- Eich Clwb Ynni Lleol
- Cwestiynau Cyffredinol
- Cysylltu gyda Ni
- Partneriaid Prosiect
- Geirfa
- Diogelu Data
Cyflwyniad
Yn y pecyn hwn bydd yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i fanteisio i’r eithaf ar fod yn aelod, gan gynnwys:
- Y ffordd orau o ddefnyddio eich pŵer glân lleol
- Cefnogi eich cymuned
- Sut i arbed arian ar eich biliau trydan
https://energylocal.org.uk/scilly
Y Clwb Ynni Lleol: Beth ydy’r clwb?

Mwy o rym cymunedol
- Drwy gydweithio, byddwn yn lleihau ein biliau trydan ac yn cefnogi ynni adnewyddadwy.
- Bydd ein cymuned yn fwy ymwybodol o sut rydym yn prynu ein trydan.
Biliau is
- Defnyddio system cynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol am y pris cyfatebol pan fydd ar gael a manteisio ar dariff dros nos isel.
- Arbed mwy drwy beidio â defnyddio cymaint o drydan yn ystod yr oriau prysuraf a dysgu sut i leihau eich defnydd o drydan ar y cyd â’ch cymuned.
Mwy o ynni adnewyddadwy
- O ganlyniad i Glybiau Ynni Lleol, mae cynhyrchwyr adnewyddadwy yn cael pris gwell am eu pŵer.
- Mae’r pris gwell hwn yn golygu y gellid creu mwy o ynni adnewyddadwy, a drwy’r Clwb Ynni Lleol gall mwy o bobl arbed arian ar eu biliau.
- Hoffem ehangu’r rhwydwaith o Glybiau Ynni Lleol a chadw’r bunt yn lleol.
- Bydd mwy o ynni adnewyddadwy yn gymorth inni ddiogelu ein hamgylchedd a threchu newid mewn hinsawdd.
Eich Mesurydd Clyfar a Dyfais Mynediad i’r Cwsmer (CAD)
Cyn ichi ymuno â’r Clwb bydd mesurydd clyfar wedi’i osod ar eich cyfer. Caiff hwn ei ddefnyddio i gyfrifo eich bil yn seiliedig ar bryd fyddwch chi’n defnyddio pŵer.

Yn ogystal, efallai y byddwch wedi derbyn Offer Mynediad i’r Cwsmer (CAD). Mae’r bocs bach yma yn bwysig gan ei fod yn rhoi porthiant data byw i Ddangosfwrdd y Clwb. Caiff yr holl ddata o bob CAD ei ychwanegu at ei gilydd fel bod pawb yn y Clwb yn gallu gweld defnydd y Clwb ar unrhyw adeg ar Ddangosfwrdd y Clwb. Mae hyn yn helpu holl aelodau’r Clwb wybod pryd mae’n amser da i ddefnyddio pŵer.

Mae’n bwysig bod y CAD yn parhau i fod wedi’i blygio a’i gysylltu â’ch wifi cartref. Os byddwch yn newid eich darparwr wifi, enw neu gyfrinair, bydd angen diweddaru’r rhain. Bydd Ynni Lleol yn rhoi cyfarwyddiadau ichi ar sut i osod eich CAD pan fyddwch chi’n ei dderbyn.
Nid ydy ambell i fesurydd clyfar hŷn yn gydnaws â’r CAD eto felly bydd rhai aelodau ond yn gallu gweld eu data ar ôl diwrnod o oedi. Yn yr un modd, os nad oes gennych chi CAD, bydd eich data yn dal i ddangos yn nangosfwrdd Ynni Lleol, ond ar ôl diwrnod o oedi.
Efallai y bydd gennych arddangosiad cartref (sgrin fach sy’n dangos faint mae eich pŵer yn ei gostio ichi) a gyrhaeddodd pan oedd eich mesurydd clyfar yn cael ei osod.

*Byddwch yn ymwybodol na fydd y rhain bellach yn dangos y costau cywir ar gyfer eich trydan.*
Bydd yr oriau cilowat yn dal i fod yr un fath ac ni fydd eich nwy, os oes gennych chi, yn cael ei effeithio.
Prisiau Trydan
Fel rhan o’r Clwb Ynni Lleol, byddwch yn defnyddio cymysgedd o’r canlynol:
- Trydan sy’n cael ei “gyfatebu” i allbwn y generadur ynni adnewyddadwy lleol ar y pris cyfatebol y cytunwyd arno. Mae’r pris hwn yr un fath bob amser.
- Trydan “ychwanegol” wedi’i werthu gan y Cyflenwr Trydan Trwyddedig (100Green), gan godi gwahanol brisiau ar adegau gwahanol o’r dydd.
- Cost sefydlog ddyddiol, sy’n talu am y gost o gysylltu â’r rhwydwaith trydan a chostau gweithredol eraill. Mae hyn yn cynnwys ffi Ynni Lleol £6.00 fesul blwyddyn, a’ch ffi Clwb Ynni Lleol y cytunwyd arno o £2.00.
Defnyddir y data o’ch mesurydd clyfar i gyfrifo eich biliau.
Eich Prisiau ar gyfer Pŵer
| Amser y dydd | Trydan wedi’i Gynhyrchu’n Lleol (ceiniog fesul kWh) | Trydan Ychwanegol (ceiniog fesul kWh) |
|---|---|---|
| 12am - 7am all week | 10 | 15 |
| 4pm - 8pm weekdays | 10 | 27.0762 |
| All other times | 10 | 24.5524 |
Mae’r cost sefydlog yn 71.53 fesul diwrnod.
Dydy’r prisiau ddim yn cynnwys TAW.
Pŵer wedi’i Gynhyrchu’n Lleol
Caiff pŵer lleol ei gynhyrchu gan Solar Power.
Codir pris is arnoch chi ar gyfer pob cyfnod amser (yn ystod y dydd, yn ystod yr amser prysuraf, gyda’r nos) pan fyddwch yn defnyddio trydan yr un pryd â mae generadur(on) y Clwb yn cynhyrchu.
Caiff eich defnydd ei fesur gan eich mesurydd clyfar bob hanner awr. Caiff yr ynni sydd wedi’i gynhyrchu’n lleol ei rannu’n gyfartal rhwng holl aelodau’r Clwb sy’n defnyddio trydan yn ystod pob cyfnod amser o hanner awr. Mae hyn yn golygu y gallwch chi elwa o bŵer rhatach, gwyrddach pan gaiff ei gynhyrchu’n lleol.
Bydd y cyfanswm o ynni sydd wedi’i gynhyrchu fydd ar gael yn dibynnu ar y tywydd a’r nifer o gartrefi sy’n defnyddio pŵer yn ystod yr hanner awr hwnnw.
Codir am Drydan “Ychwanegol” ar wahanol brisiau, yn dibynnu ar yr amser o’r dydd.
Ar rai adegau o’r dydd, bydd yn bosibl cyfatebu eich holl ddefnydd trydan i drydan sy’n cael ei gynhyrchu gan generadur(on) y Clwb. Ar adegau eraill, bydd eich defnydd trydan yn uwch na’ch cyfran chi o’r ynni sydd wedi’i gynhyrchu’n lleol, a byddwch yn prynu’r trydan “ychwanegol” hwn gan y cyflenwr trydan trwyddedig ar y tariff uchod.
Beth alla i ei wneud i newid fy ngalw am drydan?




Pryd fydd fy nghyfran o’r Generadur Ynni Adnewyddadwy Lleol yn debygol o fod yn uwch neu’n is?

Yn uwch
- Pan mae’r haul yn tywynnu, felly mae’r generadur(on) yn cynhyrchu llawer o drydan.
- Pan fo llai o aelodau’r Clwb Ynni Lleol yn defnyddio trydan (dros nos yn aml ac yn ystod canol dydd) ac mae ynni’r Clwb yn cael ei rannu rhwng llai o bobl.
Yn is
- Pan mae’n gymylog neu’n dywyll, felly nid yw’r generadur(on) yn cynhyrchu cymaint o drydan.
- Pan mae mwy o aelodau’r Clwb yn defnyddio trydan (yn y boreau a gyda’r nos yn aml) ac mae ynni’r Clwb yn cael ei rannu rhwng mwy o bobl.
Enghreifftiau o ddewis pryd i ddefnyddio pŵer ar adegau rhatach
Mae’n ddiwrnod cymylog yn ystod y gaeaf

Nid yw generadur y Clwb yn cynhyrchu llawer o bŵer felly mae’n rhaid ichi feddwl pryd ydy’r amser gorau i ddefnyddio’r peiriant golchi llestri.
Os ydych chi’n defnyddio’r peiriant yn syth ar ôl te am 7yh, codir y gyfradd uchaf arnoch chi am awr gyntaf cylchred y peiriant.
Os ydych chi’n aros awr, codir y cyfraddau dros nos arnoch chi a fydd yn opsiwn rhatach.
Mae’n fore prysur

Rhwng 8 a 8:30 rydych yn coginio brecwast, yn gwneud pot o goffi, yn defnyddio’r peiriant golchi llestri a’r peiriant golchi dillad ac mae 3 pherson yn defnyddio’r gawod trydan.
Mae nifer o bobl yn y Clwb yn defnyddio’r pŵer yr adeg hynny felly mae eich cyfran o ynni adnewyddadwy yn is nac yn ystod adegau distawach o’r dydd. Felly mae’n bosibl nad oes digon ar gyfer popeth rydych chi’n ei wneud yn ystod y cyfnod o hanner awr.
Does dim digon o ynni adnewyddadwy lleol wedi’i gyflenwi gan 100Green yn cael ei gynhyrchu ar gyfer y pŵer rydych chi’n ei ddefnyddio ac fe godir y gyfradd briodol ar gyfer yr adeg honno o’r dydd.
Allwch chi ddefnyddio’r peiriant golchi llestri a'r peiriant golchi dillad ar adeg pan mae llai o bobl yn defnyddio pŵer?
Mae’n ganol dydd ar ddiwrnod braf
Rhwng 2:30yp a 3:00yp byddwch yn defnyddio’r peiriant sychu dillad ac yn gwrando ar y radio, gan ddefnyddio 1 awr kilowatt (kWh) o drydan.
Ar yr adeg honno, nid oes llawer yn defnyddio pŵer, ac mae eich cyfran chi o’r trydan sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol yn 1kWh.
Mae eich holl ddefnydd yn ystod y cyfnod o hanner awr wedi’i gynhyrchu gan y generadur lleol felly rydych yn talu’r pris cyfatebol is am y trydan hwnnw.
Sut i fanteisio i’r eithaf ar Ynni Lleol Isles of Scilly
Eich defnydd o drydan
Mae’n bwysig deall pryd rydych yn defnyddio trydan. Bydd hyn yn gymorth ichi symud rhywfaint o’ch defnydd trydan i adegau rhatach o’r dydd neu pan fyddwch yn gwybod bod mwy o ynni wedi’i gynhyrchu ar gael.
Mae cartref nodweddiadol yn defnyddio trydan yn wahanol drwy gydol y dydd gan ddefnyddio ychydig mwy adeg brecwast – pan mae pobl yn defnyddio’r gawod ac yn berwi’r tegell – ac mae mwy o ddefnydd gyda’r nos pan mae pobl yn rhoi’r goleuadau arnodd, yn coginio te yn y popty ac yn gwylio’r Teledu.
Dyma’r defnydd o drydan mewn diwrnod mewn cartref nodweddiadol yn y DU:

Ond mae pawb yn wahanol – tylluanod y nos, pobl sy’n gweithio o adref, y rheiny sy’n codi’n fuan, pobl sydd wedi ymddeol, y rheiny sy’n gweithio sifftiau; mae gan bob un ohonom ni ein harferion a ffordd o fyw ein hunain.
I’ch helpu chi i ddeall pryd rydych chi’n defnyddio ynni a faint, gallwch ddefnyddio Dangosfwrdd y Clwb lle gallwch weld yr adegau o’r dydd lle’r ydych yn defnyddio mwy neu lai o drydan. Yna gallwch ddefnyddio’r wybodaeth hon i feddwl am beth allwch chi ei wneud yn ystod adegau rhatach i sicrhau bod eich biliau mor isel â phosibl.
Bydd adroddiadau misol ar gael hefyd ar Ddangosfwrdd y Clwb sy’n dangos faint o drydan wnaethoch chi ei ddefnyddio ar bob pris a faint o bŵer lleol adnewyddadwy wnaethoch chi ei ddefnyddio.
Dangosfwrdd y Clwb
I’ch helpu chi i ddeall mwy am eich defnydd o drydan, ac i arbed cymaint o arian â phosibl, rydym wedi creu dangosfwrdd ar-lein y gallwch chi ei ddefnyddio ar eich cyfrifiadur, cyfrifiaduron llechen neu ffôn clyfar.
Mae Dangosfwrdd y Clwb yn cyfrifo’r holl drydan a ddefnyddiwyd yn y Clwb a’r ynni sydd wedi’i gynhyrchu’n lleol yn ystod pob hanner awr, mae’n dwyn i ystyriaeth rhagolygon y tywydd ar gyfer y Solar Power lleol ac yn defnyddio systemau modelu ar ddefnydd o ynni hanesyddol i gynnig yr adeg gorau ichi ar bryd i ddefnyddio’ch offer.
Mae gan Dangosfwrdd y Clwb dudalen Clwb sy’n dangos defnydd ynni yr holl aelodau gyda’i gilydd. Mae ganddo hefyd dudalen preifat i chi’n unig sy’n dangos eich defnydd chi ac adroddiadau. Byddwch yn derbyn enw defnyddiwr a chyfrinair i allu bwrw golwg ar hyn.
Mae’r dangosfwrdd yn darparu gwybodaeth gan gynnwys:
- Yr amseroedd gorau i ddefnyddio trydan, gyda manylion ar faint o bŵer adnewyddadwy lleol sydd ar gael a gwybodaeth fyw ar bris unrhyw drydan “ychwanegol”.
- Manylion eich defnydd trydan presennol a’r mis blaenorol a faint mae wedi’i gostio.
- Sut mae aelodau’r Clwb Ynni Lleol wedi llwyddo fel grŵp am fanteisio ar yr ynni adnewyddadwy lleol rhatach sydd wedi’i gynhyrchu a phrisiau trydan “ychwanegol” canol dydd a dros nos.
Mae’r graff isod yn dangos enghraifft o’r defnydd o drydan a’r trydan a gynhyrchir mewn Clwb. Mae pob bar yn slot hanner awr sy’n dangos y galw am ynni yn y Clwb. Mae’r copaon goleuach yn dangos lle mae pŵer lleol dros ben ar gael. Ar y dangosfwrdd fyw gallwch lusgo’ch llygoden / bys dros bob bar i weld faint o bŵer sydd ar gael, a faint sydd wedi’i ddefnyddio yn y Clwb.
Mae’r graff yn dangos yn eglur pryd mae mwy o ynni lleol wedi’i gynhyrchu ar gael nag sy’n cael ei ddefnyddio o fewn y Clwb. Byddai’r rhain yn adegau da i gynnal neu amserlennu’ch peiriannau ac ati.

Dangosfwrdd enghreifftiol o ynni solar sy’n cael ei gynhyrchu a’i ddefnyddio.
Felly, ewch ati i feddwl ba adeg o’r dydd y gallwch chi ddefnyddio’ch peiriannau ac ati am gyfradd ratach. Beth am ddefnyddio’ch peiriant golchi dillad yn gynnar yn y prynhawn, neu beth am ei adael tan ar ôl 8yh i elwa o’r pris isel dros nos.
I weld Dangosfwrdd y Clwb, ewch i: https://dashboard.energylocal.org.uk/scilly.
Byddwch yn derbyn enw defnyddiwr a chyfrinair er mwyn ichi allu bwrw golwg ar eich data trydan eich hun.
Sut caiff eich bil ei gyfrifo

- Caiff ynni pob cartref ei fesur bob hanner awr gan y mesurydd clyfar.
- Caiff yr ynni sydd wedi’i gynhyrchu sydd ar gael ei rannu rhwng y cartrefi hynny sy’n defnyddio pŵer yn ystod yr hanner awr hwnnw.
- Caiff cyfanswm yr oriau kilowatt mae pob tŷ yn ei ddefnyddio o ynni adnewyddadwy sydd wedi’i gynhyrchu ei gyfrifo a’i luosi gyda’r gyfradd uned ar gyfer “tariff cyfatebol”, sy’n gyfradd unffurf. (Gwelwch uchod.)
- Caiff unrhyw drydan “ychwanegol” a ddefnyddir ei gyfrifo ar gyfer pob tŷ ar y Tariff Amser Defnyddio sy’n dibynnu ar yr amser o’r dydd y mae’r trydan yn cael ei ddefnyddio.
- Yna fe gaiff y gost sefydlog a Thaw eu hychwanegu.
Arbed y mwyaf â phosibl

Rydym yn disgwyl y bydd modd ichi leihau faint rydych chi’n ei dalu am eich trydan o oddeutu 10% neu fwy. I sicrhau’r arbedion hyn, gallwch wneud y canlynol:
- Defnyddio ynni’n fwy effeithlon. Meddyliwch am yr hyn nad oes angen ei adael arnodd neu ar ‘standby’.
- Manteisiwch ar y pŵer adnewyddadwy lleol, rhatach a defnyddiwch y prisiau is dros nos ac yn ystod y dydd pan nad oes yna ddigon o bŵer adnewyddadwy lleol i gyflenwi defnydd pawb. Ceisiwch osgoi defnyddio y trydan “ychwanegol” drytach, yn enwedig yn ystod yr amser prysuraf (4yp-8yp) pan fo’n bosibl.
- Newidiwch yr amser pan fyddwch yn defnyddio’r defnyddwyr mwyaf megis peiriant golchi dillad.
- Defnyddiwch y defnyddwyr mawr ar wahanol amseroedd i fanteisio ar ynni adnewyddadwy eich Clwb.
- Buddsoddwch mewn goleuadau a/neu beiriannau ac ati ynni effeithlon.
- Buddsoddwch mewn plygiau clyfar i allu amserlennu dyfeisiau a chyfarpar gwefru.
- Gallai tai sydd wedi’u gwresogi neu eu hoeri gan drydan elwa o uwchraddio adeiladwaith drwy gynlluniau grantiau a benthyciadau. Mae prosesau megis atal drafftiau a llenni trwchus yn fesurau arbed gwres syml ond effeithiol.
Mae yna hefyd awgrymiadau ar arbed ynni ar Ddangosfwrdd y Clwb: ewch i’r tab “Awgrymiadau”. At hyn, mae gwybodaeth helaeth am fesurau ynni effeithlon cost isel i sero ar-lein ac mewn siopau nwyddau haearn ac ati.
Eich Clwb Ynni Lleol
Mae’r Clwb Ynni Lleol yn gydweithfa sy’n golygu bod modd i bob aelod leisio’u barn ynghylch sut caiff ei gynnal a gallan nhw bleidleisio ar benderfyniadau allweddol. Byddwch yn gallu pleidleisio ar benderfyniadau yn y dyfodol am y Clwb, a allai gynnwys pris y tariff cyfatebol, pwy yw’r cyfarwyddwyr ac unrhyw ddatblygiad arall y mae’r Clwb yn awyddus i ymgymryd ag o.
Pob blwyddyn fe fydd Cyfarfod Blynyddol ichi drafod gwaith y Clwb dros y flwyddyn ddiwethaf a’r cynllun ar gyfer y flwyddyn nesaf. Dyma pryd gallwch chi helpu gwneud newidiadau, er enghraifft dewis recriwtio mwy o aelodau a generaduron ynni adnewyddadwy, ac adolygu pris y tariff cyfatebol.
Cwestiynau Cyffredinol
Beth sy’n digwydd os ydw i’n symud tŷ?
Mae angen ichi roi gwybod i XXX pan fyddwch yn symud tŷ. Mae’n bosibl na fydd modd i’ch cartref newydd ymuno â’r Clwb. Rhowch wybod i Weinyddwr eich Clwb eich bod am symud neu wedi symud a byddan nhw’n eich cynghori ar y camau nesaf. Rhowch wybod i Ynni Lleol fel y gallwn ddiweddaru eich cofnodion.
Beth os ydw i am newid cyflenwr?
Dydy 100Green ddim yn codi ar gartrefi sy’n dymuno gadael y cyflenwr. Fodd bynnag, byddai’n well ichi gysylltu gyda ni cyn ichi geisio symud cyflenwr i sicrhau ei fod yn broses rhwydd a didrafferth. Bydd angen inni eich tynnu o’r Clwb Ynni Lleol.
Sut ydw i’n gadael y Clwb Ynni Lleol?
Rhowch wybod inni drwy ysgrifennu e-bost os gwelwch yn dda os hoffech chi adael y Clwb. Byddwn yn cysylltu gyda XXX i roi gwybod eich bod yn awyddus i adael. Byddan nhw’n cysylltu gyda chi i’ch sefydlu ar eich tariff dewisol oni bai eich bod chi am newid cyflenwr hefyd.
Rydym yn gofyn ichi am geisio ymrwymo i gymryd rhan am un flwyddyn o leiaf; fodd bynnag, os, am amgylchiadau annisgwyl, y bydd angen ichi adael, gallwch symud i dariff cyflenwr arall neu newid cyflenwr.
Beth sy’n digwydd os ydw i’n newid fy nghyfrinair neu rwydwaith wifi?
Cysylltwch gyda info@energylocal.co.uk am gymorth gyda hyn.
Beth sy’n digwydd os ydy fy mesurydd yn newid?
Byddwch yn parhau i gael eich bilio fel arfer ond os oes gennych chi Ddyfais Mynediad i’r Cwsmer (CAD) gallai roi’r gorau i weithio. Cysylltwch gyda info@energylocal.co.uk am gymorth gyda hyn.
Beth ydy Dyfais Mynediad i’r Cwsmer (CAD)?
Mae’n bwysig bod gan holl aelodau’r Clwb Ddyfeisiau Mynediad i’r Cwsmer i ddangos y defnydd ar y cyd. Dysgu mwy am CADs a sut i osod eich un chi.
Beth sy’n digwydd os ydy’r CAD yn torri?
Cysylltwch gyda ni: info@energylocal.co.uk
Alla i drefnu fy nghyflenwad nwy gyda’r un cyflenwr?
Na. Dydy 100Green ddim yn cyflenwi nwy yn eich ardal.
Toriad Pŵer
Os ydych chi’n cael toriad pŵer, ffoniwch 105. Mae hwn yn rif cenedlaethol rhad ac am ddim a fydd yn eich cysylltu chi gydag eich darparwr rhwydwaith trydan lleol. Maen nhw’n gyfrifol am gynnal y llinellau pŵer ac is-orsafoedd sy’n cludo trydan i’ch cartref a gallan nhw eich helpu gyda thoriadau pŵer.
Cysylltu gyda Ni
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu broblemau, cysylltwch gydag eich cynrychiolwyr Clwb Ynni Lleol i gychwyn. Gallwch ddod o hyd i’r manylion ar dudalen gartref eich Clwb.
Am ymholiadau ar gyfer Ynni Lleol yn gyffredinol neu brosiectau pellach ar y gweill, cysylltwch gydag info@energylocal.org.uk.
Talu eich bil neu ymholiadau
Os oes gennych chi ymholiadau am eich bil, talu eich bil neu eich mesurydd clyfar, cysylltwch gydag info@energylocal.org.uk.
Os na chaiff eich problem ei datrys, gallwch weld manylion y weithdrefn cwynion ar eich datganiad trydan.
Cwynion
Os oes gennych chi unrhyw gwynion ar unrhyw adeg, byddwn yn ceisio’u datrys gyda chi, neu os yn briodol byddwn yn eich cyfeirio at y partneriaid perthnasol a all eich helpu orau.
Ar gyfer cwynion ynghylch tîm y Clwb Ynni Lleol, byddwn yn:
- Ceisio deall a chofnodi’r broblem.
- Ceisio dod o hyd i ddatrysiad sy’n dderbyniol ichi.
- Rhoi gwybod ichi ba wersi rydym ni wedi’u dysgu a sut byddwn yn gwneud pethau’n wahanol yn y dyfodol.
- E-bost: info@energylocal.org.uk
Partneriaid Prosiect
Mae CBC Ynni Lleol yn gwmni cenedlaethol nid-er-elw sy’n helpu cymunedau i fanteisio ar fwy o werth o ynni adnewyddadwy lleol. Gallwch ddysgu mwy a gweld rhestr o’n harianwyr yma www.energylocal.org.uk.
100Green yw’r Cyflenwr Ynni Trwyddedig.
Mae Open Energy Monitor yn datblygu adnoddau monitro ynni ffynhonnell agored i’n helpu i ymwneud â’n defnydd o ynni, ein systemau ynni a’r her ynni cynaliadwy. https://openenergymonitor.org Maen nhw’n darparu’r monitorau.
Mae Connected Response yn darparu’r Dyfeisiau Mynediad i’r Cwsmer.
Geirfa
Dyfais Mynediad i’r Cwsmer (CAD) | Blwch bach ydy hwn sy’n mesur eich defnydd o drydan mewn amser real ac yn helpu’r Clwb i ddeall pryd mae’n amser da i ddefnyddio pŵer. |
Effeithlonrwydd Ynni | Mae hyn yn golygu defnyddio cyn lleied o ynni sydd ei angen i ddefnyddio’r peiriannau ac ati. Er enghraifft, mae defnyddio eich peiriant golchi llestri pan mae’n llawn yn golygu bod yr holl lestri yn cael eu glanhau gan ddefnyddio llai o drydan na phe baech chi wedi ei ddefnyddio ar gyfer dau hanner llwyth. |
Trydan “ychwanegol” | Dyma’r trydan rydych chi’n ei ddefnyddio sydd heb ei gyfatebu i’ch ynni lleol XXX sydd wedi’i gynhyrchu. |
Pŵer wedi’i Gynhyrchu | Mae Pŵer wedi’i Gynhyrchu yn fyr ar gyfer y cynhyrchiad o’ch gosodiad Solar Power lleol. |
kWh (kilowatt-awr) | Dyma’r uned ynni a ddefnyddir i fesur faint o drydan rydych chi’n ei ddefnyddio. Er enghraifft, byddai defnyddio popty trydan i goginio cyw iâr rhost yn defnyddio oddeutu 2 kWh o drydan. Byddai gwylio’r teledu am awr yn defnyddio oddeutu 0.1 kWh. |
Pris “Cyfatebol” | Dyma’r pris fyddwch chi’n ei dalu ac mae’r generadur yn ei dderbyn ar gyfer y pŵer adnewyddadwy a ddefnyddir gan y Clwb. |
Mesurydd Clyfar | Mae mesurydd clyfar yn mesur faint o drydan rydych chi’n ei ddefnyddio pob hanner awr ac yn anfon yr wybodaeth hon at y Cyflenwr Trwyddedig yn awtomatig (does dim rhaid i unrhyw un ddarllen y mesurydd eu hunain). |
Cost Sefydlog | Mae hwn yn rhan sefydlog o’ch bil trydan y mae’n rhaid ichi ei dalu waeth faint o drydan rydych chi’n ei ddefnyddio. Caiff ei ddangos yn aml mewn ceiniogau fesul diwrnod (c/y diwrnod) neu (p/day). |
Tariff Amser Defnyddio | Dyma’r gwahanol brisiau ar gyfer trydan ychwanegol, yn dibynnu ar yr amser o’r dydd caiff ei ddefnyddio. |
Diogelu Data
Caiff data rydych chi’n ei ddarparu ei gadw a’i reoli yn unol â’r gofynion cyfreithiol perthnasol. Efallai caiff ei rannu ymhlith y partneriaid sydd ynghlwm ag Ynni Lleol er dibenion y treial sy’n cynorthwyo neu’n asesu’r cynllun ond ni chaiff ei rannu gyda chyrff trydydd parti eraill neu ei ddefnyddio er unrhyw ddiben arall.