Cylchlythyr Ynni Lleol - Ionawr 2022

logo

Parc Roupell a Chapel Dewi i fynd yn fyw yn fuan

Newyddion gwych, rydym yn y camau olaf o sefydlu ein dau Glwb diweddaraf. Ar ôl derbyn nifer o ddatganiadau o ddiddordeb, mae Roupell Park (yn Brixton, De Llundain) yn agosach nag erioed at fynd yn fyw. Bydd y prosiect yn cefnogi ynni glân, solar a gynhyrchir yno ar ben toeau Ystâd Roupell Park. Hwn fydd ein hail brosiect yn Lloegr, ond y cyntaf o’i fath yn y brifddinas. Darllenwch fwy am gynllun Roupell Park yma. 

 Ac yn Ne Cymru, rydym yn gobeithio gweld ein Clwb yng Nghapel Dewi yn mynd yn fyw yn fuan hefyd. Bydd Ynni Lleol Capel Dewi hefyd yn mwynhau ynni solar a gynhyrchir yn lleol a bydd yn fodd i’r cymunedau cyfagos elwa ar ynni adnewyddadwy gwyrdd rhatach. 

 

Mwy o aelodau i ymuno â Bethesda a Machynlleth

 Hoffem groesawu ein set aelodau diweddaraf i ymuno â Chlybiau Bethesda a Machynlleth yn yr wythnosau nesaf. Ar hyn o bryd, rydym yn trefnu'r mân baratoadau cefndirol olaf i chi fynd yn Fyw.

 Ar ôl hyn, bydd Clwb Bethesda yn llawn ac ni fydd yn recriwtio rhagor o aelodau newydd.

 

Rydym yn recriwtio nawr! Mae'r Clybiau hyn yn chwilio am aelodau newydd

Tra bod Clwb Bethesda yn llawn, mae’r Clybiau canlynol yn chwilio am aelodau newydd i ymuno â chynllun Ynni Lleol: Capel Dewi, Llandysul, Machynlleth, Bridport, Crughywel a Dyffryn Banw.

 Edrychwch ar ein tudalen Clybiau yma i weld a ydych yn gymwys i ymuno â Chlwb yn eich ardal.

 

Croeso i Giles!

Mae Giles yn ymuno â’n tîm fel Cynghorydd Clwb a bydd yn gweithio gyda’r Clybiau ym Machynlleth, Llandysul, Capel Dewi, a Dyffryn Banw. Fel rhan o’i swydd bydd yn cefnogi’r Clybiau hyn yn ogystal ag estyn allan i godi ymwybyddiaeth o’r prosiect Ynni Lleol yn y cymunedau hyn. Mae Giles yn byw yn ardal Bethesda ac mae ganddo gefndir amrywiol i gyfrannu at y tîm Ynni Lleol, gan gynnwys gradd mewn Cynllunio a Rheolaeth Amgylcheddol, dysgu mewn addysg gynradd ac ysgolion iaith dramor. Rydym yn falch iawn o gael Giles ar y tîm, ac mae wedi bwrw iddi’n syth!

Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn SENS

Hoffai Ynni Lleol ddiolch i bawb a roddodd ganiatâd i gymryd rhan yn y prosiect SENS a gefnogir gan y llywodraeth. Ei ddiben oedd dangos manteision prosiectau fel Ynni Lleol a’r defnydd o fesuryddion clyfar. Fel diolch, hoffem barhau i gynnig plwg clyfar i unrhyw un sy'n cymryd rhan yn y prosiect SENS. Os nad ydych wedi cysylltu eisoes, e-bostiwch robbie@energylocal.co.uk am fanylion.

 

Hoffech chi weithio gydag Ynni Lleol?

Rydym yn chwilio am unigolyn arloesol ar gyfer swydd Swyddog Gweithredol Ymgysylltu Cymunedol. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon.