Ynni Lleol Pendraw'r Byd (Llŷn) Gwybodaeth Allweddol

Cael eich trydan o ffynhonnell leol
Beth yw Ynni Lleol Pendraw'r Byd (Llŷn)?
Prosiect cymunedol yw Ynni Lleol Pendraw'r Byd (Llŷn) fydd, drwy eich helpu i baru eich defnydd o drydan gyda phŵer o ffynonellau ynni adnewyddadwy lleol, yn eich galluogi i reoli eich biliau trydan a chefnogi ynni adnewydadwy lleol yr un pryd. Y ffynhonnell ynni adnewyddadwy ydy .
Sut mae hyn yn gweithio?
Pan fyddwch yn ymuno â’r prosiect hwn, byddwch yn dod yn rhan o’ch Clwb Ynni lleol. Pobl yn eich cymuned chi yw aelodau’r Clwb, ynghyd â chynhyrchwyr ynni lleol. Bydd mesurydd deallus yn cael ei osod yn eich cartref wedi i chi ddod yn aelod, yn rhad ac am ddim. Bydd y mesurydd yn cofnodi pa adegau o’r dydd rydych chi’n defnyddio trydan, yn ogystal â mesur faint rydych yn ei ddefnyddio. Mae hyn yn cynnig ffordd well o brynu trydan.
Os bydd aelodau’r Clwb yn defnyddio trydan ar adegau pan fydd y ffynhonnell ynni adnewyddadwy lleol yn cynhyrchu ynni, byddant yn defnyddio ynni ar y prisiau sydd rataf. Bydd yr ynni y mae’r cynhyrchydd lleol yn ei gynhyrchu yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng pob cartref sy’n defnyddio trydan ar yr adeg yna, a bydd pob cartref yn talu’r pris y mae’r Clwb wedi’i gytuno arno am eu cyfran (sef y 'tariff cyfatebol'). Mae hyn yn llai na phris arferol trydan ym Mhrydain ond yn fwy na beth fyddai’r cynhyrchydd yn ei gael fel arfer o’i werthu – pawb yn elwa, felly! Cytunir ar y prisiau hyn bob blwyddyn gan aelodau’r Clwb.
Bydd unrhyw ynni ychwanegol y mae ar gartrefi ei angen yn cael ei gyflenwi gan gyflenwr trydan, 100Green. Mae pris y trydan ychwanegol hwn yn dibynnu ar yr adeg o’r dydd pan gaiff ei ddefnyddio (sef y ‘tariff amser defnyddio’). Mae’r diwrnod yn cael ei rannu’n wahanol gyfnodau. Byddwch yn talu mwy am drydan ar adegau prysur (amser brecwast ac amser te) a llai ar adegau tawelach.
Ynni Lleol Pendraw'r Byd (Llŷn) Prisiau trydan
| Amser y dydd | Trydan wedi’i Gynhyrchu’n Lleol (ceiniog fesul kWh) | Trydan Ychwanegol (ceiniog fesul kWh) |
|---|---|---|
| 12am - 7am | 19.16 | |
| 4pm - 8pm | 31 | |
| All other times | 29.97 |
Y gost osodedig: 66.65 c/dydd.
Nid yw’r prisiau yn cynnwys TAW.
Bydd eich mesurydd deallus yn casglu gwybodaeth am eich defnydd ynni, a gallwch weld y wybodaeth hon ar-lein. Er mwyn eich helpu i newid yr amserau pan ydych yn defnyddio trydan er mwyn manteisio ar y prisiau gorau, byddwch hefyd yn cael adroddiadau ynni unigol, a chyngor a chefnogaeth sy’n berthnasol i chi.
I wneud yn fawr o’ch aelodaeth o’r Clwb Ynni Lleol, bydd angen i chi ddefnyddio trydan ar yr adegau pan fydd y ffynhonnell ynni adnewyddadwy lleol yn cynhyrchu ynni (gallwch edrych i weld pryd mae hyn, ar y dangosfwrdd ynni, gan ddefnyddio ffôn clyfar neu lechen), neu ar yr adegau rhataf o’r dydd.
Bydd sefyllfa pawb yn amrywio ond rydym yn amcangyfrif y bydd yn bosib i chi arbed 10-30% oddi ar eich bil trydan. Mi fydd ffi aelodaeth bach ar gyfer y Clwb. Mae hyn wedi'i gynnwys yn y gost osodedig.
Sut fydd y gymuned yn elwa?
Trwy Ynni Lleol Pendraw'r Byd (Llŷn), bydd y cynhyrchydd lleol yn cael gwell pris am yr ynni y mae’n ei gynhyrchu. Pan fyddwch yn talu am drydan lleol, y cynhyrchydd lleol fydd yn derbyn yr arian. Gan y byddwch wedi arbed ar eich biliau, bydd gennych chi ychydig mwy i’w wario’n lleol.
Beth am ymuno ag Ynni Lleol Pendraw'r Byd (Llŷn)?
Rydym yn edrych am gartrefi lleol a busnesau bach i fod yn rhan o’r Clwb. Os ydych yn meddwl yr hoffech ymuno, cliciwch ar y botwm isod i fynegi diddordeb. Ni fyddwch yn ymrwymo i ddim byd ar hyn o bryd.
Am fwy o wybodaeth ewch i dudalen y clwb, neu cysylltwch gyda:
Guto Brosschot
guto@deg.cymru
07964356212