Cwestyniau Gyffredinol am Energy Local CIC

Gwybodaeth am gofrestru

1. Materion sylfaenol

a. Wy yw Ynni Lleol (Energy Local)?   

Mudiad bychan, nid er elw, yw Ynni Lleol (Energy Local). Cafodd ei sefydlu er mwyn dangos sut y gall cymunedau lleol a chynlluniau ynni gwyrdd bach gael gwell bargen yn y farchnad drydan drwy weithio gyda’i gilydd.

b. Pwy sy’n rhedeg Ynni Lleol CBC?

Mae gan Ynni Lleol CBC (Cwmni er Budd Cymunedol) ddau gyfarwyddwr cyflogedig; sef Dr Mary Gillie a Linda Hilton. Cewch ddarllen mwy am dîm Ynni Lleol CBC yma: here.

c. Beth yw Clwb Ynni Lleol?    

Menter gydweithredol yw Clwb Ynni Lleol o dan y gyfraith. Mae’n grŵp o aelwydydd sy’n ffurfio Clwb lleol gyda chynhyrchydd ynni gwyrdd (adnewyddol) lleol, i ddefnyddio’r ynni hwnnw er mwyn cael gwell bargen i bawb.

2. Y manteision

a. Pa fantais sydd yna i mi?

Mae yna nifer o fanteision o ymuno â’ch Clwb Ynni Lleol:

  • Cadw arian yn y gymuned leol, gan hybu’r economi lleol
  • Lleihau eich biliau ynni
  • Cefnogi ynni gwyrdd lleol, gan greu gwlad fwy cynaliadwy a chefnogi’r gymuned

b. Sut mae’r gymuned leol yn elwa?

Trwy Ynni Lleol, bydd y sawl sy’n cymryd rhan yn talu ~18c/kWh pan mae eu defnydd trydan yn cyfatebu i’r trydan o’r cynhyrchydd lleol, o’i gymharu â’r ~10c/kWh y mae cynhyrchydd yn ei gael fel arfer. Mae’r pris yn fanteisiol i’r cynhyrchydd, gan gynyddu ei incwm a chadw’r arian yn y gymuned. Bydd hefyd yn costio llai i aelodau’r Clwb na phris trydan arferol 

c. Faint fydda i’n ei arbed?  

Bydd hyn yn amrywio o gartref i gartref. Bydd yn dibynnu ar sut ydych yn cyfatebu’ch defnydd chi o ynni i ynni a gynhyrchir yn lleol, a hefyd faint o drydan y byddwch yn ei ddefnyddio ar adegau brig ac allfrig. Amcangyfrif yw y gallech leihau eich biliau trydan o tua 10% – 30%.

ch. Sut bydd y Clybiau Ynni Lleol yn ennill incwm i dalu’r costau blynyddol o redeg y Clwb?

Gall aelodau Clwb Ynni Lleol gytuno i godi ffi fach ar yr aelodau bob blwyddyn. Mater i’r aelodau gyda’i gilydd yw cytuno faint ddylai’r ffi fod. Efallai y gallwn ychwanegu’r ffi at eich bil. Gellir defnyddio’r incwm i dalu costau gweinyddol rhedeg y Clwb Ynni Lleol – sy’n grŵp cydweithredol yn ôl y gyfraith – fel cadw cyfrifon a chostau cynnal Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

a.Beth yw Tariff Amser Defnyddio?

3. Tariff Amser Defnyddio

Weithiau byddwch yn gallu cyfatebu’r holl drydan rydych yn ei ddefnyddio i drydan o ffynhonnell leol. Dro arall, byddwch yn defnyddio mwy nag sydd ar gael. Ar gyfer y trydan ychwanegol, byddwch yn talu cyfradd wahanol yn ôl pa adeg o’r dydd yw hi. Bydd yn rhatach yn ystod y nos ac amser cinio, ac yn ddrutach amser brecwast ac amser te. “Tariff Amser Defnyddio” rydym ni’n galw hyn. Gall eich Clwb roi mwy o fanylion i chi am brisiau tariff eich Clwb. page.

4.Y Pŵer Lleol

a. Beth yw ynni adnewyddadwy (gwyrdd)?  

Ynni adnewyddadwy yw ynni a gynhyrchir drwy ddefnyddio adnoddau adnewyddadwy fel y gwynt, dŵr, treuliad anaerobig gwastraff gwyrdd a golau’r haul. Gall gorsafoedd trydan dŵr, tyrbinau gwynt a phaneli haul gasglu ynni adnewyddadwy i ni bweru ein bywydau.

b. Pam mae fy nhrydan yn rhatach o’i gyfatebu i ynni gwyrdd sy’n cael ei gynhyrchu yn lleol?

Yn ogystal â chartrefi lleol, mae cynhyrchydd ynni gwyrdd lleol hefyd yn aelod o’r Clwb. Bydd y Clwb yn cytuno pa bris bydd cartrefi yn ei dalu am y trydan y byddant yn ei ddefnyddio pan fydd ynni gwyrdd lleol ar gael. Bydd y pris hwn yn uwch na’r pris y byddai’r cynhyrchydd ynni lleol yn ei dderbyn fel arfer, ond yn llai na’r hyn y byddai’r cartrefi yn ei dalu fel arfer. Mae pawb yn elwa!

c. Sut bydda i’n arbed arian trwy ddefnyddio trydan o ffynonellau adnewyddadwy lleol?

Bydd gennych fesurydd clyfar i fesur faint o drydan y byddwch yn ei ddefnyddio bob hanner awr. Y trydan a ddefnyddiwch pan fydd ynni gwyrdd lleol yn cael ei gynhyrchu fydd y trydan rhataf ar gael i chi fel aelod o’ch Clwb Ynni Lleol.

ch. Faint fydd fy nghyfran i o’r trydan gwyrdd lleol?

Bydd y trydan gwyrdd a gynhyrchir yn lleol yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng cartrefi’r Clwb Ynni sy’n defnyddio trydan ar y pryd. Weithiau bydd eich cyfran yn ddigon ar gyfer yr holl drydan rydych yn ei ddefnyddio ar y pryd. Dro arall byddwch yn prynu cyfuniad o drydan o’r ffynhonnell adnewyddadwy leol a thrydan ar y Tariff Amser Defnyddio.

Gall fod eich cynllun ynni lleol yn cael ei gau am nifer bach o ddyddiau mewn blwyddyn ar gyfer gwaith cynnal a chadw. Bydd y rhagolygon ar eich Energy Dashboard.

Trwy newid eich defnydd trydan o adegau brig i adegau allfrig, mae’n fwy tebygol y bydd digon o ynni adnewyddol lleol ar gael ar gyfer y trydan rydych yn ei ddefnyddio.

Mae’r cydbwysedd rhwng faint o drydan rydych yn ei brynu am bris isel yr ynni gwyrdd lleol, a faint rydych yn ei brynu am dariff amser defnyddio, yn dibynnu ar gyfanswm yr ynni lleol sydd ar gael a pha gyfran o’r ynni hwnnw rydych chi’n ei gael ar y pryd. Mwy yma.

d. Sut dwi’n gwybod pryd mae fy nefnydd o drydan yn cyfatebu i ynni gwyrdd sydd wrthi’n cael ei gynhyrchu?     

Byddwn yn gosod mesurydd deallus sy’n mesur faint o drydan rydych yn ei ddefnyddio bob hanner awr. Felly, gallwch ddangos pryd roeddech yn defnyddio ynni tra cynhyrchwyd ynni gwyrdd lleol. Bydd gennym hefyd ‘Energy Dashboard’ y gallwch edrych arno ar ffôn clyfar neu liniadur. Bydd yn amcangyfrif faint o ynni fydd ar gael o’r cynhyrchydd lleol bob dydd, fel y bydd gennych ryw syniad ymlaen llaw faint o’ch defnydd y gellir ei gyfatebu iddo.

Trwy newid eich defnydd trydan o adegau brig i adegau allfrig, mae’n fwy tebygol y bydd digon o ynni adnewyddol lleol ar gael ar gyfer y trydan rydych yn ei ddefnyddio.

Mae’r cydbwysedd rhwng faint o drydan rydych yn ei brynu am bris isel yr ynni gwyrdd lleol, a faint rydych yn ei brynu am dariff amser defnyddio, yn dibynnu ar gyfanswm yr ynni lleol sydd ar gael a pha gyfran o’r ynni hwnnw rydych chi’n ei gael ar y pryd.

dd. Beth os nad wyf yn siŵr faint o drydan dwi’n ei ddefnyddio?    

Rydym yn ddarparu ‘Energy Dashboard’ , y gallwch edrych arno ar ffôn clyfar neu liniadur. Bydd yn dangos eich defnydd o drydan fesul hanner awr.

Bydd gennym awgrymiadau a chyngor i’ch helpu i ddefnyddio trydan yn ddoeth, dangos i chi sut i ddefnyddio llai o drydan, ac egluro sut y gallwch ddefnyddio trydan ar yr adegau rhataf o’r dydd.

e. Mae gennyf baneli haul ar fy nhŷ. Allaf eu cynnwys yn Ynni Lleol?

Gallwch gynnwys eich paneli haul hefyd. Os gwelwch yn dda, pan ydych yn rhoi eich manylion ar y Porth, nodwch fod gennych baneli haul. Sylwch fod hyn yn newydd i Ynni Lleol, ac efallai bydd rhaid inni drafod hyn o un achos i’r llall.

5. Newid eich amser

a. Pam mae hi’n bwysig ceisio i ddefnyddio llai o drydan yn ystod amserau brig?

Er mwyn manteisio i’r eithaf ar eich aelodaeth o’r Clwb Ynni Lleol, mae’n bwysig eich bod yn ymdrechu i ddefnyddio llai o drydan ar amser brig (amser brecwast a gyda’r nos) oherwydd dyna’r adegau drutaf. Os yw’r cynllun trydan lleol wrthi’n cynhyrchu, mi fydd rhywfaint o drydan lleol ar gael, ond fel rheol dyma pryd mae’r galw mwyaf am drydan, ac felly mae’n llai tebygol y bydd eich cyfran o’r ynni gwyrdd lleol yn ddigon i ddiwallu eich anghenion trydan i gyd bryd hynny.

Trwy ddefnyddio trydan ar adegau eraill o’r dydd, byddwch yn osgoi prisiau uchaf y Tariff Amser Defnyddio, a bydd eich cyfran o’r ynni lleol gwyrdd yn debygol o ddiwallu mwy o’ch angen.

b. Beth fedra i ei wneud i ddefnyddio llai o drydan yn ystod yr amserau brig?

Mae llawer o’r pethau y gallwch eu gwneud yn syml – fel rhedeg eich peiriant golchi llestri neu golchi dillad, a gwefru car trydan ar amser allfrig (gallwch ddefnyddio’r botwm oedi ar eich Dangosfwrdd Ynni). Unwaith y byddwch ar y tariff, byddwn yn rhoi cyngor ac anogaeth amrywiol i aelodau’r Clwb. Byddwn hefyd yn cynnal cyfarfodydd ar gyfer grwpiau bach neu sesiynau galw i mewn lle bydd cyngor ar gael.

6. Newid cyflenwr trydan?

a. Newid cyflenwr trydan?   

Oes. Bydd yn rhaid i chi newid at y cyflenwr a ddewisir gan eich Clwb Ynni Lleol.

b. Oes rhaid i mi newid i’r un cyflenwr ar gyfer nwy hefyd?  

Nac oes. Cewch gadw at eich cyflenwr nwy presennol os dymunwch. ac os ydynt yn cynnig tariff nwy yn unig. Fodd bynnag, mae cyflenwr Ynni Lleol yn cynnig dewis ar gyfer y ddau danwydd.

c. Fydda i’n dal i dalu ffi sefydlog ar gyfer defnydd trydan?

Bydd. Bydd y prisiau y byddwch yn eu talu yn dibynnu ar leoliad eich Clwb. Byddant i’w gweld ar dudalen y Clwb ar Borth Ynni Lleol unwaith maent wedi eu cadarnhau.

Edrychwch ar energylocal.org.uk a dewiswch eich Clwb i weld y manylion.

ch. Sut fydda i’n derbyn biliau?

Bydd eich cyflenwr ynni yn anfon bil am bopeth. Byddwch yn cael eich biliau ynni drwy e-bost neu drwy’r post, pa un bynnag y byddwch yn ei ddewis. Byddwch yn talu drwy ddebyd uniongyrchol.

d. Beth yw mesurydd deallus a pham dwi angen un?

Mae mesurydd deallus yn mesur faint o drydan a nwy rydych chi’n ei ddefnyddio bob hanner awr ac yn anfon yr wybodaeth at eich cyflenwr heb i chi orfod darllen y mesurydd. Bydd angen i chi gael mesurydd deallus fel y gall eich cyflenwr wneud yn siŵr y codir y prisiau cywir arnoch.

Bydd y cyflenwr ynni yn gosod eich mesurydd deallus ac ni fydd yn costio dim i chi. Bydd y mesurydd deallus yn aros yn ei le os ydych yn gadael Ynni Lleol neu’n symud tŷ.

Bydd rhaid i chi roi caniatâd i’ch cyflenwr trydan ac Ynni Lleol CBC a’i bartneriaid weld eich data fesul hanner awr – chi sydd mewn rheolaeth.

dd. Beth os dwi ar dariff cyfnod sefydlog gyda’m cyflenwr ar hyn o bryd, a bod ffi i’w dalu am adael cyn yr amser?

Eich dewis chi yw penderfynu a ydych am newid i Ynni Lleol ar unwaith a thalu’r ffi.

e.Beth os yw cyfnod fy nhariff sefydlog yn dod i ben cyn i’r Clwb fod yn barod i newid drosodd?

Os nad oes tariff cost-effeithiol gan eich cyflenwr sydd heb ffi am adael yn fuan, cewch newid at gyflenwr eich Clwb a dewis eu tariff gorau. Wedyn symudwch at Ynni Lleol pan maen nhw’n barod.

h. Beth os dwi’n symud tŷ?

Heblaw bod yna Glwb yn eich ardal newydd, neu eich bod yn aros yn ardal eich Clwb, bydd rhaid i chi adael eich Clwb pan ydych yn symud tŷ (gweler isod)

  •  Os gwelwch yn dda, rhowch wybod i’ch cyflenwr eich bod yn symud tŷ
  • Rhowch wybod i’r trigolion newydd (neu gadewch neges iddyn nhw) eich bod yn rhan o’r Clwb, a rhowch y cysylltiad gwe iddyn nhw. Gofynnwch iddynt roi eu manylion cyswllt i’r cyflenwr a chofrestru ar y Porth, fel y gall y Clwb gysylltu â nhw. . 
  •  Os ydych yn symud tŷ o fewn ardal eich Clwb, neu i ardal Clwb arall: rhowch wybod i’r cyflenwr eich bod yn symud, oherwydd bydd rhaid iddyn nhw osod mesurydd clyfar yn eich tŷ newydd. Fel uchod, os gwelwch yn dda dywedwch wrth y trigolion newydd yn eich hen dŷ am Ynni Lleol.  

f.Beth os byddaf isio gadael y cynllun?

Gobeithiwn na fydd gennych chi reswm am fod isio gadael, ond os bydd rhaid i chi, rhowch wybod i’ch cyflenwr. Gall gymryd hyd at bythefnos i’ch tynnu o’r Clwb. Yna bydd eich cyflenwr yn anfon eu hamodau a thelerau newydd i chi. Efallai bydd rhaid i chi ddarllen eich mesurydd eto, achos o bosib na fydd yn ymarferol iddyn nhw wneud hynny’n awtomatig. Os nad ydych am aros gyda’r cyflenwr o dan yr amodau newydd, cewch symud at gyflenwr arall os dymunwch. Os gwelwch yn dda, rhowch wybod i’ch Clwb hefyd eich bod yn gadael.

7. Pwy sy’n cael cymryd rhan?

a. Busnes bach ydym ni. Ydi hi’n bosib i ni ymuno â’r Clwb Ynni Lleol?

Ydi. Rhowch eich manylion ar y Porth os gwelwch yn dda, a nodwch eich bod yn fusnes bach..

b.Ga i gymryd rhan os nad wyf yn byw yn ardal un o’r clybiau?

Ar hyn o bryd, mae gennym glybiau mewn pump ardal, a gobeithio y bydd mwy yn fuan. Rhowch wybod i ni fod gennych ddiddordeb..

c. Oes rhaid i mi fod yn berchennog ar y tŷ lle dwi’n byw?   

Nac oes ond mae’n rhaid i chi fod yn talu’r bil trydan. Os ydych yn talu rhent sy’n cynnwys y biliau, neu os oes rhywun arall yn talu eich bil, beth am awgrymu iddyn nhw ymuno gydag

d. Ynnch Rwyf ar Economy 7, ydi hi’n bosib i mi ymuno?   

Ydi, ond bydd rhaid i chi gael mesurydd deallus a mynd ar y Tariff Amser Defnyddio gyda phawb arall. Bydd y trydan a ddefnyddiwch yn ystod y nos yn dal i fod yn rhatach, ond bydd gennych dri tariff yn lle dau.

dd. Dwi ar fesurydd rhagdalu. Ydi hi’n bosib i mi ymuno?

Rydym yn gobeithio cynnwys mesuryddion rhagdalu yn yr ychydig fisoedd nesaf. Rhowch wybod i ni os oes gennych ddiddordeb ar energylocal.org.uk a byddwn yn cysylltu â chi pan fydd gennym wybodaeth

8. Rhai Pwyntiau Ymarferol

a. Sut galla i fynegi diddordeb?

Rhowch wybod i ni ar-lein yn sign up.

b.ut fyddwch yn anfon gwybodaeth ataf?  

Y ffordd hawsaf yw i ni e-bostio gwybodaeth atoch. Rydym yn sylweddoli nad yw hyn yn ymarferol i bawb, a gallwn gysylltu â chi drwy’r post. Bydd gwefan y ‘ Energy Dashboard yn dangos eich defnydd chi o drydan (chi yn unig all weld hwn), defnydd y Clwb a pha bryd mae’r trydan gwyrdd lleol yn cael ei gynhyrchu. list

c. Sut fyddwch yn anfon gwybodaeth ataf?   

Y ffordd hawsaf yw i ni e-bostio gwybodaeth atoch. Rydym yn sylweddoli nad yw hyn yn ymarferol i bawb, a gallwn gysylltu â chi drwy’r post. Bydd gwefan y ‘Energy Dashboard’ yn dangos eich defnydd chi o drydan (chi yn unig all weld hwn), defnydd y Clwb a pha bryd mae’r trydan gwyrdd lleol yn cael ei gynhyrchu.

ch. Alla i adael fy Nghlwb Ynni Lleol?   

Gallwch. Os bydd angen i chi adael oherwydd amgylchiadau nad oeddech wedi’u rhagweld, cewch symud i dariff safonol y cyflenwr trydan neu newid eich cyflenwr.

d. Oes rhaid gwneud rhywbeth arall er mwyn bod yn aelod o’r Clwb? Oes rhaid i mi helpu rhedeg y Clwb Ynni Lleol neu gyfrannu mewn ffordd arall?

Nid oes rhaid i chi helpu rhedeg y Clwb neu gyfrannu o’ch amser, er y byddem yn hoffi i chi fod yn rhan o’r hyn sy’n digwydd. Byddwn yn gofyn i aelodau lenwi holiadur tua unwaith y flwyddyn, a byddem yn hynod falch petaech yn fodlon gwneud hyn.

dd. Beth yw kWh?

Dyma’r uned ynni sy’n cael ei defnyddio i fesur faint o drydan rydych yn ei ddefnyddio. Er enghraifft, mae defnyddio popty trydan i rostio cyw iâr yn defnyddio tua 2 kWh o drydan. Mae gwylio’r teledu am awr yn defnyddio tua 0.1 kWh. . 

9. Diogelu data 

a. Pwy fydd yn gallu gweld fy miliau trydan?

Bydd y data ar gyfer pob hanner awr yn disodli darllen y mesurydd. Bydd y cyflenwr trydan yn defnyddio’r data i’ch bilio chi yn ôl pa amserau rydych wedi defnyddio ynni. I fod yn rhan o Ynni Lleol, rhaid i chi roi caniatâd iddyn nhw weld a defnyddio’r data hyn. Dyna’r drefn arferol. Os dewiswch ymuno â’r Clwb, fe ofynnir i chi roi eich caniatâd bryd hynny.

Bydd partneriaid Ynni Lleol yn defnyddio’r data i gysylltu â chi a dadansoddi perfformiad cynllun Ynni Lleol.

10. Y bobl tu ôl i’r prosiect

a. Pwy sy’n rhedeg Ynni Lleol CBC?

Mae gan Ynni Lleol CBC ddau gyfarwyddwr cyflogedig; sef Dr Mary Gillie a Dr Linda Hilton, a bwrdd o gyfarwyddwyr anweithredol. Darllenwch fwy am Ynni Lleol CBC: yma.

b. Pwy arall sydd â rhan yn y cynllun heblaw Ynni Lleol?

Gallwch weld rhestr o’n partneriaid ar partners

c. Pwy sy’n ariannu Ynni Lleol?         

TMae’r partneriaid yn cael grantiau o nifer o ffynonellau, gan gynnwys:

  • Department of Business Energy and Industrial Strategy
  • Welsh Government/Energy Saving Trust
  • EU Rural Development Programme
  • Esme Fairbairn Trust
  • Tudor Trust

Gallwch weld enwau’r noddwyr eraill sydd wedi cefnogi Ynni Lleol ar eu gwefan funders who have supported Energy Local