Yr Arbrawf Arbedion Ynni Clyfar

Hoffech chi ymuno â threial a gefnogir gan y Llywodraeth o'n Clwb Ynni Lleol newydd a allai’ch helpu i arbed arian ar eich biliau ynni?

Mae Ynni Lleol yn ffordd newydd o alluogi cymunedau lleol a chynhyrchwyr ynni adnewyddadwy ar raddfa fach i gydweithio i reoli'r galw a'r cyflenwad trydan yn lleol, er mwyn hybu defnydd mwy effeithiol ar drydan, a lleihau biliau ac allyriadau carbon. Cyflawnir hyn drwy sefydlu Clwb Ynni Lleol, a thrwy berthynas newydd â chyflenwyr ynni, mesuryddion clyfar a thechnoleg i roi help llaw ichi o ran sut rydych chi’n defnyddio pŵer.

Rydyn ni wrthi’n treialu’n Clwb Ynni Lleol newydd fel rhan o raglen a gefnogir gan y Llywodraeth i ddatblygu amrywiaeth o gynhyrchion a gwasanaethau sy'n helpu aelwydydd fel eich un chi i ddefnyddio llai o ynni. Gallai hyn arbed arian i aelwydydd ar eu biliau ynni a hefyd fod o fudd i'r amgylchedd.

Hoffem eich gwahodd chi i gymryd rhan yn y treial hwn, a fydd yn cael ei gynnal rhwng mis Ionawr 2021 a mis Rhagfyr 2022. Byddai hyn yn golygu y bydd angen ichi gytuno i rannu rhywfaint o ddata gyda'n partneriaid ymchwil annibynnol a benodir gan y Llywodraeth. Y rheswm am hyn yw er mwyn iddyn nhw allu gwneud gwaith ymchwil i archwilio sut mae cartrefi'n elwa o fod yn rhan o'r Clwb Ynni Lleol.

Darllenwch drwy'r wybodaeth ganlynol am y data y bydd ei angen a sut y caiff ei drin a'i ddefnyddio'n ddiogel ac yn gyfrinachol. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth unrhyw bryd, cysylltwch ag un o'r sefydliadau yn yr adran Manylion Cysylltu ar y diwedd.

Ar ôl ichi ddarllen yr wybodaeth ar y isod, os hoffech gymryd rhan yna llenwch y Ffurflen Gydsynio ar y diwedd.

Sut y gallwch helpu i werthuso'r Clwb Ynni Lleol

Mae'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) wedi comisiynu astudiaeth (y 'gwerthusiad') i ddysgu sut mae'r Clwb Ynni Lleol yn effeithio ar ddefnydd a biliau ynni’r aelodau. Bydd tystiolaeth o'r gwerthusiad hwn yn helpu i fwydo’r gwaith o ddatblygu polisi yn y dyfodol i helpu effeithlonrwydd ynni cartrefi. Mae BEIS wedi penodi'r cwmni ymchwil Ipsos MORI a'i bartneriaid a gymeradwywyd i wneud y gwerthusiad hwn.

Sicrhau data o’r mesurydd clyfar

Rhan o'r gwerthusiad yw gwirio sut mae'r Clwb Ynni Lleol yn eich helpu i newid y ffyrdd a'r amserau y byddwch yn defnyddio ynni er mwyn lleihau’ch biliau. I wneud hyn, mae angen i Ipsos MORI sicrhau data ar faint o ynni mae’ch cartref yn ei ddefnyddio. Mae'r data hwn yn cael ei gadw yn eich mesurydd clyfar. Os dewiswch chi gymryd rhan yn y gwerthusiad, bydd Ipsos MORI yn sicrhau’r data ynni sy'n cael ei storio ar eich mesurydd clyfar drwy ddefnyddio gwasanaeth a ddarperir gan Goleg Prifysgol Llundain (UCL).

Os byddwch yn rhoi’ch cydsyniad drwy ddefnyddio'r Ffurflen Gydsynio isod, yna byddwn yn rhannu’ch enw a'ch cyfeiriad gyda UCL. Wedyn bydd UCL yn anfon llythyr atoch gyda gwybodaeth am sut y gallwch roi mynediad iddyn nhw i ddata’ch mesurydd clyfar chi at ddibenion y gwerthusiad. Ni fydd angen i neb ymweld â'ch cyfeiriad chi ac ni fydd hyn yn effeithio ar eich biliau ynni mewn unrhyw ffordd.

Sicrhau data ynni arall ar wahân i ddata’r mesurydd clyfar

Er mwyn deall sut mae'r defnydd o ynni yn newid dros amser mewn cartrefi sy'n treialu'r Clwb Ynni Lleol, hoffai Ipsos MORI edrych ar sut roeddech chi’n defnyddio ynni cyn y treial, gan gynnwys cyn ichi gael mesurydd clyfar wedi'i osod. Byddwch cystal â chadarnhau ar y Ffurflen Gydsynio isod a ydych chi’n rhoi eich cydsyniad i Ipsos MORI gael mynediad i'ch gwybodaeth am ddefnyddio ynni yn y gorffennol drwy eich cyflenwr ynni. Bydd yr wybodaeth hon yn cael ei rhannu'n ddiogel gyda thîm Ipsos MORI a dim ond at ddibenion cynnal yr ymchwil hon y caiff ei defnyddio.

Sut allwch chi roi adborth ar y Clwb Ynni Lleol?

Byddem yn ddiolchgar pe baech chi hefyd yn rhoi’ch cydsyniad i rannu’ch manylion cysylltu (enw, cyfeiriad, e-bost a ffôn) gydag Ipsos MORI er mwyn iddyn nhw eich gwahodd i roi adborth ar sut mae’ch cartref yn defnyddio ynni ac ar y Clwb Ynni Lleol. Dros y flwyddyn nesaf, efallai y cewch eich gwahodd i gymryd rhan mewn arolwg a chyfweliad byr dros y ffôn.

Oes rhaid imi gymryd rhan?

Rhywbeth cwbl wirfoddol yw cymryd rhan yn y gwerthusiad ac, os byddwch yn dewis cymryd rhan, byddwch yn gallu rhoi’r gorau i gyfranogi unrhyw bryd heb roi rheswm – gweler isod am sut i wneud hyn. Drwy roi eich cydsyniad i rannu’ch manylion cysylltu nawr, dydych chi ddim o dan unrhyw rwymedigaeth i gymryd rhan yn nes ymlaen. Gallwn eich sicrhau y bydd eich manylion yn cael eu rhannu'n ddiogel gydag Ipsos MORI a UCL, a'u cadw’n ddiogel ganddyn nhw, a'u defnyddio at ddibenion y gwerthusiad yn unig.

Beth os hoffwn i dynnu'n ôl o'r gwerthusiad?

Cewch wneud hynny drwy gysylltu ag unrhyw un o'r bobl ar waelod y tudalen hwn. Does dim angen ichi roi rheswm dros wneud hynny a chewch dynnu'n ôl unrhyw bryd. Os byddwch yn tynnu'n ôl, bydd pob parti gan gynnwys Ipsos MORI a UCL yn dileu unrhyw wybodaeth adnabod ynglŷn â chi sydd ganddyn nhw.

Fydd fy nata i byth yn cael ei werthu neu ei ddefnyddio at ddibenion masnachol?

Na fydd. Fydd y data a sicrheir gan Ipsos MORI ac UCL byth yn cael ei werthu i drydydd partïon a dim ond at y dibenion sydd wedi’u disgrifio yma y caiff ei ddefnyddio.

Hysbysiad Preifatrwydd Diogelu Data

Y categorïau data personol sy’n cael eu prosesu gan Ipsos MORI yw: eich enw, eich cyfeiriad, eich cyfeiriad e-bost a’ch rhif ffôn. Yn unol â’r ddeddfwriaeth ar ddiogelu data, Ipsos MORI yw’r Rheolwr Data ar gyfer y data personol hwn.

Dim ond mor hir ag y bydd ei angen at ddibenion y gwerthusiad y bydd Ipsos MORI yn prosesu’ch data personol. Byddan nhw’n cadw’ch data'n ddiogel, yn storio’ch manylion cysylltu ar wahân i ddata a ddefnyddir ar gyfer ymchwil, ac yn lleihau'r broses o brosesu data personol lle bynnag y bo modd, yn unol â’r ddeddfwriaeth ar ddiogelu data. Bydd eich data personol yn cael ei ddileu'n ddiogel unwaith y bydd y prosiect yn gorffen.

Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau, a sut mae Ipsos MORI yn defnyddio gwybodaeth y cyfranogwyr, ar gael yma:

https://www.ipsos.com/ipsos-mori/en-uk/privacy-data-protection

Beth os oes gennych ymholiad neu os aiff rhywbeth o'i le?

Nid Ipsos MORI sy'n gyfrifol am y Clwb Ynni Lleol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, neu os hoffech wneud cwyn am sut mae Ipsos MORI yn prosesu’ch data ar gyfer y prosiect hwn, gallwch gysylltu â nhw gan ddefnyddio'r manylion isod.

Beth os hoffwn i wneud cwyn ffurfiol?

Os nad ydych yn teimlo bod eich cwyn wedi'i thrin yn foddhaol, yna gallwch gysylltu ag Ipsos MORI yn compliance@ipsos.com. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ddiogelu data, neu os hoffech gysylltu â rhywun ynglŷn â’ch hawliau, gallwch gysylltu ag Ipsos MORI yn compliance@ipsos.com.

Os ydych yn dal yn anfodlon, mae gennych hawl i gyflwyno cwyn ffurfiol i Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) y Deyrnas Unedig. Gallwch weld manylion llawn ar adran gwynion gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: https://ico.org.uk/make-a-complaint/

Manylion Cysylltu

Mary Gillie - Energy Local CIC

Ebost: Mary@energylocal.co.uk     Gwefan: www.energylocal.co.uk

Cyfeiriad: Glaslyn, Ffordd y Parc, Parc Menai, Bangor, Gwynedd LL57 4FE

Ipsos MORI

Ebost: compliance@ipsos.com       Gwefan: www.ipsos.com

Cyfeiriad: Ipsos MORI, 3 Thomas More Square, London E1W 1YW

Llenwch y Ffurflen Cydsyniad ar y sgrin nesaf os hoffech chi gymryd rhan yn y gwerthusiad hwn.