Gwyrfai

Ardal dan sylw
Bro Gwyrfai a Chaeathro

Ddim yn yr ardal hon? Ewch i'n rhestr o glybiau i weld a oes un yn eich ardal chi.

Statws Clwb
Rydym yn gweithredu ac yn agored i aelodau newydd.

Ymunwch ag Ynni Lleol Gwyrfai

Mae Ynni Lleol Gwyrfai yn glwb a arweinir gan y gymuned sy'n eich galluogi chwi i gael mynediad i'ch ynni o - a chyfrannu at - gyflenwad hydro lleol ynghyd â'n cynlluniau ar gyfer ynni solar cymunedol newydd.

Trwy gydweddu'r gofyn am ynni lleol i gynhyrchiad lleol, mae'r clwb yn cynnig cyfle i gartrefi a busnesau lleol dalu llai am ynni, tra'n helpu i adeiladu rhwydwaith ynni gwydn, ystyriol o'r amgylchedd sy'n fanteisiol i'ch poced, eich cymuned a'ch planed.  

Gofynion Aelodaeth

'Rydym yn chwilio am 40 o gartrefi a busnesau bychain, i gychwyn, i fod yn aelodau sylfaenol o Ynni Lleol Gwyrfai. 
Mae'n rhaid fod darpar aelodau:

  1. hefo eiddo o fewn dalgylch Is-orsaf Trydan Waunfawr (gweler y map uchod)
     
  2. hefo mesurydd clyfar (neu'n fodlon i un gael ei osod)
     
  3. yn medru newid cyflenwr ynni i'n partner 100Green (mi wnawn ni'ch cynorthwyo hefo'r newid!)
     
  4. yn fodlon derbyn tariff uwch gan 100Green am gyflenwad trydan ar adegau pan nad yw'r ynni a gynhyrchir yn lleol am 15c/kwh yn ddigonnol i foddhau'r gofyn amdano. 
     
  5. yn amyneddgar OS GWELWCH YN DDA,  tra bo Ynni Lleol Gwyrfai yn cymryd ei gamau cyntaf ar y daith!

 

Os ydych yn bodlonni'r gofynion uchod, byddem yn falch o'ch cael chwi hefo ni, felly os gwelwch yn dda cofrestrwch eich diddordeb mewn ymuno trwy glicio ar y botwm "Ymunwch ag Ynni Lleol" uchod neu isod.

Manylion Cyswllt Clwb

Enw cyswllt
Emyr Roberts
Cysylltu e-bost
Ffôn gyswllt
Cyfeiriad cyswllt

EMYR ROBERTS
Tyn Rardd
Waunfawr
Caernarfon
LL55 4BX
Y Deyrnas Unedig

Cyfarwyddwyr
Elfyn Wynne Griffith
Leonard David Griffith-Swain
Emyr Roberts

Manylion Cynhyrchu

Gallu i Gynhyrchu
35kW
Math o Gynhyrchu
Cyflenwr

Taliadau

Nid yw'r holl brisiau yn cynnwys TAW.

Taliadau Trydan

Daw’r newidiadau hyn i rym unwaith y byddwch ar dariff Ynni Lleol.

Note that these prices are estimates.

Tâl Sefydlog Trydan
82.10 ceinog y kWh
Mae’r tâl sefydlog yn cynnwys ffioedd aelodaeth y clwb a gweinyddu o 18.63c y dydd. Gweler yr adran Taliadau’r Clwb isod am fanylion.
Tariff Cyfatebu
15.75 ceinog y kWh

Tariff Amser Defnyddio

12am - 7am all week
15.8000 c/kWh
4pm - 8pm weekdays
27.0762 c/kWh
All other times
26.0952 c/kWh

Ffi trydan cychwynnol

Mae’r Tariff Unffurf yn berthnasol am gyfnod cychwynnol, o’r adeg y byddwch yn newid i’r cyflenwr newydd hyd nes y bydd eich safle wedi’i ychwanegu at y Clwb. Os nad oes gennych fesurydd clyfar sy’n gweithio, byddwch ar y Tariff Unffurf nes bydd un wedi’i osod ac y gellir eich ychwanegu at y Clwb — fel arfer o fewn dau fis.

Tâl Sefydlog Tariff Gwastad (safonol)
67.40 ceiniog y dydd
Cyfradd Uned Tariff Gwastad (safonol)
26.40 c/kWh
Tâl Sefydlog Tariff Gwastad (Economi 7)
66.64 ceiniog y dydd
Cyfradd Uned Tariff Gwastad (Economi 7, Dydd)
31.02 c/kWh
Cyfradd Uned Tariff Gwastad (Economi 7, Nos)
18.00 c/kWh

Taliadau Nwy

Gwybodaeth ddim ar gael

Taliadau Clwb

Mae'r ffioedd hyn wedi'u cynnwys yn y tâl sefydlog a ddangosir uchod. (Efallai y bydd eich bil yn dangos tâl sefydlog is ac yn rhestru'r ffioedd hyn ar wahân.)
Ffi Aelodaeth Clwb
£2.00 y flwyddyn
Mae'r ffi hon yn talu costau rhedeg y Clwb a all gynnwys costau argraffu, Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a chyfrifyddu.
Ffi aelodaeth Ynni Lleol
£6.00 y flwyddyn
Mae'r ffi hon yn talu rhai o gostau gweinyddol Ynni Lleol i hwyluso Clybiau.
Ffi Aelodaeth y Clwb
£8.00 y flwyddyn
Ffi Cyflenwr
£60.00 y flwyddyn
Codir y ffi hon gan y cyflenwr am weinyddu pob aelod o'r clwb.

Ymunwch ag Ynni Lleol Gwyrfai