Bro Rhian
Ddim yn yr ardal hon? Ewch i'n rhestr o glybiau i weld a oes un yn eich ardal chi.
Ymunwch ag Ynni Lleol Bro Rhian
Mae ein clwb yn galluogi cwsmeriaid domestig lleol i brynu ynni adnewyddadwy, a gynhyrchir yn lleol, am bris teg.
Wrth gychwyn ar y daith, byddwn yn defnyddio trydan a gynhyrchir gan un generadur gwynt a solar lleol, ond ein bwriad fydd i ychwanegu mwy o genedaruron ynni adnewyddadwy lleol i’n clwb yn y dyfodol.
A hoffech ymuno â'r Clwb? Rydym yn chwilio am grŵp bach o gefnogwyr cynnar i gymryd rhan wrth i ni lansio’r clwb; fel aelod o'r clwb, byddwch yn gallu elwa o bris is ar ynni adnewyddadwy a gynhyrchir yn lleol, tra'n helpu'r ardal leol ar y daith i fod yn fwy cynaliadwy.
I fod yn aelod bydd disgwyl i chi:
Allu newid eich cyflenwr trydan i 100Green naill ai ar ddiwedd eich contract gyda'ch cyflenwr cyfredol, neu fod yn barod i dalu ffi allanfa iddyn nhw (os gofynnir gan y cwmni hwnnw).
Gael mesurydd clyfar yn y tŷ (neu fod yn hapus i un gael un wedi’i osod).
Ddeall y byddwch yn elwa fwyaf, wrth geisio sicrhau bod cymaint o’ch ddefnydd o drydan yn digwydd ar yr adegau hynny o'r dydd pan fo’r trydan adnewyddadwy yn cael ei gynhyrchu’n lleol - pan fydd cyfradd rhatach y clwb ar gael.
Fod yn barod i dderbyn tariff 'gwyrdd dwfn' gyda 100Green, sy'n uwch, ar adegau, na tariff domestig safonol rhai cyflenwyr eraill, pan nad ydych yn defnyddio trydan a gynhyrchwyd yn lleol.
Fod yn drigolyn yn yr ardal a nodir ar y map.

Beth sydd nesaf? Os ydych am gymryd rhan neu ddysgu mwy, cofrestrwch eich “diddordeb” drwy glicio ar y botwm 'Ymuno a Chlwb Ynni Lleol Bro Rhian' isod. Nid fydd hyn yn eich rhwymo i unrhyw beth.
Tariff:
Bydd aelodau'r Clwb, a fydd yn defnyddio ynni pan gaiff ei gynhyrchu’n lleol gan y generadur, yn talu pris uned is - a elwir yn “bris cyfatebol”. Pan nad yw digon o ynni’n cael ei gynhyrchu'n lleol i ddiwallu anghenion aelodau'r clwb, byddwch yn derbyn “tariff amser defnydd” (TOUT), mae hyn yn amrywio yn dibynnu ar yr amser o'r dydd.



Manylion Cyswllt Clwb
Rachel Kelway-Lewis
Ynni Bro Rhian
Pembrokeshire
SA625BN
Y Deyrnas Unedig
Manylion Cynhyrchu
Taliadau
Taliadau Trydan
Daw’r newidiadau hyn i rym unwaith y byddwch ar dariff Ynni Lleol.
Tariff Amser Defnyddio
Taliadau Clwb
Ffi trydan cychwynnol
Mae’r Tariff Unffurf yn berthnasol am gyfnod cychwynnol, o’r adeg y byddwch yn newid i’r cyflenwr newydd hyd nes y bydd eich safle wedi’i ychwanegu at y Clwb. Os nad oes gennych fesurydd clyfar sy’n gweithio, byddwch ar y Tariff Unffurf nes bydd un wedi’i osod ac y gellir eich ychwanegu at y Clwb — fel arfer o fewn dau fis.