Gwyrfai
Ddim yn yr ardal hon? Ewch i'n rhestr o glybiau i weld a oes un yn eich ardal chi.
Mae Ynni Lleol Gwyrfai yn glwb a arweinir gan y gymuned sy'n eich galluogi chwi i gael mynediad i'ch ynni o - a chyfrannu at - gyflenwad hydro lleol ynghyd â'n cynlluniau ar gyfer ynni solar cymunedol newydd.
Trwy gydweddu'r gofyn am ynni lleol i gynhyrchiad lleol, mae'r clwb yn cynnig cyfle i gartrefi a busnesau lleol dalu llai am ynni, tra'n helpu i adeiladu rhwydwaith ynni gwydn, ystyriol o'r amgylchedd sy'n fanteisiol i'ch poced, eich cymuned a'ch planed.
Gofynion Aelodaeth
'Rydym yn chwilio am 40 o gartrefi a busnesau bychain, i gychwyn, i fod yn aelodau sylfaenol o Ynni Lleol Gwyrfai.
Mae'n rhaid fod darpar aelodau:
- hefo eiddo o fewn dalgylch Is-orsaf Trydan Waunfawr (gweler y map uchod)
- hefo mesurydd clyfar (neu'n fodlon i un gael ei osod)
- yn medru newid cyflenwr ynni i'n partner 100Green (mi wnawn ni'ch cynorthwyo hefo'r newid!)
- yn fodlon derbyn tariff uwch gan 100Green am gyflenwad trydan ar adegau pan nad yw'r ynni a gynhyrchir yn lleol am 15c/kwh yn ddigonnol i foddhau'r gofyn amdano.
- yn amyneddgar OS GWELWCH YN DDA, tra bo Ynni Lleol Gwyrfai yn cymryd ei gamau cyntaf ar y daith!
Os ydych yn bodlonni'r gofynion uchod, byddem yn falch o'ch cael chwi hefo ni, felly os gwelwch yn dda cofrestrwch eich diddordeb mewn ymuno trwy glicio ar y botwm "Ymunwch ag Ynni Lleol" uchod neu isod.
Manylion Cyswllt Clwb
EMYR ROBERTS
Tyn Rardd
Waunfawr
Caernarfon
LL55 4BX
Y Deyrnas Unedig
Manylion Cynhyrchu
Taliadau
Taliadau Trydan
Daw’r newidiadau hyn i rym unwaith y byddwch ar dariff Ynni Lleol.
Note that these prices are estimates.
Tariff Amser Defnyddio
Ffi trydan cychwynnol
Bydd y tariff sefydlog yn ddilys am gyfnod cychwynnol nes i chi gael eich mesurydd clyfar ac mae eich eiddo wedi'i ychwanegu at y Clwb (fel arfer dau fis).