Dyffryn Banw
Ddim yn yr ardal hon? Ewch i'n rhestr o glybiau i weld a oes un yn eich ardal chi.
Ymunwch ag Ynni Lleol Dyffryn Banw

Newyddion da, mae'r Tariff Amser Defnyddio yn gostwng 2.45c/kWh ar Ebrill 1af. Nid yw'r pris 'cyfatebol' yn newid.
Roedd yn rhaid i Ynni Lleol Dyffryn Banw gau y llynedd, ond rydym yn ailgychwyn y clwb gyda 100Green yn bartner.
Nod y prosiect yw caniatáu i bobl leol elwa o ddefnyddio trydan a gynhyrchir yn lleol. Daw’r ynni a gynhyrchir o Dreuliwr Anaerobig a thyrbin gwynt. Bonws y Treuliwr Anaerobig yw ei fod yn cynhyrchu trydan yn gyson drwy gydol y flwyddyn.
Bydd aelodau sydd yn defnyddio pŵer tra mae’r tyrbin a’r treuliwr anaerobig yn cynhyrchu trydan yn talu pris is am bob uned, a elwir yn match price. Bydd angen i bob aelod gael smart meter er mwyn dangos faint o drydan maen nhw’n ei ddefnyddio, a phryd.
Yn yr achos prin fod y ddau gynhyrchydd ddim yn cynhyrchu trydan, bydd aelodau ar time of use tariff. Bydd hyn yn amrywio, yn ddibynnol ar amser y dydd.
I fynegi diddordeb mewn ymuno â'r Clwb, cliciwch ‘Ymunwch ag Ynni Lleol’ a rhannwch eich manylion. Nid oes ymrwymiad ar hyn o bryd.
Os ydych eisoes wedi cwblhau ffurflen yn mynegi diddordeb, neu yn gyn aelod, byddwn mewn cysylltiad yn fuan gyda chyfarwyddiadau ar sut i ymuno â’r clwb.
Manylion Cyswllt Clwb
Ros Allcott
Energy Local CIC
Bangor
LL57 4PF
Y Deyrnas Unedig
Manylion Cynhyrchu
Taliadau
Taliadau Trydan
Daw’r newidiadau hyn i rym unwaith y byddwch ar dariff Ynni Lleol.
Tariff cyfatebol
Tariff Amser Defnyddio
Ffi trydan cychwynnol
Mae’r Tariff Unffurf yn berthnasol am gyfnod cychwynnol, o’r adeg y byddwch yn newid i’r cyflenwr newydd hyd nes y bydd eich safle wedi’i ychwanegu at y Clwb. Os nad oes gennych fesurydd clyfar sy’n gweithio, byddwch ar y Tariff Unffurf nes bydd un wedi’i osod ac y gellir eich ychwanegu at y Clwb — fel arfer o fewn dau fis.