Dyffryn Banw
Mae gen i ddiddordeb mewn ymuno ag Ynni Lleol Dyffryn Banw


Roedd yn rhaid i Ynni Lleol Dyffryn Banw gau y llynedd, ond rydym yn ailgychwyn y clwb gyda 100Green yn bartner.
Nod y prosiect yw caniatáu i bobl leol elwa o ddefnyddio trydan a gynhyrchir yn lleol. Daw’r ynni a gynhyrchir o Dreuliwr Anaerobig a thyrbin gwynt. Bonws y Treuliwr Anaerobig yw ei fod yn cynhyrchu trydan yn gyson drwy gydol y flwyddyn.
Bydd aelodau sydd yn defnyddio pŵer tra mae’r tyrbin a’r treuliwr anaerobig yn cynhyrchu trydan yn talu pris is am bob uned, a elwir yn match price. Bydd angen i bob aelod gael smart meter er mwyn dangos faint o drydan maen nhw’n ei ddefnyddio, a phryd.
Yn yr achos prin fod y ddau gynhyrchydd ddim yn cynhyrchu trydan, bydd aelodau ar time of use tariff. Bydd hyn yn amrywio, yn ddibynnol ar amser y dydd.
I fynegi diddordeb mewn ymuno â'r Clwb, cliciwch ‘Mae gennyf ddiddordeb’ a rhannwch eich manylion. Nid oes ymrwymiad ar hyn o bryd.
Os ydych eisoes wedi cwblhau ffurflen yn mynegi diddordeb, neu yn gyn aelod, byddwn mewn cysylltiad yn fuan gyda chyfarwyddiadau ar sut i ymuno â’r clwb.
Manylion Cyswllt Clwb
Amy Charnley-Parry
Energy Local CIC
Bangor
LL57 4PF
Y Deyrnas Unedig
Manylion Cynhyrchu
Charges
Taliadau Trydan
Daw’r newidiadau hyn i rym unwaith y byddwch ar dariff Ynni Lleol.
Tariff cyfatebol
Tariff Amser Defnyddio
Ffi trydan cychwynnol
Bydd y tariff sefydlog yn ddilys am gyfnod cychwynnol nes i chi gael eich mesurydd clyfar ac mae eich eiddo wedi'i ychwanegu at y Clwb (fel arfer dau fis).