Amserlen aelodau Clwb

CY timeline

Manylion pellach

Ar ôl i chi fynegi diddordeb i ymuno â chlwb a chreu cyfrif gyda’ch manylion cyswllt ar y Porth

Bydd eich cynrychiolydd lleol yn anfon manylion pellach atoch a/neu eich gwahodd i gyfarfodydd i drafod Ynni Lleol. Pan fydd digon o bobl wedi dangos diddordeb, cewch ebost yn eich gwahodd i gadarnhau eich bod am newid cyflenwr i ymuno â’r clwb Ynni Lleol ar-lein.

Y broses o newid cyflenwr

Byddwch yn cael ebost gan eich clwb Ynni Lleol gyda dolen i dudalen newid cyflenwr lle byddwch yn rhoi manylion sy’n ofynnol ar gyfer y newid. Gofynnir i chi hefyd roi eich caniatâd i’r cyflenwr ddefnyddio data eich mesurydd bob hanner awr.

Pan fyddwch wedi llenwi ac arbed eich manylion, bydd eich data yn cael ei dal yn ddiogel yn y Porth nes bod yna ddigon o bobl i newid cyflenwr. Bryd hynny, anfonir eich manylion at y cyflenwr. 

Bydd y cyflenwr yn anfon manylion eu cynnig gydag Ynni Lleol, a bydd rhaid i chi ei dderbyn i ddechrau newid cyflenwr.

Mi gewch gyfnod ‘oeri’ o 14 diwrnod i newid eich meddwl os dymunwch.

Bydd y cyflenwr yn:

  • Gofyn am ddarlleniad mesurydd terfynol
  • Anfon eu telerau ac amodau

Unwaith byddwch wedi newid cyflenwr, bydd yn bosibl gosod eich mesurydd clyfar. Hyd nes y bydd eich mesurydd clyfar wedi ei osod ac yn anfon data bob hanner awr, byddwch yn talu pris arferol.

Gosod eich mesurydd clyfar

Bydd tîm mesuryddion y cyflenwr yn cysylltu â chi i gytuno ar amser cyfleus i osod y mesurydd.

Os oes unrhyw broblemau wrth osod y mesurydd, byddant yn rhoi gwybod i chi beth sydd ei angen a threfnu dod yn ôl ar amser cyfleus. Cewch siarad gyda’ch clwb lleol i gael cymorth.

Unwaith y byddwch wedi cael eich mesurydd clyfar, ni fydd rhaid i chi anfon darlleniadau mesurydd pellach.

Pan fyddwch ar dariff Ynni Lleol, byddwch yn cael eich pecyn croeso Ynni Lleol a manylion mewngofnodi y dangosfwrdd ynni ar-lein sy’n gadael i chi weld eich data eich hunain ac arbedion cyfan y clwb.  

Yn ôl Cwestiynau Cyffredin