Cylchlythyr Ynni Lleol - Mehefin 2022

newsletter image CY

 

Rydym ni wedi ennill Grant Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol!

Mae Ynni Lleol CIC wedi gwneud cais llwyddiannus am grant o £400,000 i ehangu a chyflwyno ein model ledled Prydain! Bydd y gronfa yn cefnogi ein prosiect dros y tair blynedd nesaf, gan ganiatáu i gwsmeriaid cymunedol greu marchnad ynni leol ar gyfer cynlluniau ynni adnewyddadwy cyfagos. Mae hyn o fudd i economi'r gymuned ac yn helpu cartrefi i leihau eu biliau pŵer yn ystod y cyfnod digynsail hwn, wrth ddatgarboneiddio ein system bŵer.

Am ragor o fanylion a throsolwg byr o'n cenhadaeth, gallwch ddarllen y datganiad i'r wasg yma.

lottery logo

Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh

 

Ein Prosiect Hyd yn hyn:

Ers sefydlu yn 2014, gyda'n Clwb arloesol ym Methesda, mae Ynni Lleol wedi tyfu'n sylweddol gyda nifer o glybiau bellach ledled Cymru a Phrydain. Mae'r Clybiau hyn yn darparu pŵer gwyrdd, rhatach i'w cymunedau drwy amrywiaeth o ynni adnewyddadwy. Isod mae ein rhestr o'r holl Glybiau gweithredol a faint maen nhw’n ei gynhyrchu:

Ar y gweill, mae gennym Glybiau eraill sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd. Maent yn cynnwys: Totnes, Killington, ail Glwb yng Nghorwen, Duddon Valley, ac eraill i ddod yn fuan. Diolch arbennig iawn i bawb sy'n ymwneud â phrosiect Ynni Lleol!

 

Croeso i'n Haelodau Mwyaf Newydd

Dros y misoedd diwethaf, rydym wedi cael llawer o glybiau yn croesawu aelodau newydd. Gwelodd Llandysul fwy o aelwydydd yn mynd yn Fyw ym mis Ebrill. Roedd mwy o aelodau yng Nghorwen a Chapel Dewi yn ymuno â'u Clybiau Ynni Lleol. A’r mis hwn croesawodd Bridport a Dyffryn Banw eu haelodau diweddaraf i'w Clybiau hefyd.

 

Clwb dan sylw:  Bridport Ynni Lleol — Dewch i gwrdd â'r Tîm!

Cyfarchion o arfordir De Lloegr! O'r chwith i'r dde mae Cyfarwyddwyr Ynni Lleol Bridport:

Bridport officials

 

Cyfarwyddwr a Chynhyrchydd, Peter Bailey (Perchennog y tyrbin gwynt). Cyfarwyddwyr Defnyddwyr - Richard Toft, Debbie Bond, Pete West, a, Martin Biss, nad yw yn y llun.

Daw'r cynhyrchiad ar gyfer Ynni Lleol Bridport o dyrbin gwynt 50kw Peter ym mhentref Salway Ash. Gosododd Peter y tyrbin yn 2012 ac roedd bob amser eisiau i'r gymuned leol elwa o'r pŵer a gynhyrchodd.

Yn 2019, dechreuodd Pete West sgyrsiau gydag Ynni Lleol. Ac ar ôl oedi gyda chychwyn y Clwb - covid, rhwystrau technegol ac aros amser hir am rannau tyrbin - dechreuodd y Clwb fasnachu ym mis Medi 2021.

Erbyn hyn mae 26 o aelwydydd yn mwynhau manteision ynni gwynt ar y tir, gyda mwy yn cael eu hychwanegu dros y misoedd nesaf hyd at uchafswm o 55.

Ar ddiwrnodau gwyntog, gall faint mae’r tyrbinau yn ei gynhyrchu fod yn fwy na galw'r Clwb a gall aelodau gyfateb eu holl ddefnydd trydan â’r ynni gwynt sy’n cael ei gynhyrchu. Mae hyn yn cael ei gydbwyso gan gyfnodau pan nad oes llawer o wynt, ond ar y cyfan mae'r aelodau'n gweld arbedion yn eu biliau misol.

Mae'r Cyfarwyddwyr yn dod o ystod o gefndiroedd a rhyngddynt mae ganddynt lawer o gysylltiadau â'r gymuned drwy fusnes, ffermio, addysg, prosiectau amgylcheddol ac ynni cymunedol.

Mae'r Cyfarwyddwyr yn edrych ymlaen at ehangu'r Clwb i'w lawn botensial, gan gadw llygad ar brosiectau deilliedig posibl. Gwyliwch y gofod!