Cylchlythyr Ynni Lleol - Mawrth 2022

newslettter

 

Ynni Lleol Dyffryn Banw yn mynd yn Fyw, a mwy o aelodau'n Weithgar mewn sawl Clwb

Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd ein Clwb Dyffryn Banw diweddaraf yn mynd yn fyw. Yn cwmpasu ardaloedd Llanerfyl a Llangadfan, bydd yr ynni adnewyddadwy yn cefnogi treulio anaerobig a thyrbin gwynt.  Dyma Glwb cyntaf Ynni Lleol i ddarparu ynni gwyrdd rhatach gan dreuliwr anaerobig. Ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gydag Ynni Lleol Dyffryn Banw wrth i'r Clwb ddatblygu.

Rydym hefyd yn falch o groesawu mwy o aelodau Gweithredol ar gyfer Bridport, Corwen, Llandysul a Machynlleth. 

 

PGDSD ar restr fer Gwobrau Ynni Gwyrdd 2022

Da iawn i Bartneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych (PGDSD) sydd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Menter Ynni Cymunedol yng Ngwobrau Ynni Gwyrdd eleni, sy'n dathlu arloesedd a datblygu cynaliadwy ar gyfer system ynni'r DU.

Mae'r wobr yn cydnabod rôl ysbrydoli grwpiau ynni cymunedol ledled y DU i gefnogi'r newid i system ynni fwy democrataidd a datganoledig. Rydym yn llongyfarch ein partneriaid yn y PGDSD am eu holl waith caled, ac am eu hymroddiad i fynd i'r afael â thlodi tanwydd gyda chefnogi Ynni Lleol Corwen.

 

Hwyl fawr i Gillian

Fis diwethaf bu'n rhaid i ni ffarwelio â'n hoff Reolwr Datblygu Clwb, Gillian.  Ar ôl bod gyda ni am gymaint o amser, mae Gillian wedi helpu i ddatblygu pob un o'n Clybiau ynni lleol ar draws y DU.

Gan chwarae rhan annatod i Ynni Lleol drwy weithio'n agos gydag Octopus yn ogystal â gyda'n Cynghorwyr Clwb, roedd hi bob amser yn cadw pethau'n rhedeg yn llyfn ar yr un pryd â bod yn ffynnon amhrisiadwy o wybodaeth. Rydym yn bendant yn mynd i golli Gillian, sy'n symud ymlaen i weithio gyda Chyngor Swydd Stafford, Swydd Nottingham a Swydd Derby i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

Byddwn hefyd yn colli ffraethineb a sirioldeb Gillian sydd wedi helpu i gadw pob un ohonom i fynd drwy’r cyfan.

Diolch yn fawr iawn i chi am eich holl waith caled a'ch cyfeillgarwch Gillian.

 

Helo i Amy

Fis diwethaf, cawsom roi croeso cynnes i Amy sy'n ymuno â ni fel ein swyddog gweithredol ymgysylltu â'r gymuned. Wedi'i lleoli ger Preston, mae Amy eisoes wedi cychwyn ar garlam.  Bydd yn gweithio gydag Ali, Giles a Robbie i ddatblygu a chefnogi clybiau ond hefyd yn gweithio gyda Mary ar y lefel strategol i ddatblygu Ynni Lleol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cychwyn Clwb Ynni Lleol, cysylltwch ag Amy i gael gwybod sut.

 

Creu ein marchnad ynni leol

Mwy na thebyg ein bod ni i gyd yn ymwybodol iawn o'r cynnydd enfawr mewn prisiau pŵer eleni, o ganlyniad i'n cysylltiad â'r farchnad ynni fyd-eang. Wrth i bobl gael trafferth fforddio’r pŵer y maent yn ei ddefnyddio ac yn cael eu gorfodi i wneud penderfyniadau anodd gartref, nid oes amser gwell i harneisio ein hadnoddau adnewyddadwy ein hunain, yn lleol ac yn genedlaethol, a dod yn fwy hunangynhaliol.

Mae Ynni Lleol yn ymdrechu i ddatblygu un rhan o farchnad ynni newydd, drwy farchnadoedd ynni lleol sy'n rhoi mwy o reolaeth i gymunedau ar yr adnoddau sydd ar garreg eu drws.

Os hoffech fod yn rhan o'n cenhadaeth, edrychwch ar ein tudalen Clybiau yma i weld a ydych yn gymwys i ymuno â Chlwb Ynni Lleol yn eich ardal neu i gofrestru eich diddordeb i ddatblygu un eich hun.