Cylchlythyr Ynni Lleol - Tachwedd 2021

newsletter pic cy

 

Clybiau Newydd!

Roeddem yn falch o groesawu clybiau ym Machynlleth a Bridport y mis hwn, ac mae mwy yn ymuno â'n clybiau eraill, a bydd mwy yn dilyn ym mis Tachwedd.  Mae'n wych gweld brwdfrydedd pobl a mawr obeithiwn y gwelwn ychydig gyfnewid syniadau rhwng Clybiau.

 

Cyflwr y farchnad ynni,

Nid yn unig y mae’r farchnad ynni wedi bod yn gyfnewidiol iawn, gan achosi caledi i rai o'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, ond mae wedi dangos hefyd nad yw'n addas i’r diben os ydym yn mynd i greu system trydan gwyrdd sy’n deg.  Gall marchnadoedd ynni lleol gynnig rhai o'r atebion.  Trwy allu gosod peth o'r pris yn lleol, maent yn helpu i gysgodi cartrefi rhag rhywfaint o gyfnewidioldeb prisiau ynni byd-eang.  Trwy baru defnydd trydan lleol â'r galw, maent yn helpu i lyfnhau'r gromlin bŵer, gan gynnwys mwy o ynni adnewyddadwy a helpu i redeg y rhwydwaith lleol mewn ffordd fwy effeithlon.  Rydym yn gwneud mwy o ymdrech i bwysleisio buddion marchnadoedd lleol i'r llywodraeth fel rhan o’r ymdrech o greu marchnad ynni decach a gwyrddach.

 

COP26

Rydym yn falch ein bod yn cefnogi Climate.Cymru o hyd wrth iddynt lobïo am gytundeb dewr yn COP26 i sicrhau dyfodol pob un ohonom.  Byddant yn adrodd yn ôl ar ddatblygiadau yn ystod yr wythnos ac yn parhau i ymgyrchu wedi hynny.  Ychwanegwch eich llais chi trwy droi at https://climate.cymru/add-your-voice/.

 

Ynni Cymunedol Caer

Roedd Mary yn falch iawn o gael ei gwahodd i gyflwyno dewisiadau posibl ar gyfer ynni cymunedol i Ynni Cymunedol Caer yn ystod eu Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.  Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddynt gyda’u hymdrechion nesaf.