Cylchlythyr Ynni Lleol - Medi 2021

newsletter image cy

Medi 2021

 

Machynlleth a Bridport yn mynd yn fyw

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Clybiau Bridport a Machynlleth ill dau wedi mynd yn fyw.

Bridport fydd ein Clwb cyntaf yn Lloegr; mae hyn yn gynnydd ardderchog ar gyfer Ynni Lleol a’n cenhadaeth i helpu cymunedau ledled y Deyrnas Unedig i elwa o ynni adnewyddol lleol. Mae Dorset Community Energy yn bartner gwych i weithio gyda nhw yn lleol.

Ym Machynlleth, bu EcoDyfi yn amyneddgar iawn wrth inni ddatrys nifer o wahanol broblemau. Gobeithiwn y gallwn egluro hyn, er mwyn cynnwys rhagor o aelodau yn y dyfodol agos.

Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio’n agos gyda’r ddau Glwb Ynni Lleol.

 

Datblygiadau yn yr ymateb ar ochr y galw

Rydym wedi parhau i weithio ar ein system i helpu o gwmpas y cartref drwy amseru offer i wneud y defnydd gorau o Ynni Lleol. Ein bwriad yw gallu gosod rheolyddion ar offer sydd gynnoch chi yn barod, fel na fydd rhaid i chi brynu offer deallus newydd i’w ddefnyddio.

Mae’r gronfa Energy For Tomorrow wedi dangos diddordeb, a gobeithiwn y bydd hyn yn ein helpu i fynd ậ’r prosiect gam ymhellach.

 

Ffarwel i Holly

Mis yn ôl, wnaethon ni ffarwelio â Holly Tomlinson, ein Rheolwr Rheoleiddio a Chyflenwyr. Mae hi am wneud cam mawr i gyfeiriad hollol wahanol ac am ddechrau fferm organig.

Fedrwn ni ddim diolch yn ddigon iddi hi am bopeth mae hi wedi ei gyfrannu at ein gwaith ac am ei chefnogaeth i’r tîm. Rydym yn dymuno’r gorau iddi hi ar gyfer y dyfodol ac yn edrych ymlaen at flasu ychydig o lysiau ffres dros y blynyddoedd!

 

Croesawu Ali a Jane

Yr aelodau diweddaraf i’n tîm yw Ali a Jane sydd wedi ymuno â ni ym mis Awst. Mae Ali yn Dorset, a bydd yn ymgynghorydd ar gyfer Clybiau Bridport, Bethesda a Cumbria. Mae Jane yn Ne Cymru a bydd hi’n ymgynghori Capel Dewi, Cwmystwyth, Llandysul a Dyffryn Banw.

 

Lee Waters AS

Rai wythnosau yn ôl, bu cyfle i aelodau pwyllgor Ynni Lleol Bethesda a Mary gyfarfod y dirprwy weinidog dros newid hinsawdd Lee Waters AS a’i dîm a thrafod Ynni Lleol gyda nhw. Gobeithiwn barhau’r drafodaeth am sut fedrwn ni gydweithio i greu economïau lleol clyfar a gwyrdd.

Lee waters group pic

 

BBC Radio 4 Positive Thinking

Ac yn olaf, yn gynharach yn y mis gafodd Ynni Lleol sylw mewn pennod o’r rhaglen radio Positive Thinking ar Radio 4. Roedd y pennod yn sôn am dlodi tanwydd yn y DU, ac mae ar gael i wrando yma.