Cylchlythyr Ynni Lleol - Ebrill 2021

Newsletter logo CY

 

Ebrill 2021

Yn gyntaf, mae Tîm Ynni Lleol yn gobeithio eich bod wedi mwynhau eich gwyliau Pasg a’r tywydd braf a gafwyd.
 
Yn y cyfnod anodd hwn, mae’r tîm a’n partneriaid a’n cyflenwr trydan wedi bod yn gweithio o fewn y cyfyngiadau a osodwyd oherwydd pandemig Covid-19, ac o ganlyniad mae wedi effeithio ar oedi ar wahanol lefelau yn ein prosiectau cymunedol.
 
Fodd bynnag, mae’n bleser gennym gyhoeddi bod dau o’n Clybiau Ynni Lleol bellach yn fyw, gyda’r cyfranogwyr yn mwynhau buddiannau o drydan wedi’i gynhyrchu’n lleol.  Mae’r rhestr o gyfranogwyr sy’n aros am eu mesurydd clyfar a’r CAD angenrheidiol i ymuno â’r Clwb yn mynd yn llai, diolch i ymdrech wych tîm Ynni Octopus energy.
Darllenwch isod am fwy o wybodaeth

Adenillion Ynni Lleol

Mae’n bosib eich bod wedi bod yn ceisio dyfalu beth sy’n mynd ymlaen.  Ymddiheurwn am y diffyg cyswllt ers ein diweddariad diwethaf, ond mae’r tîm wedi bod yn brysur iawn yn y cefndir.
 
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod gennym y niferoedd cyntaf o gyfranogwyr yn y ddau Glwb yn mwynhau ynni adnewyddadwy o’u hydro lleol a’r Tariff Amser Defnydd gan Octopus Energy.
 
Corwen oedd y Clwb cyntaf i ail-ddechrau ym mis Chwefror, a ddilynwyd yn fuan gan Crughywel. Bethesda fydd y nesaf i fynd yn fyw, gyda mwy na 100 o gyfranogwyr a dwy orsaf hydro leol.
 
Mae gan bob un o’r aelodau Gweithredol fesurydd clyfar a dyfais mynediad cwsmer (CAD), sy’n cysylltu’r mesurydd clyfar gyda dangosfwrdd defnyddiwr Ynni Lleol.  Yma, gall y cyfranogwyr weld eu defnydd eu hunain, lefel o gynhyrchiant adnewyddadwy sydd ar gael, a defnydd y Clwb cyfan yn ogystal â’r arbedion ddaw yn ôl i’r gymuned.  Gall cyfranogwyr weld hefyd pa amser o’r dydd sydd orau i ddefnyddio unrhyw offer sy’n drwm ei ddefnydd o drydan a’i reoli o unrhyw ddyfais glyfar (gweler yr adran nesaf isod).

Gallwch gael rhagddangosiad o’r cynhyrchiant lleol a sut y caiff ei ddefnyddio ym mhob un o’r tri chlwb trwy glicio ar y dolenni isod.

Corwen

Crickhowell

Bethesda

Edrychwn ymlaen at gyflwyno mwy fyth o gartrefi i bob un o’r Clybiau hyn.
 
Mae’n diolch twymgalon yn mynd i’n haelodau ym Methesda, Crughywel a Chorwen am eu hamynedd a’u gwaith cael, a diolch i Octopus Energy, ein cyflenwr trydan am ein cynorthwyo i fedru cael hyn i weithio.
 
Mae rhai o’r prosiectau yn cael eu hariannu’n rhannol gan yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) fel cefnogaeth i’r Clybiau cyntaf hyn. Bydd Ipsos MORI yn rhoi cymorth drwy gynnal arolygiadau er mwyn cael adborth gan gwsmeriaid a mesur hyd a lled y tueddiadau defnydd a’r anghenion o ran amser.  Bydd hyn oll yn ein cynorthwyo i ymchwilio ymhellach i atebion technolegol  y medrwn ei gynnig yn lleol.

Rhyngrwyd Pethau

Fel rhan integredig o’r prosiectau hyn, rydym yn dod ag atebion ar gyfer rheoli defnydd o ynni yn y cartref (a elwir hefyd yn ymateb ochr anghenion). Byddwn yn cynnig cyfle i gartref i ddefnyddio’r Plwg Clyfar a “phethau o ryngrwyd”, sef dyfeisiau clyfar sy’n caniatáu trefnu bod peiriannau yn gwneud y defnydd gorau o’r hyn sydd gan eu Clwb Ynni Lleol ei gynnig iddynt. Rydym hefyd yn treialu dyfeisiau pwmpio gwres a rheoli gwresogwyr stôr.

Smart PlugExample Scheduler

Plwg Clyfar ac amserlen enghreifftiol gan ddefnyddio Plwg Clyfar gartref a'r Tariff Amser Defnyddio gorau sydd ar gael.

 

Rhwydweithiau Effeithlon mewn Lleoliadau Anghysbell a Fuddsoddwyd ym Methesda.
 
Rydym wedi bod yn cydweithio’n agos gyda rhwydwaith SPEnergy Networks i ddeall sut y gallent ddefnyddio eu data mesurydd i redeg y rhwydwaith trydan yn fwy effeithiol/
 
Mae SPEnergy wedi buddsoddi mewn rhwydwaith ‘LoraWAN’ i gasglu data yn rhad hyd yn oed mewn ardaloedd anghysbell.  Gellir ei ddefnyddio ar gyfer apiau eraill hefyd, er enghraifft i ddangos os yw biniau sbwriel yn llawn, cyfri defnyddwyr ar rwydwaith beicio ayb  o fewn y pentref felly mae budd ychwanegol iddo.
 
Y cam nesaf bydd dadansoddi sut i gydweddu pryd yr ydym yn defnyddio pŵer gyda’r cynhyrchiant a lleihau defnydd ar yr amseroedd cywir er mwyn helpu i redeg y rhwydwaith trydan yn fwy effeithiol er mwyn galluogi cysylltu dyfeisiau adnewyddadwy a charbon isel, megis pympiau gwres a gwefrwyr cerbydau trydan.

Yn dod cyn hir!

Mae Clybiau Ynni Lleol ar y gweill yn Bridport, Machynlleth, Llandysul a Pharc Roupell.  Rydym yn ddiolchgar i’r rhai sydd wedi ymuno â’r Clybiau hyn ac am eu hamynedd wrth i ni fynd ati i ddatrys ambell broblem a chwblhau gwaith.
 
Mae nifer o Glybiau newydd ar fin cychwyn ac mae Ynni Lleol wrthi’n paratoi sesiynau hyfforddiant ar gyfer cynghorwyr Clwb lleol.

Diolch Linda!

Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Linda Hilton am ei gwaith diflino a’r holl nosweithiau di-gwsg o ganlyniad i’w gwaith i’r tîm a’r gymuned  fel cyfarwyddwr gweithredoedd Ynni Lleol.  Mi fydd yn golled fawr i ni ar dy ôl, ond pob dymuniad da ar gyfer y dyfodol.

 

Cael Gwanwyn cynnes pawb a cadwch yn ddiogel!
 

 

Warm Spring