Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 4: Awgrymiadau ar gyfer eich peiriant golchi a sychwr dillad

i Rhan 3

>i Rhan 5

Awgrymiadau ar gyfer eich peiriant golchi a sychwr dillad

Ar dariff trydan safonol, gall eich peiriannau golchi a sychu rhyngddynt gostio bron i £200 y flwyddyn i chi eu rhedeg. Ond wrth ddefnyddio eich cyfran chi o’r trydan lleol a defnyddio’r peiriannau’n fwy effeithlon, gallech haneru hyn.

Stori am Arbedion…

Mae’r teulu Hughes newydd symud i dŷ newydd ac maent yn chwilio am beiriant golchi. Wrth edrych ar y sgoriau ynni, gwelant fod model A+ i’w gael am yr un pris â rhai o’r peiriannau sydd â sgôr is. Bydd y peiriant newydd yn defnyddio tua hanner yr ynni a ddefnyddiai eu hen beiriant golchi, sy’n golygu arbed £20 y flwyddyn.

Mae ganddynt ferch fach ac mae llawer o waith golchi i’w wneud. Felly mae’r peiriant ar fynd dair gwaith yr wythnos. Er mwyn cadw’r gost i lawr, maent yn gosod y peiriant i olchi ar 30 gradd ac yn aros nes bydd y peiriant yn llawn cyn ei ddefnyddio.

Ar ôl ymuno â Chlwb Ynni Lleol fe wnaethant ddechrau golchi eu dillad ar y penwythnos os oedd modd, gan eu bod yn gallu defnyddio’r peiriant yng nghanol y diwrnod bryd hynny. Roedd gwell siawns fel yna y byddent yn defnyddio trydan oedd yn cael ei gyfatebu i’r trydan lleol neu dariff oriau allfrig.

Yn eu hen gartref, roeddent yn ymwybodol bod eu biliau trydan yn uwch yn ystod y gaeaf pan fyddent yn defnyddio’r peiriant sychu’n amlach. Bellach maent yn sychu eu dillad ar rac ddillad yn yr ystafell wydr, heblaw pan maen nhw ar frys. Yn yr haf, maen nhw’n rhoi’r dillad allan ar y lein.

Ac un peth arall i geisio arbed ynni – maen nhw wedi sgwennu nodyn bach ar y peiriant sychu i’w hatgoffa i lanhau’r hidlen cyn defnyddio’r peiriant.

I grynhoi…

Ar dariff trydan cyfartalog yn y DU o 31c/kWh, mae’n costio rhyw £210 y flwyddyn i redeg peiriant sychu. Os ydych yn defnyddio trydan sydd wedi’i gyfatebu i’ch cyfran chi o’r hydro (er enghraifft 18c/kWh), gallech arbed tua £50 y flwyddyn.

Mwy o ffyrdd i wneud arbedion pan ydych yn sychu eich dillad:

  • Defnyddiwch y peiriant sychu dim ond os oes rhaid – sychwch eich dillad yn yr awyr agored os gallwch.
  • Os oes rhaid sychu dillad dan do, peidiwch â’u rhoi ar ben y rheiddiaduron a gofalwch fod yr ystafell rydych yn ei defnyddio wedi’i hawyru’n dda rhag i chi gael tamprwydd a llwydni yn eich tŷ.
  • Glanhewch y fflwff o hidlen eich peiriant sychu bob tro yr ydych yn ei ddefnyddio.

Os byddwch yn prynu peiriant sychu newydd, prynwch y model sydd â’r sgôr effeithlonrwydd ynni gorau y gallwch ei fforddio. Gallai model sydd â sgôr A+++ arbed dros £30 y flwyddyn i chi, o’i gymharu â model sgôr B.

Mae’n costio tua £55 y flwyddyn i redeg peiriant golchi ar dariff trydan cyfartalog yn y DU o 31c/kWh. Petaech yn rhedeg eich peiriant ar drydan wedi’i gyfatebu i’ch cyfran chi yn yr hydro (am er enghraifft 18c/kWh), gallech arbed tua £18 y flwyddyn.

Mwy o ffyrdd o arbed pan fyddwch yn defnyddio eich peiriant golchi:

  • Gosodwch eich peiriant ar 30 gradd. Mae’r glanedyddion golchi dillad modern wedi’u dylunio i weithio ar y tymheredd hwn.
  • Defnyddiwch y gosodiad eco os oes un ar eich peiriant. Gweler arbrawf Mary Gillie ar ddefnyddio’r gosodiad eco ar ei pheiriant golchi. (yn Saesneg yn unig)
  • Defnyddiwch y peiriant golchi gyda llwyth llawn yn unig. Mae dau hanner llwyth yn defnyddio mwy o ddŵr, sebon a thrydan nag un llwyth llawn.
  • Os byddwch yn prynu peiriant golchi newydd, ceisiwch gael yr un sydd â’r sgôr effeithlonrwydd ynni gorau – nid yw’r rhai mwyaf effeithlon bob amser yn ddrutach ac os byddwch yn uwchraddio o radd B i radd A+++, byddwch yn arbed dros £15 y flwyddyn.

 

Shift your laundry 1Shift your laundry 2

Shift your dishwasher 1Shift your dishwasher 2

 

Cliciwch yma i weld rhagor o argymhellion arbed ynni

 

Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 1: Sut mae’n gweithio

Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 2: Eich siâr chi o’r trydan dŵr a gynhyrchir

Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 2: Eich siâr chi o’r trydan haul a gynhyrchir

Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 3: Amserlen y Prosiect

Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 5: Uwchraddio i oleuadau Deuod Allyrru Golau (LED)

Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 6: Prisiau trydan

Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 7: Y Clwb cydweithredol

Y llawlyfr Ynni Lleol - Effeithlonrwydd ynni