Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 3: Amserlen y Prosiect

i Rhan 2: Engreifftiau hydro

i Rhan 2: Enghriefftiau solar

>i Rhan 4:

Cytundeb Cyflenwi

Y Cytundeb Cyflenwi yw’r contract rhyngoch chi a’ch cyflenwr trydan. Ar hyn o bryd, Octopus Energy yw’r cyflenwr ar gyfer aelodau Clybiau Ynni Lleol. Cyn bo hir byddwn yn cychwyn Clybiau gyda 100Green fel y cyflenwr.

Mae y cyflenwr yn darparu’r Tariff Amser Defnyddio. Golyga hyn bod trydan ganddyn nhw ar gael am wahanol brisiau ar adegau gwahanol o’r dydd.

Cyhoeddir manylion y Tariff Amser Defnyddio ar wefan eich Clwb pan mae’r Clwb yn barod i newid eu cyflenwr. Fe anfonir y manylion hyn atoch chi hefyd adeg newid cyflenwr.

Bydd y trydan o’r cynhyrchiant lleol adnewyddol, pan fydd ar gael, yn rhatach na’r Tariff Amser Defnyddio. Cytunir ar y cyfradd am y trydan hwn gan aelodau’r Clwb.

Mesuryddion Deallus

Gosodir mesurydd deallus ar gyfer pawb sy’n rhan o Glwb. Bydd y mesurydd deallus yn dangos pryd rydych yn defnyddio ynni a faint rydych yn ei ddefnyddio. Mae hynny’n golygu y gallwch weld eich bod yn defnyddio ynni pan fydd yr hydro yn ei gynhyrchu, a chyfatebu’r ddau beth, fel y bydd eich biliau trydan yn llai.

Gosodir mesuryddion deallus tua chwech wythnos ar ôl i chi newid eich cyflenwr i’r Clwb, unwaith y byddwch wedi dychwelyd eich cytundeb cyflenwi iddyn nhw.

Ar y ffordd i fod yn aelod o’r Clwb

Unwaith y byddwch wedi dychwelyd eich cytundeb cyflenwi ac wedi cael eich mesurydd deallus yn rhad ac am ddim, byddwn yn gallu cyflawni gosodiadau’r Clwb Ynni Lleol, gan ganiatau i chi gyfatebu trydan adnewyddol a gynhyrchir yn lleol i ddefnydd trydan yn lleol. Byddwch yn arbed arian gan gadw mwy o arian yn yr economi leol.

 

Cliciwch yma i weld graff am ein amserlen presennol ar y cyd â’r cyflenwr.

 

Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 1: Sut mae’n gweithio

Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 2: Eich siâr chi o’r trydan dŵr a gynhyrchir

Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 2: Eich siâr chi o’r trydan haul a gynhyrchir

Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 4: Awgrymiadau ar gyfer eich peiriant golchi a sychwr dillad

Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 5: Uwchraddio i oleuadau Deuod Allyrru Golau (LED)

Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 6: Prisiau trydan

Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 7: Y Clwb cydweithredol

Y llawlyfr Ynni Lleol - Effeithlonrwydd ynni