Enghreifftiau solar
Byddwn yn defnyddio cynllun solar sy’n rhan o Glwb Ynni Lleol Sunberry fel enghraifft. Dychmygwch eich bod yn rhan o’r Clwb. Yn eich Clwb go iawn, efallai bod y trydan yn dod o ynni hydro, gwynt neu dreulio anaerobig. Yr un ydi’r egwyddor, bydd rhaid i chi edrych os ydi hi’n heulog neu’n wyntog, neu ddefnyddio’r dangosfwrdd ynni ar-lein.
Mae ystad Sunberry yn Llundain yn ystâd o dai cyngor isel. Mae’n gartref i un o gynlluniau solar cyntaf mewn perchnogaeth gymunedol yn Llundain. Yn 2013, lansiodd y grŵp nid-er-elw Sunberry Community Energy gynllun cyfranddaliadau cymunedol, gan wahodd trigolion i brynu cyfranddaliadau yn y cynllun solar cydweithredol Sunberry, rhai cyn lleied â £50. Fodd bynnag, tra mae’r paneli haul yn perchen i’r gymuned, nid yw hi wedi bod yn bosibl hyd yma i ddefnyddio’r trydan llawer rhatach o’r paneli ar y toeau cymunedol i helpu’r trigolion i leihau eu biliau. Ar hyn o bryd, gall yr ynni o’r paneli haul ddim ond rhedeg y goleuadau yn y coridorau cymunedol a’r lifftiau. Bydd y paneli haul ar y toeau yn cynhyrchu mwyafswm o 30 kWh ar ddiwrnod heulog braf. Dychmygwch eich bod yn byw yn Sunberry ac yn rhan o Glwb Ynni Lleol Sunberry sydd newydd ei sefydlu.
Byddwch yn gallu cadw golwg ar gynhyrchiant y solar drwy edrych ar Ddangosfwrdd Ynni ar-lein. Ac os byddwch yn talu sylw ar pa mor heulog ydi hi, a gydag ychydig o ymarfer, byddwch yn gallu dyfalu’n eitha’ da faint o drydan sy’n cael ei gynhyrchu.
Bydd swm y trydan a gynhyrchir gan y solar yn cael ei fesur fesul hanner awr, yn union fel mae eich mesurydd clyfar yn mesur faint o drydan rydych chi’n ei ddefnyddio bob hanner awr.
Dyma rai enghreifftiau (syml) o beth gallai eich siâr o gynhyrchiant y solar fod ar wahanol adegau:
Enghraifft 1 – Mae’n ddiwrnod hyfryd o haf, dim ond rhai o aelwydydd Clwb Ynni Lleol Sunberry sy’n defnyddio’u peiriannau trydan ac mae’r solar yn cynhyrchu llawer o drydan, felly mae eich siâr chi ar ei fwyaf.
Rhwng 1pm a 1:30pm:
- rydych chi’n un o’r 15 o aelwydydd Ynni Lleol sydd wedi gosod eu peiriannau golchi dillad i redeg yng nghanol y dydd.
- Mae’r 15 aelwyd arall allan yn mwynhau’r haul, ac mae eu goleuadau a’u peiriannau wedi eu diffodd.
- Mae’r solar yn cynhyrchu 30 kWh yn ystod yr amser hwn.
- Mae’n cael ei rannu’n gyfartal rhwng y 15 tŷ sy’n rhedeg eu peiriannau golchi dillad a’ch siâr chi ydy 2 kWh.
Enghraifft 2 – Dim ond rhai o gartrefi Clwb Ynni Lleol Sunberry sy’n defnyddio’u peiriannau, ond dydy’r solar ddim yn cynhyrchu cymaint o drydan oherwydd mae hi’n gaeaf, felly mae eich siâr chi’n llai.
Rhwng 1pm a 1:30pm:
- rydych chi’n un o’r 15 aelwyd Ynni Lleol sydd wedi gosod eu peiriannau golchi dillad i redeg ganol y dydd.
- Mae’r 15 aelwyd arall allan yn yr haul, ac mae eu goleuadau a’u peiriannau wedi diffodd.
- Does dim cymaint o haul yn y gaeaf, felly dim ond 15 kWh mae’r solar yn ei gynhyrchu yn ystod yr amser yma.
- Mae hyn yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng y 15 tŷ sy’n rhedeg eu peiriannau golchi dillad a tro yma, eich siâr chi ydy 1 kWh.
Enghraifft 3 – Mae’r solar yn cynhyrchu llawer o drydan ond mae’n cael ei rannu rhwng llawer o gartrefi Clwb Ynni Lleol Sunberry, felly mae eich siâr chi’n llai – dim yn amser da i redeg y peiriant golchi dillad.
Mae hi’n ddydd Sadwrn heulog rhwng 1pm a 1:30pm, ond rydych chi, a’r rhan fwyaf o aelwydydd eraill Clwb Ynni Lleol Sunberry, gartref yn defnyddio trydan i wneud y pethau sydd angen cael eu gwneud.
- Mae’r solar yn cynhyrchu 30 kWh yn ystod yr amser yma,
- sy’n cael ei rannu rhwng 30 o gartrefi sy’n coginio ac yn gwylio’r teledu.
- Eich siâr chi ydy 1 kWh. Felly, dydy hi ddim yn amser da i redeg y peiriant golchi dillad hefyd.
Mae faint o drydan a ddefnyddir gan aelwydydd yn fwy cymhleth nag yn yr enghreifftiau uchod. Er enghraifft, bydd eich peiriant golchi dillad yn defnyddio mwy neu lai o ynni yn dibynnu ar y model a’r gosodiadau, a bydd cartrefi lle mae’r goleuadau a’r peiriannau wedi diffodd yn dal i ddefnyddio mymryn o drydan, e.e. i gadw’r oergell yn oer. Ond gall yr enghreifftiau yma roi syniad i chi o sut allai eich siâr o’r trydan a gynhyrchir fod yn wahanol ar wahanol amserau.
Caiff yr holl gyfrifiadau eu gwneud yn awtomatig, a byddwch yn cael adroddiad misol am faint o’ch defnydd trydan sydd wedi cyfateb i siâr o’r solar. Byddwch hefyd yn gallu cael yr wybodaeth ddiweddaraf ar wefan neu ‘ap’ unrhyw bryd.
Bydd yr holl drydan a ddefnyddiwch ac sy’n cyfateb i’ch siâr o gynhyrchiant y solar, yn costio, er enghraifft, 18c am bob kWh, sef tua hanner y pris rydych yn debygol o dalu ar hyn o bryd.
Edrychwch ar ein hesboniad yma i weld sut bydd eich defnydd o drydan yn gymysgedd o’ch siâr o’r solar ac o drydan ychwanegol a brynir gan y cyflenwr.
Pryd gallai eich siâr chi fod yn fwy – sef yn amser da i redeg peiriannau golchi dillad, ac ati?
1) Ar adegau llai prysur, fel yn ystod y nos ac amser cinio pan fydd llai o gartrefi yn defnyddio trydan.
2) Pan mae hi’n heulog a’r solar yn cynhyrchu llawer o drydan.
Pryd gallai eich siâr chi fod yn llai?
1) Ar adegau prysur pan fydd aelwydydd yn defnyddio mwy o drydan, fel amser te ac amser brecwast.
2) Pan mae hi’n dywyll neu’n gymylog a’r solar yn cynhyrchu dim neu ddim ond ychydig o drydan.
Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 1: Sut mae’n gweithio
Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 2: Eich siâr chi o’r trydan dŵr a gynhyrchir
Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 3: Amserlen y Prosiect
Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 4: Awgrymiadau ar gyfer eich peiriant golchi a sychwr dillad
Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 5: Uwchraddio i oleuadau Deuod Allyrru Golau (LED)
Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 6: Prisiau trydan