Cwestiynau Cyffredin Gan Gynhyrchwyr Ynni

  1. Ar hyn o bryd, rwy’n gwerthu’r ynni dwi’n ei gynhyrchu i gyflenwr trydan drwy gytundeb prynu pŵer (CPP) – ga i fod yn rhan o Glwb Ynni Lleol?

Cewch, on bydd rhaid i chi aros nes i’ch cytundeb prynu pŵer presennol (CPP, neu Power Purchase Agreement, PPA) ddod i ben (os nad oes gynnoch chi gymal gorffen yn rhan o’ch cytundeb). Wedyn bydd gofyn i chi lofnodi cytundeb CPP newydd gyda’r cyflenwr sy’n gweithio gyda’ch Clwb Ynni Lleol. Gall eich Clwb Ynni Lleol roi holl fanylion y cytundeb rhyngddyn nhw fel clwb, chi fel cynhyrchydd a’r cyflenwr trydan i chi; y cytundeb hwn ydi’r ‘model ynni lleol’.

  1. Fydda i’n ennill incwm ychwanegol os dwi’n rhan o Glwb Ynni Lleol?

Mae’n debygol y byddwch chi. Ar hyn o bryd, rydych yn ennill incwm ar gyfer pob kWh rydych chi’n ei allforio. Y pris sy’n daladwy i chi am bob kWh (uned) yw’r pris a benwyd yn eich cytundeb CPP, neu lleiafswm allforio FIT.

Unwaith y byddwch yn rhan o’r Clwb Ynni Lleol, telir unedau sy’n cael eu defnyddio gan aelodau’r Clwb yn yr un hanner awr a’u cynhyrchir am bris arbennig, y tariff “cyfatebol”. Bydd yr unedau o drydan y byddwch yn eu cynhyrchu a sydd ddim yn cael eu defnyddio gan yr aelodau yn yr un cyfnod hanner awr yn cael eu hallforio ac yn ennill y pris a benwyd yn eich CPP newydd.

Bydd y cyflenwr trydan yn sicrhau eich bod yn derbyn y ddau daliad, a bydd yn anfon adroddiad incwm i chi fydd yn dangos yr unedau ar y tariff “cyfatebol” a’r unedau a allforwyd ym mhob cyfnod hanner awr.
 

  1. Oes rhaid i mi fod yn aelod o Glwb Ynni Lleol?

Oes, mae’r Clwb yn grŵp cydweithredol. Yr aelodau ydi’r defnyddwyr a’r cynhyrchydd, a dylai pawb elwa o fod yn y Clwb Ynni Lleol.

Mae gan aelodau’r Eclwb Ynni Lleol ddau brif rôl:

  1. Cytuno pwy fydd y cyflenwr trydan y mae aelodau’r clwb (defnyddwyr a chynhyrchwyr) yn gwneud cytundeb efo fo, a
  2. Gosod lefel y tariff cyfatebol.

Ysgrifennwyd cyfansoddiad y grŵp cydweithredol mewn ffordd sy’n mynnu bod rhaid i’r aelodau defnyddwyr a’r aelodau cynhyrchwyr ddod i gytundeb ar y materion hyn – ni fydd yr aelodau defnyddwyr mwy niferus yn gallu gorfodi tariff cyfatebol heb i’r aelod(au) cynhyrchwyr gytuno.

  1. Sut mae’r tariff cyfatebol yn cael ei bennu?

Bydd cynrychiolwyr yr aelodau cynhyrchwyr a’r aelodau defnyddwyr yn cyfarfod i gytuno ar bris y tariff cyfatebol. Dylai’r pris hwn elwa’r defnyddwyr a’r cynhyrchwyr. Fydd y cynhyrchydd yn derbyn y tariff cyfatebol dim ond pan ddefnyddir y trydan yn lleol. Felly dylai’r tariff cyfatebol annog defnyddwyr i ddefnyddio trydan pan mae’n cael ei gynhyrchu yn lleol yn hytrach na dim ond pan mae’n gyfleus. Po fwyaf o unedau a ddefnyddir yn y ffordd hwn, po fwyaf mae’r elw i’r cynhyrchydd a’r defnyddwyr, ond gall yr elw hwnnw amrywio yn ôl diddordebau’r gymuned. Er enghraifft, gall ased o ynni gwyrdd sy’n eiddo i’r gymuned roi incwm ychwanegol i brosiectau lleol, ac efallai bod rhai cymunedau yn gweld hynny’n fwy o fudd na lleihau biliau trydan unigol.

  1. Ydi bod yn aelod o Glwb Ynni Lleol yn golygu unrhyw atebolrwydd?

Nid oes unrhyw atebolrwydd cyfreithiol ynghlwm wrth fod yn aelod o’r Clwb Ynni Lleol. Byddwch yn gyfrifol am gyfrannu i rediad esmwyth y Clwb – cyfrannu at benderfyniadau ynglŷn â phenodi cyflenwyr trydan a gosod lefel y tariff cyfatebol.

  1. Fydda i’n cael gadael y Clwb yn y dyfodol?

Cewch. Mi fyddwch yn gwneud cytundeb CPP newydd gyda’r cyflenwr a ddewiswyd gan y Clwb wrth ymuno â nhw. Mae’r CPP hwn yn para am gyfnod penodol, blwyddyn fel arfer. Ar ddiwedd y cyfnod hwn, os mai dyna fyddwch yn ei ddymuno, cewch adael y Clwb a gwneud cytundeb CPP newydd gyda chyflenwr gwahanol.

  1. Fydd y tariff cyfatebol yn newid dros amser i adlewyrchu newid mewn prisiau cyfanwerthu a manwerthu?

Gellir adolygu’r tariff cyfatebol unrhyw amser, a gellir ei newid os bydd aelodau cynhyrchwyr ac aelodau defnyddwyr y Clwb yn cytuno.

  1. Fydd bod yn rhan o Glwb Ynni Lleol yn effeithio ar fy incwm FIT o gynhyrchu trydan?

Na fydd. Fydd y Clwb Ynni Lleol ddim ond yn delio gyda’r incwm y byddwch yn ei ennill o allforio’r trydan a gynhyrchwch. Ni fydd hynny’n newid yr incwm yr ydych yn ei gael drwy FIT am gynhyrchu trydan. Ond cofiwch, bydd y FIT yn cael ei dalu gan eich cyflenwr newydd – y cyflenwr sydd mewn cytundeb â’r Clwb Ynni Lleol.

  1. Fydd ymuno â Chlwb Ynni Lleol yn effeithio ar fy incwm drwy “embedded benefits”?

Mae cytundebau CPP yn amrywio o gyflenwr i gyflenwr. Bydd rhai cytundebau CPP yn rhoi un pris yn unig am bob uned sy’n cael ei allforio. Bydd eraill yn gwahaniaethu rhwng pris fesul uned a “embedded benefit for distributed generation”. Bydd y buddion hyn yn cael eu cyfrifo ar sail nifer yr unedau a allforwyd.

Gyda Chlwb Ynni Lleol, oherwydd mae rhai o’r unedau a gynhyrchir yn dod i gyfateb i’r galw lleol, bydd llai o unedau yn cael eu hallforio yn y ffordd arferol, ac felly byddwch yn ennill llai drwy embedded benefit. Fodd bynnag, dylai’r incwm ychwanegol o’r tariff cyfatebol wneud yn iawn am y gostyngiad hwnnw mewn embedded benefit, os nad yn well. Bydd rhaid i chi wneud yn siŵr bod gostyngiad mewn embedded benefits yn llai na’r incwm ychwanegol drwy gyfateb eich cynhyrchiant i’r galw lleol.

  1. Lle fedra i gael cyngor am sefydlu Clwb Ynni Lleol?

Sefydlir pob Clwb Ynni Lleol gyda chefnogaeth hwylusydd lleol, mudiad neu grŵp sy’n gweithio mewn partneriaeth ag Energy Local CIC. Energy Local CIC yw’r sefydliad di-elw a sefydlodd y model Ynni Lleol. Yr hwylusydd yw eich pwynt cyswllt cyntaf – byddan nhw yn cyflogi ymgynghorwyr i gydweithio yn uniongyrchol â chi. Bydd yr hwylusydd yn cyfeirio unrhyw gwestiynau na allant eu hateb i Energy Local CIC. Bydd rhaid i’r ymgynghorydd wybod eich lleoliad a math eich cynhyrchiant trydan, a byddant angen gweld cofnod o’ch cynhyrchiant blaenorol a’ch cytundeb CPP presennol neu’ch cytundeb MOP.

  1. Beth sy’n digwydd os dwi’n stopio cynhyrchu trydan am gyfnod estynedig?

Pan na fyddwch yn cynhyrchu trydan, ni fydd yna unrhyw gyfateb rhwng eich cynhyrchiant a defnydd lleol. Bydd aelodau defnyddwyr y Clwb yn cael eu holl drydan drwy gytundeb gyda’r cyflenwr, a dim yn elwa o dariff cyfatebol is.

Mae hyn yn pwysleisio bod y cynhyrchydd yn ogystal â’r defnyddwyr yn elwa pan mae cynhyrchiant trydan lleol yn cyfateb i’r defnydd lleol yn y Clwb Ynni Lleol. Gellir cynyddu’r “cyfatebiaeth” rhwng cynhyrchiant a defnydd drwy newid arferion y defnyddwyr a defnyddio batris.

  1. Beth am y mesuryddion hanner-awr, y MOP, a’r casglwr data a’r “data aggregator”?

Cyfrifoldeb y cynhyrchydd fydd trefnu eu mesurydd hanner-awr eu hunain a thalu Gweithredwr Mesurydd (Meter Operator, MOP) i’w weithredu. Bydd rhaid i chi gael yr un gweithredwr mesurydd â’r aelodau defnyddwyr, felly unwaith eto bydd rhaid i chi drafod hyn yn y Clwb. Mae mesurydd 3 chyfnod yn costio tua £350 a’r gweithrediad yn costio tua £45/MPAN y flwyddyn. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gydag Energy Assets.

Yr un fath, bydd rhaid i’r casglwr data a “data aggregator” ar gyfer eich mesurydd fod yr un ag sydd gan yr aelodau defnyddwyr. Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda TMA. Fel arfer, trefnir hyn gan y cyflenwr ac yn rhan o’r cytundeb CPP ond bydd rhaid i chi wirio hynny gyda’r cyflenwr.

 

Yn ôl Cwestiynau Cyffredin