Effeithlonrwydd ynni
Y trydan rhataf yw’r trydan sydd heb ei ddefnyddio! Yn ogystal â galluogi cartrefi i elwa o drydan gwyrdd a lleol yn ein Clwb Ynni Lleol cyntaf un ym Methesda yng ngogledd Cymru, roedden ni hefyd yn cynnig cyngor am sut i arbed ynni yn y tŷ i bob cartref. Hoffem gynnig yr un peth i glybiau eraill os gallwn gael arian i wneud hyn.
Trefnwyd ymweliadau cartref (gwanwyn-haf 2017), a’r drafodaeth yn yr ymweliadau yn canolbwyntio ar faterion arbed ynni, gan gynnwys gwahanol ffyrdd o ynysu, systemau gwresogi a defnydd trydan a dŵr bob dydd. Y bwriad oedd cael syniad nid yn unig o ba fath o dai sydd yn yr ardal a faint o waith sydd wedi cael ei wneud gan unigolion a landlordiaid i leihau defnydd trydan gartref, ond hefyd syniad o faint o ymwybyddiaeth ynni sydd gan drigolion yr ardal. Ar sail y wybodaeth hon, gobeithiwn allu cynnig rhagor o help i aelwydydd yr ardal yn eu hymdrechion i leihau eu defnydd ynni a’u hôl troed carbon.
Gallwch lawrlwytho adroddiad y prosiect, yn Saesneg Energy efficiency project Bethesda, neu yn Gymraeg Canlyniadau arolwg Medi. Mae’n egluro sut weithredwyd y prosiect, ynghyd â’r canlyniadau a all fod yn ddefnyddiol i grwpiau cymunedol eraill sy’n cynllunio prosiectau tebyg.
Cafwyd cyflwyniad ar effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi yng ngogledd Cymru yn ystod digwyddiad ym Methesda yn Hydref 2017 gan Peter Draper, Cyfarwyddwr RDE Ltd. Gallwch lawrlwytho’r cyflwyniad yma North Wales Housing Presentation. Mae’r cyflwyniad yn edrych ar nifer o faterion sy’n gyffredin yng ngogledd Cymru, megis waliau a lloriau solet, amddiffyn yn erbyn glaw, ac awyru.
Taflen ffeithiau: Arbed ynni drwy ddefnyddio nwyddau gwyn effeithlon
Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 1: Sut mae’n gweithio
Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 2: Eich siâr chi o’r trydan dŵr a gynhyrchir
Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 2: Eich siâr chi o’r trydan haul a gynhyrchir
Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 3: Amserlen y Prosiect
Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 4: Awgrymiadau ar gyfer eich peiriant golchi a sychwr dillad
Y llawlyfr Ynni Lleol - Rhan 5: Uwchraddio i oleuadau Deuod Allyrru Golau (LED)