Cwestiynau Cyffredin Gan Gwsmeriaid Busnes

All unrhyw fusnes fod yn rhan o Ynni Lleol?

Bydd rhaid i chi fod ar yr un foltedd â’r cynhyrchydd.  I’r rhan fwyaf o Glybiau Ynni Lleol, foltedd isel bydd hyn (yr un ag sydd mewn tŷ domestig). Os mai ffatri ydych chi, efallai bod eich cysylltiad yn 11kV ond bydd y rhan fwyaf o fusnesau bach wedi eu cysylltu ar foltedd isel.  Siaradwch â ni os nad ydych yn siŵr.

All fy musnes elwa o fod yn rhan o Ynni Lleol?

Bydd hi’n dibynnu ar sawl peth faint all eich busnes elwa o ymuno ag Ynni Lleol:

  1. Pryd mae’r cynhyrchydd lleol yn debygol o gynhyrchu ynni (e.e. solar yn ystod y dydd)
  2. Pa mor hawdd fyddai i chi newid eich amser defnyddio trydan i amser pan mae’r trydan adnewyddol yn cael ei gynhyrchu

Er enghraifft, os yw eich cynhyrchydd lleol yn solar ac rydych yn gaffi sydd ar agor yn ystod y dydd ac yn aros ar agor yn hirach yn yr haf, mae’n debygol y gwnewch elwa o Ynni Lleol.  Mae hyn oherwydd y byddwch yn defnyddio’r rhan fwyaf o’ch trydan pan mae’r cynllun solar yn rhedeg. Efallai y gallwch arbed mwy drwy ddefnyddio pethau ar amser gwahanol.  Er enghraifft, yn hytrach na rhedeg eich peiriant golchi llestri ar ddiwedd y dydd, rhowch o ymlaen ganol dydd pan gewch y mwyaf o olau haul, a chyfradd ganol dydd ar y tariff amser defnyddio yn weddol rad.

Ar y llaw arall, Os ydych yn dafarn sydd ddim ond ar agor gyda’r nos a’r cynhyrchydd lleol yn solar, yna efallai na fyddwch yn elwa o’r trydan solar a byddwch yn defnyddio ynni pan mae hi’n dywyll.

Os nad ydych yn siŵr a fedrwch chi newid amser eich defnydd trydan, a sut, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Os yw eich busnes yn defnyddio llawer o drydan, cofiwch mai dim ond cyfran o’ch trydan fydd yn dod o’r cynhyrchydd lleol. Mae’r trydan lleol yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng pob cartref a phob busnes sy’n defnyddio pŵer bob hanner awr. Bydd y gweddill o’ch trydan yn cael ei ddarparu ar gyfraddau busnes arferol Octopus.

Fydd pob busnes yn talu’r un pris?

Mae’r prisiau yn amrywio ar gyfer busnesau o wahanol fath a maint. Os oes gennych chi gysylltiad 3-chyfnod, bydd costau’r mesurydd yn wahanol – gofynnwch os nad ydych yn siŵr.

Os nad oes gennych chi eisoes fesurydd clyfar neu ‘advanced’ (mesurydd sy’n mesur bob hanner awr), yna bydd rhaid i chi fod ar un o dariffau busnes safonol Octopus Energy i ddechrau (Octopus Energy Business Tariffs). Gallwch weld tariffau busnes safonol Octopus Energy yma: https://octopus.energy/business/.

Unwaith y cewch eich mesurydd clyfar, byddwch yn elwa o’r ynni gwyrdd.

A fydd rhaid i mi dalu am fesurydd clyfar os yw fy safle yn defnyddio dros ryw uchafswm o drydan?

Dylai busnesau mawr gysylltu ag Octopus Energy i gael dyfynbris unigol ar yr ebost hwn: business@octopus.energy. Gwnewch yn siŵr eich bod yn dweud wrthyn nhw eich bod eisiau bod yn rhan o Ynni Lleol.

 

Yn ôl Cwestiynau Cyffredin